Lawrlwytho

Transcription

Lawrlwytho
3
04.
Cylchgrawn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
National Youth Arts Wales Magazine
HYDREF & GAEAF
AUTUMN & WINTER
Y RHIFYN GWYRDD
.
THE GREEN ISSUE
.
On tour
Bryn and Bond
Katherine’s chorus
per ormio
Ar daith
Bryn a Bond
.
.
Corws Katherine
croeso
“o ddawnsio i offerynnau pres, cerddorfeydd
i ddrama, mae Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru yn siop-un-stop ar gyfer
pobl ifanc dawnus Cymru”
Western Mail, 2004
“from dance to brass, orchestra to drama,
National Youth Arts Wales is the one stop
shop for Wales’s talented young people”
Western Mail, 2004
ormio
3
04.
welcome
Yn perfformio3, cewch grynodeb o berfformiadau a digwyddiadau'r
haf, yn ogystal â’r newyddion diweddaraf am Gelfyddydau
Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae
tîm Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru (FfCAC) wedi symud
i Fae Caerdydd, lle bydd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn ystod
misoedd agoriadol y Ganolfan.
Inside perfformio 3, you will find a round-up of this summer’s
performances and events, as well as the latest on NYAW at the
Wales Millennium Centre. The WAMF team has re-located to Cardiff
Bay where it will be organising several events over the Centre’s
opening months.
Yn y rhifyn Hydref/Gaeaf hwn, byddwn hefyd yn dathlu’r cyfraniad
y mae aelodau presennol a chyn-aelodau wedi ei wneud i’r
byd cerddorol. O Bryn i Bond (y grŵp merched disglair, nid yr
ysbïwr gwên-deg rhyngwladol), mae CCIC wedi cael effaith fawr
– darllenwch y manylion i gyd yn y tudalennau canol.
In this Autumn/Winter issue, we also celebrate the contribution that
members past and present have made to the world of music. From
Bryn to Bond (glitzy girl band, not suave international spy), NYAW has
made a huge impact – read the inside story on our centre pages.
Rydym wrthi’n brysur yn cynnal clyweliadau ar gyfer ein holl grwpiau
perfformio. Os hoffech wybod mwy, trowch at y Dyddiadur am ragor
o fanylion.
Auditions are in full swing for all our performance groups. If you
would like to know more, turn to our Diary for further details.
Penny - golygydd perfformio
[email protected]
Penny - perfformio editor
[email protected]
Llun/picture: Whispers in the Woods/Sibrydion
Llun/picture: Alun Pugh & NYOW/CGIC
Llun/picture: Whispers in the Woods/Sibrydion
Ar Daith
Tour Bus
O neuadd ddawns Art Deco i neuadd gyngerdd fawreddog yn Berlin,
dangosodd aelodau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eu
talentau mewn amrywiaeth o leoliadau yr haf hwn. I’r rhai hynny na
lwyddodd i gael tocynnau i un o’r digwyddiadau, roedd cyfle i gael cip
ar un o grwpiau CCIC ar BBC Cymru neu S4C wrth i griwiau camera
holi’r perfformwyr gefn llwyfan.
From an Art Deco ballroom to a festival concert hall in Berlin,
members of National Youth Arts Wales showcased their talents in
a variety of settings this summer. For those unable to secure tickets
for an event, there was always the chance to catch one of the
NYAW groups on BBC Wales, or S4C, as camera crews caught
up with performers behind-the-scenes.
Roedd criw newyddion teledu o’r BBC wrth law i recordio trip
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i Berlin, lle cododd y
gynulleidfa i’w cymeradwyo ddim llai na phum gwaith yng Ngŵyl
w
wyl
Young Euro Classic. Cyfrannodd Llywodraeth Cynulliad Cymru
£15,000 i gefnogi ymweliad y Gerddorfa, ac aeth y Gweinidog
Diwylliant, Alun Pugh, i Berlin yn arbennig i gefnogi’r cerddorion
ifanc a oedd ar y llwyfan yn y Konzerthaus adferedig crand yn y
Gendarmenmarkt. Diolch hefyd i Gyfeillion CCIC, a gyfrannodd
£5,000 at daith y Gerddorfa i Berlin; roedd hi hefyd yn braf gweld
nifer o’r Cyfeillion yn y gynulleidfa.
A BBC television news crew was on hand to record the National
Youth Orchestra of Wales trip to Berlin where it received no fewer
than five standing ovations at the Young Euro Classic Festival.
The Welsh Assembly Government contributed £15,000 to
support the Nash’s appearance and Culture Minister, Alun Pugh,
flew out to Berlin specially to support the young musicians, who
took to the stage at the impressively restored Konzerthaus in the
Gendarmenmarkt. Thanks also to the Friends of NYOW, who
contributed £5,000 to the Orchestra’s Berlin trip; it was also great
to see so many Friends in the audience.
"Mae’r Gerddorfa yn llysgennad gwych, ac yn brawf amlwg o’r
stôr o dalent sydd gyda ni fel cenedl," dywedodd Mr Pugh mewn
araith i dderbyniad llawn yn Llysgenhadaeth Prydain ar ôl cyngerdd y
Gerddorfa.
"The Orchestra is an excellent ambassador and clearly shows the
wealth of talent we have as a nation," Mr Pugh said in a speech
given at a packed reception at the British Embassy following the
Orchestra’s concert.
Roedd y Gerddorfa hefyd wedi creu argraff ar feirniaid cerddorol
Berlin (ymhlith y mwyaf llym yn Ewrop): "Mae’r offerynwyr ifanc hyn
o Gymru yn ymroddgar, yn dangos rhagoriaeth dechnegol a sylw
i fanylion," ysgrifennodd Klaus Geitel yn y Berliner Morgenpost.
Roedd Frederik Hanssen yn Der Tagesspiegel yn cytuno: "Roedd y
Gerddorfa o Gymru yn wych, yn arbennig yr offerynwyr taro cŵl."
Roedd Momentum Ceiri Torjussen, a oedd yn rhan o’r rhaglen,
wedi creu argraff arbennig ar y gynulleidfa, a oedd gan fwyaf yn
bobl ifanc. Mae gan yr ŵyl bolisi o hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr
ifanc, a dewiswyd Ceiri – sy'n ddim ond 28 oed ac yn gyn-aelod o’r
Gerddorfa – i gynrychioli Cymru gan arweinydd CCIC, Owain Arwel
Hughes.
Berlin’s music critics (some of the toughest in Europe) were also
impressed: "These young Welsh players possess dedication,
technical superiority and attention to detail," wrote Klaus Geitel
in Berliner Morgenpost. Der Tagesspiel’s Frederik Hanssen
agreed: "the Welsh Orchestra was tops, above all the cool
percussionists." The predominantly young audience was
particularly impressed with Ceiri Torjussen’s Momentum, which
formed part of the programme. The Festival has a policy of
promoting the work of young composers and Ceiri – who is just
28 and a former member of the "Nash"– was chosen to represent
Wales by NYOW Conductor, Owain Arwel Hughes.
Llun/picture: DGIC/NYDW
Alun Hoddinnott celebrated his 75th birthday by composing a new
work for the National Youth Brass Band of Wales, who featured
in another On Show programme dedicated to the Welshman’s
career. And the Band was amongst the cheerleaders supporting
The Memo in Newbridge, as it battled for funds in the BBC’s
popular series, Restoration. Unfortunately, The Memo didn’t win
through, unlike the Band which won a standing ovation and an
invitation to return to play in the spectacular Art Deco interior. It
must have been its rousing rendition of the Harry Potter theme
tune that did the trick!
Ar Daith
Tour Bus
Dathlodd Alun Hoddinnott ei ben-blwydd yn 75 drwy gyfansoddi darn
newydd ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a gafodd
sylw mewn rhaglen arall o On Show, a oedd yn ymdrin yn arbennig â
gyrfa’r Cymro. Roedd y Band hefyd ymysg y rhai fu’n cefnogi'r Memo
yn Nhrecelyn wrth iddo gystadlu am nawdd yng nghyfres boblogaidd
y BBC, Restoration. Yn anffodus, aflwyddiannus fu'r Memo, yn
wahanol i’r band a gafodd gymeradwyaeth frwd a gwahoddiad i
ddychwelyd i chwarae yn yr awyrgylch Art Deco trawiadol. Mae’n
rhaid mai ei berfformiad cynhyrfus o arwyddgan Harry Potter oedd y
cynhwysyn hud!
Llun/picture: Whispers in the Woods/Sibrydion
Henri Oguike, the new Artistic Director for NYDW, dropped into
the BBC’s On Show studio for a discussion with presenter Aled
Jones and Welsh film director Marc Evans, prior to opening Spatial
Signatures at Theatr Brycheiniog with young dancers from Wales.
Spatial Signatures was also nominated as The Guardian’s Pick of
the Week.
Llun/picture: Simone Rebello NYBBW/BPCIC
Llun/picture: Whispers in the Woods/Sibrydion
Ar Daith
Ar Daith
Bus
TourTourBus
Ymwelodd Henri Oguike, Cyfarwyddwr Artistig newydd DGIC, â
stiwdio On Show y BBC i drafod gyda’r cyflwynydd, Aled Jones,
a’r cyfarwyddwr ffilm o Gymru, Marc Evans, cyn agoriad Spatial
Signatures yn Theatr Brycheiniog gyda dawnswyr ifanc o Gymru.
Cafodd Spatial Signatures hefyd ei enwebu ar gyfer Pick of the Week
yn The Guardian.
Trodd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru y chwedl draddodiadol
ar ei phen yn ei berfformiad o Sibrydion Greg Cullen. Disgrifiodd
David Adams, mewn adolygiad ar gyfer y Western Mail, y sioe fel
"cymysgedd dros ben llestri fendigedig o chwedloniaeth, myth,
rhamant a ffantasi Hollywoodaidd
Hollywoodaidd". I fyfyrwyr ar y cwrs pum wythnos,
nid pwysau dysgu’r dawnsio step Apalachaidd, na’r canu pedwar
llais oedd yr unig bethau i'w cadw ar bigau'r drain – roedden nhw
hefyd yn cael canlyniadau eu harholiadau yn ystod yr ymarferion yng
Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, digwyddiad a ddangoswyd
yn fyw ar y rhaglen Newyddion ar S4C.
The National Youth Theatre of Wales turned the traditional fairy
story upside down in its production of Greg Cullen’s Whispers
in the Woods. David Adams reviewing for the Western Mail
described the show as "a gloriously extravagant ragbag of
fairytale, myth, romance and Hollywood fantasy". For students on
the five-week long course, it wasn’t just the pressure of learning
Appalachian step-dancing, or singing in harmony that had them
chewing their nails – they also received their exam results during
rehearsals at the Aberystwyth Arts Centre, an event captured live
on S4C for Newyddion.
Felly mae haf arall o deithio wedi dod i ben, ond does neb yn
gorffwyso (waeth faint maen nhw’n haeddu hynny). Yn ystod yr hydref/
gaeaf bydd CCIC yn cynnal clyweliadau ar hyd a lled y wlad. Trowch
at y dyddiadur am fanylion pellach – pwy a ŵyr, efallai mai CHI fydd
yn chwarae’n fyw ar y teledu neu ar lwyfan cyngerdd y flwyddyn nesaf.
So, another summer’s touring over, but no one’s resting on their
laurels (however well deserved). During this Autumn/Winter, NYAW
hosts auditions the length and breadth of the country. Check our
Diary for further details – who knows, it could be YOU playing live
on television, or on a concert stage next year.
Erchyll o Soniarus!
Bydd y soprano Katherine Jenkins yn rhyddhau CD newydd yn yr
hydref, ac arno grŵp cefndir arbennig iawn – Côr Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru. Cafodd gweinyddwr Ffederasiwn Cerddoriaeth
Amatur Cymru, Chris Sharpe, sgwrs â Katherine pan ddaeth hi
i recordio gydag aelodau’r Côr yn ystod eu cwrs preswyl yng
Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin:
Mae hoffter Hannibal Lector o opera yn un o'r nodweddion yn ei
gymeriad sy’n dueddol o gael eu hanghofio, ond nid gan y soprano o
Gastell Nedd, Katherine Jenkins. Pan gafodd ei herio i ddod o hyd i
ddeunydd ar gyfer ei hail CD, cofiodd yn syth am y gwaith pwerus Vide
Cor Meum, a gyfansoddwyd gan Patrick Cassady yn arbennig ar gyfer
y ffilm arswyd lwyddiannus gyda’r actor o Gymru, Syr Anthony Hopkins
yn chwarae’r brif ran.
Aeth Katherine hefyd yn ôl at ei gwreiddiau wrth recordio’r CD;
defnyddiodd dalentau lleisiol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i
gydganu â hi yn y ddeuawd bwerus. Fel cyn-aelod o’r Côr, teimlai
y byddai ei "sain bur" yn gweddu i’w llais ac yn cyfrannu rhywbeth
ychydig yn wahanol at y prosiect. Yn y diwedd, gwnaeth y Côr gymaint
o argraff arni, aeth ymlaen i recordio darnau eraill ar gyfer y CD, gan
gynnwys Calon Lân.
Gory, gory hallelujah!
"Mae adran y dynion yn y Côr eleni yn arbennig o gryf, ac roedden
nhw’n swnio’n fendigedig yn perfformio Calon Lân yn y stiwdio,"
eglurodd. "Ond rwy’n ofnadwy o ddiolchgar i holl aelodau’r Côr am
eu cyfraniad. Roedd y llwyth gwaith yr oedd hyn yn ei olygu wedi
ychwanegu’n fawr at haf a oedd eisoes yn eithriadol o brysur."
Soprano Katherine Jenkins releases a new CD this Autumn and it
features a very special backing group – the National Youth Choir
of Wales. WAMF administrator, Chris Sharpe, caught up with
Katherine when she came to record with the Choir’s members
during their summer residency at Trinity College, Carmarthen:
"This year’s male section of the Choir is particularly strong and it
sounded wonderful performing Calon Lân in the studio," she explains.
"But I’m extremely grateful to all the Choir members for their input. The
work load we imposed on them added to an already hectic summer
schedule."
Y thema ar gyfer CD diweddaraf Katherine yw perfformio darnau
corawl traddodiadol gyda thro modern, gan gynnwys y perfformiad
cyntaf gan soprano o O Sole Mio. Ond mae’n datgelu bod ganddi un
uchelgais arall yn y cyfamser.
Hannibal Lector’s taste for opera tends to be one of his more
overlooked characteristics, but not for Neath-born soprano, Katherine
Jenkins. When she was challenged to come up with material for her
second CD she immediately recalled the powerful opus Vide Cor
Meum, specially composed by Patrick Cassady for the hit horror film
starring Welsh actor Sir Anthony Hopkins.
Katherine’s latest CD takes for its theme the performance of traditional
choral pieces with a modern twist, including the first performance by a
soprano of O Sole Mio. But there is one more ambition to fulfil in the
meantime, she reveals.
"Byddai’n wych cael perfformio’n fyw gyda’r Côr rywbryd yn y dyfodol
agos." Cadwch eich llygaid ar agor.
Beth am roi cynnig ar ein cystadleuaeth i ennill copi wedi ei lofnodi o
CD Katherine? Mae yma BUM copi i’w hennill. Atebwch y cwestiwn
(ofnadwy o hawdd!) isod a’i anfon gyda’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt
a chyfeiriad e-bost at: Cystadleuaeth CD Katherine Jenkins, CCIC, 245
Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX erbyn Ionawr 10 2005.
C: Pa lofrudd enwog yn y byd ffilmiau a ysbrydolodd CD
diweddaraf Katherine?
Recording for the CD also took Katherine back to her roots as she
enlisted the vocal talents of the NYCW to accompany her for the
powerful duet. A former member of the Choir, she felt that its "pure
sound" would both complement her voice and bring something a little
bit extra to the project. In the end, she was so impressed by the Choir
she went on to record further tracks for the CD, including Calon Lân.
"It would be terrific to perform live with the Choir sometime in the
near future." Watch this space!
Enter our competition and win a signed copy of Katherine’s CD. We
have FIVE copies up for grabs. Just answer the (really easy!) question
below and send it with your name, address, contact telephone number
and email to: Katherine Jenkins CD Competition, NYAW, 245 Western
Avenue, Cardiff CF5 2YX by January 10 2005.
Q: Which infamous serial killer on film inspired Katherine’s latest
CD?
cadwTwrw.
bigNoise.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi lansio
gyrfa sawl canwr a cherddor o Gymru. Dyma bedwarawd a
fyddai’n gwneud i unrhyw hyrwyddwr ruthro at ei ffôn. Cofiwch,
cawson nhw i gyd eu gweld gyntaf yn un o’n grwpiau ni!
National Youth Arts Wales has launched the career of
many Welsh singers and musicians. Here is a quartet that
would make any promoter rush to the ‘phone. Remember,
they were all seen first with one of our groups!
Bryn Terfel
Katherine Jenkins
Eos Chater
John Cale
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: 1984
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: 1996 – 99
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru: 1992 – 95
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru: 1957 – 62
Er bod nifer yn gyfarwydd â gyrfa lwyddiannus Bryn yn recordio ac ar
y llwyfan, ni fyddai llawer yn gwybod iddo gychwyn canu yng Nghôr
Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. A dweud y gwir, cymerodd y canwr
bas-bariton enwog ran yng nghwrs cyntaf y Côr, a gynhaliwyd yng
Ngwesty’r Bay yn Aberystwyth fis Tachwedd 1984, lle bu’n canu unawd
yn Rejoicing the Lamb Benjamin Britten. A’i farn am y cwrs? "Beth am
i’r athrawon a’r trefnwyr brynu peint i bawb y tro nesaf!!!!!
nesaf!!!!!"
Mae’n siŵr mai Katherine yw soprano enwocaf y foment, ac mae
hithau’n gyn-aelod arall o’r Côr. Bydd yn dilyn esiampl Tom Jones cyn
hir drwy ymddangos mewn cyngerdd mawreddog yn Las Vegas. Fodd
bynnag, roedd ganddi ddigon o amser i ofyn am help y Côr i recordio ei
halbwm newydd – mewn lleoliad sydd ychydig yn llai amlwg, sef stiwdio
sain yng Nghaerfyrddin.
Y ferch o Gaerdydd, Eos Chater, yw ail feiolinydd y pedwarawd arloesol
Bond, yr ensemble cerddorol sy'n croesi ffiniau ac sydd newydd ryddhau
eu hail albwm, Classified. Yn gyn-aelod o Gerddorfa Genedlaethol
Ieuenctid Cymru, mae Eos ar ganol taith hyrwyddo brysur ar hyn o
bryd, ond mae hi’n cyfaddef i'w hyfforddiant clasurol fod yn hanfodol ar
gyfer bywyd ar y ffordd. "Mae i gyd i’w wneud â datblygu eich sgiliau
ymarferol," meddai. "A gwnewch yn siŵr bod eich rheolwr yn un da".
Rhwng chwarae’r fiola gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid
Cymru a chyrraedd y brig gyda’r band enwog o’r chwedegau, Velvet
Underground, mae’r gŵr o Rydaman, John Cale, wedi ysbrydoli llwythi
o gerddorion a chynhyrchwyr ffilm, gan gynnwys y Cymro Marc Evans.
Roedd yn adnabyddus yn y Gerddorfa am wisgo sbectol haul wrth
chwarae’r clasuron – fel y gallwch weld o’r ffotograff yn ein harchif.
National Youth Choir of Wales: 1984
National Youth Choir of Wales: 1996 – 99
National Youth Orchestra of Wales: 1992 – 95
National Youth Orchestra of Wales: 1957 – 62
Whilst many are familiar with Bryn’s successful recording and stage
career, few might realise he started out singing with the National Youth
Choir of Wales. In fact, the celebrated bass-baritone was a student
on the Choir’s inaugural course held at the Aberystwyth Bay Hotel
in November 1984, singing solo on Benjamin Britten’s Rejoicing the
Lamb. And his verdict? "Why don’t the teachers and organisers buy us
all a pint next time!!!!!"
Probably the most famous soprano around at the moment, Katherine
is another former Choir member. She’s following in the footsteps
of Tom Jones and appearing in a glitzy concert programme in Las
Vegas soon, but still found time to enlist the support of the NYCW to
record her new album in a rather less high profile venue – namely, a
recording studio in Carmarthen.
Cardiff’s Eos Chater is second violinist for the ground-breaking quartet
Bond, a cross-over music-making ensemble which has just released
its second album, Classified. A former member of the National Youth
Orchestra of Wales, Eos is in the midst of a whistle-stop promotional
tour at the moment, but admits her classical training was vital for
dealing with life on the road. "It’s all about developing your practical
skills," she says, "And get a good manager."
From playing viola with the National Youth Orchestra of Wales to
hitting the high notes with legendary Sixties band Velvet Underground,
Ammanford-born John Cale has been an inspiration for countless
musicians and film makers, including Wales’ Marc Evans. He was
renowned in the Orchestra for playing the classics wearing his
sunglasses – as our archive photograph reveals.
New horizons
Ar y gorwel
Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ei drysau ym mis Tachwedd a bydd Celfyddydau
Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yno! Bydd gan ein cydweithwyr yn Ffederasiwn Cerddoriaeth
Amatur Cymru swyddfeydd newydd sbon yn y ganolfan newydd arloesol – yn ogystal â stiwdio
sain. Beth allwn ni ei ddisgwyl? Mae Keith Griffin yn rhoi hanes y bennod ddiweddaraf:
Cantorion, cyfansoddwyr, offerynwyr pres ac un canwr bas-bariton enwog iawn fydd cyfraniad
CCIC i agoriad Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Offerynwyr Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fydd yn chwarae rhai o’r nodau cyntaf,
gyda ffanffer agoriadol a gyfansoddwyd gan Gareth Glyn. Byddant yn perfformio ar risiau blaen
yr adeilad brynhawn Gwener Tachwedd 26, wrth i’r drysau gael eu hagor am y tro cyntaf gydag
allwedd sydd eisoes wedi teithio’r byd.
Wedyn bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio darn o waith Karl Jenkins a
gomisiynwyd yn arbennig, In these stones horizons sing, ac ar ôl hynny bydd aelodau o’r cyhoedd
yn cael camu i mewn i’r Ganolfan am y tro cyntaf. Bydd y Côr yn ymuno â Chôr Cyfun Enfawr i
berfformio’r darn cyfan ar gyfer y Gala Brenhinol ddydd Sul, Tachwedd 28, dan arweinyddiaeth
Karl Jenkins ei hun. Bryn Terfel fydd yr unawdydd gwadd – Llywydd CCIC a chyn-aelod.
"Chewch chi mo’r cyfle i berfformio y tu allan a’r tu mewn i adeilad yn aml," yn ôl Keith,
"Ry’n ni wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiad mor hanesyddol."
Mae Karl Jenkins siŵr o fod yn un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru, ac mae ei
wreiddiau ef hefyd yn CCIC. Mae Karl yn gyn-aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru,
ac ef yw Llywydd presennol Cyfeillion CCIC.
O Noson Guto Ffowc ymlaen,
bydd swyddfa Tŷyŷ Cerdd yn
Tŷyŷ Cerdd-Music Centre Wales,
Canolfan Mileniwm Cymru,
Bute Place, Caerdydd, CF10 5AL
e: [email protected]
"Roedd hi’n briodol, wrth inni gychwyn pennod newydd, inni ddathlu llwyddiannau’r aelodau
presennol a’r cyn-aelodau," ychwanegodd Keith. "Gall cantorion y côr presennol ddysgu
gan ganwr byd-enwog fel Bryn, yn ogystal â mynd i’r afael â chomisiwn newydd sbon, gyda’r
cyfansoddwr ei hun yn eu tywys drwy wahanol adrannau ei waith."
26 Tachwedd | 3.30pm | Seremoni Agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Offerynwyr Pres Symffoni Cenedlaethol Ieuenctid
Cymru Ffanffer – Gareth Glyn; In these stones horizons sing (detholiad yn unig) – Karl Jenkins
28 Tachwedd | 7.30pm |-Cyngerdd Gala Brenhinol Canolfan Mileniwm Cymru
In these stones horizons sing (perfformiad cyntaf) – Karl Jenkins
Tocynnau a gwybodaeth: CMC 08700 40 2000
www.wmc.org.uk
The Wales Millennium Centre opens its doors in November and National Youth Arts
Wales will be there! Our colleagues in WAMF will be resident at the new, state-of-the-art
centre in a suite of brand new offices – and a recording studio. What can we expect?
Keith Griffin fills us in on the latest chapter:
Choristers, composers, brass players and one very famous bass-baritone will make up the
NYAW contribution to the opening of the Wales Millennium Centre in Cardiff.
Some of the first notes to be sounded will be courtesy of National Youth Symphonic Brass
Wales performing an opening fanfare, composed by Gareth Glyn. It will perform from the steps
of the building on the afternoon of Friday November 26, just as the doors are ceremoniously
opened for the first time using a key that has already travelled the world.
The National Youth Choir of Wales will then sing an extract from Karl Jenkins’ speciallycommissioned work “In these stones horizons sing”, following which members of the public
will take their first steps inside the Centre. The Choir will join a Massed Choir of Voices
performing the work in its entirety for the Royal Gala on Sunday, November 28, under the
baton of Karl Jenkins himself. Guest soloist will be Bryn Terfel – President of NYCW and a
former member.
"It’s not often you have the opportunity to perform both inside and outside a venue," Keith
points out, "We are really looking forward to taking part in such an historic occasion."
Karl Jenkins is probably one of Wales’ best-known composers, and he too has his musical
roots in NYAW. Karl is a former member of the National Youth Orchestra of Wales and is
currently President of the Friends of NYOW.
From Bonfire Night, Tŷyŷ Cerdd
will be resident at:
Tŷyŷ Cerdd-Music Centre Wales,
Wales Millennium Centre,
Bute Place, Cardiff, CF10 5AL
e: [email protected]
"It felt appropriate as we turn a new chapter to celebrate the achievements of members past
and present," adds Keith. "Today’s choristers can learn from an internationally-celebrated
singer like Bryn, as well as tackle a brand new commission with the composer himself taking
them through the different sections of his work."
26 November | 3.30pm | Opening Ceremony Wales Millennium Centre
National Youth Choir of Wales & National Youth Symphonic Brass Wales
Fanfare – Gareth Glyn; In these stones horizons sing (extract only) – Karl Jenkins
28 November | 7.30pm | Royal Gala Concert Wales Millennium Centre
In these stones horizons sing (premiere) – Karl Jenkins
Llun/picture: Nicola Haywood-Thomes, Steven Luke, Caroline Sheen, Pauline Crossley
Llun/picture: Nicola Heywood-Thomas
Mawrion busnes yn camu i’r llwyfan...
Business moguls enter the limelight...
Mynychodd ffigurau allweddol ym myd busnes ddau berfformiad
arbennig iawn o Whispers in the Woods/Sibrydion ym mis Medi.
Cafodd Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, a Theatr y Sherman,
Caerdydd, eu trawsnewid yn lleoliadau coedwig prydferth er mwyn
lansio menter newydd sbon a fydd yn ceisio ennill nawdd busnes
hanfodol i hyrwyddo celfyddydau cenedlaethol ieuenctid ar draws
Cymru.
Key figures from the world of business attended two very special
performances of Whispers in the Woods/Sibrydion in September.
Aberystwyth Arts Centre and the Sherman Theatre in Cardiff were
transformed into picturesque woodland settings for the launch of a
brand new initiative, which aims to win vital business sponsorship for
the promotion of national youth arts throughout Wales.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi creu
partneriaeth ag ARUP ac Arts & Business Cymru er mwyn datblygu
Rhwydwaith Aelodau Busnes, a fydd yn sicrhau blaenoriaeth wrth
fwcio tocynnau a chynigion neilltuedig eraill i gwmnïau sy’n awyddus i
noddi gwaith CCIC.
Os oes gennych ddiddordeb mewn
bod yn Aelod Busnes, cysylltwch â:
e: [email protected]
ff: 029 20 265033
g: www.nyaw.co.uk
Cymerodd y seren o’r West End, Caroline Sheen – cyn-aelod o Theatr
Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, seibiant o’i gwaith yng nghynhyrchiad
y Theatr Cenedlaethol, A Funny Thing Happened on the Way to the
Forum, i ymuno â gwesteion busnes yn Theatr y Sherman.
"Mae hyn wir yn gyfle gwych i gefnogi cenhedlaeth newydd o
berfformwyr," eglurodd Caroline. "Bu ThCIC yn gam pwysig i mi, fel y
bu i nifer o actorion a chantorion eraill. Bydd y Rhwydwaith yn sicrhau
y bydd hyn i gyd yn parhau, ond mae hefyd yn fodd i bobl ddarganfod
mwy am yr holl broses o gynhyrchu sioe a theimlo’n rhan o dîm
gwirioneddol ymroddgar. Rwy’n gobeithio y bydd busnes yng Nghymru
yn cymryd rhan – mae’n hwyl yn gymdeithasol, ac mae hefyd yn rhoi
cyfle i CCIC ddatblygu ei gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol."
National Youth Arts Wales has joined forces with ARUP and Arts &
Business Cymru to develop a Business Members’ Network, ensuring
priority bookings and other exclusive offers to companies keen to
sponsor the work of NYAW.
If you are interested in becoming a
Business Member, please contact:
e: [email protected]
t: 029 20 265033
w: www.nyaw.co.uk
West End star, Caroline Sheen – a former member of National
Youth Theatre of Wales, took time off from her run in the National
Theatre’s A Funny Thing Happened on the Way to the Forum, to
join business guests at the Sherman Theatre.
"It really is a fantastic opportunity to support a new generation of
performers," Caroline explained. "NYTW was an important stepping
stone for me, as it has been for many other young actors and
singers. The Network will ensure all this continues, but it’s also a
way for people to discover more about the whole process of a show
being put on and to feel part of a really committed team. I hope
businesses in Wales will get involved – it promises to be fun socially,
as well as offering NYAW a chance to develop its exciting plans for
the future."
Clyweliadau
Auditions
30 Tachwedd 2004 yw dyddiad cau y clyweliadau ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid
Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid
Cymru a Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cysylltwch â: Tŷ Cerdd 029 20 465 700.
Clyweliadau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Cysylltwch â Beryl Jones 029 20 265 047
Cynhelir Clyweliadau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o fis Tachwedd 2004 i Chwefror
2005. Cysylltwch â Gillian Wells 029 20 265 006.
30 November 2004 - deadline for auditions for National Youth Brass Band of Wales,
National Youth Choir of Wales, National Youth Wind Orchestra of Wales and
National Youth Jazz Wales. Contact: Tŷ Cerdd 029 20 465 700.
National Youth Orchestra of Wales Auditions
Contact Beryl Jones 029 20 265 047
National Youth Theatre of Wales Auditions will be held from November 2004 through
to February 2005. Contact Gillian Wells 029 20 265 006.
Gweithdai Agored Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
19 – 20 Chwefror a 26 – 27 Chwefror
Cysylltwch â Gillian Wells 029 20 265 006
National Youth Dance Wales Open Workshops
19 – 20 February and 26 – 27 February. Contact Gillian Wells 029 20 265 006
Cwrs Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
24 – 28 Mawrth. Cysylltwch â: Tŷ Cerdd 029 20 465 700.
National Youth Jazz Wales course at Wales Millennium Centre, Cardiff. 24 – 28 March
Contact: Tŷ Cerdd 029 20 465 700.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn parhau i gydweithredu â
Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2 – 4 Mawrth 2005.
Cysylltwch â Beryl Jones 029 20 265 047
National Youth Orchestra of Wales continues its collaboration with BBC National
Orchestra of Wales. 2 – 4 March 2005. Contact Beryl Jones 029 20 265 047
Cyngerdd cyhoeddus Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru/CGG y BBC
4 Mawrth 7.30pm yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe. Tocynnau: £5 (£2.50 cons)
Arweinydd: Eric Stern. Unawdwyr: Daniel de Gruchy-Lambert (trwmped) a Rhys Taylor (clarinet).
Mae Daniel yn aelod o CGIC a chyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn
2004, tra bod Rhys Taylor yn gyn-aelod o CGIC. Y cyngerdd i gynnwys: An American in Paris
(Gershwin) a Symphonic Dances o West Side Story.
Cwrs Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
5 - 9 Ebrill. Cysylltwch â Tŷ Cerdd 029 2046 5700
Hysbysiad o Flaen Llaw
Cyrsiau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 23 – 30 Gorffennaf
Cwrs Haf Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 18 – 31 Gorffennaf (i’w gadarnhau)
Cwrs Haf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 24 Gorffennaf – 6 Awst (i’w gadarnhau)
Cwrs Haf Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 8 Awst – 10 Medi (i’w gadarnhau)
National Youth Orchestra of Wales/BBC NOW public concert
4 March 7.30pm at Branwyn Hall, Swansea. Tickets: £5 (£2.50 concs)
Conductor: Eric Stern. Soloists: Daniel de Gruchy-Lambert (trumpet) & Rhys Taylor
(clarinet). Daniel is a member of NYOW and was a finalist in Young Musician of the
Year 2004, whilst Rhys Taylor is a former member of NYOW. Repertoire to include: An
American in Paris (Gershwin) and Symphonic Dances from West Side Story.
National Youth Wind Orchestra of Wales course at Wales Millennium Centre.
5 – 9 April. Contact Tŷ Cerdd 029 2046 5700
Advance Notice
National Youth Brass Band of Wales and National Youth Choir of Wales
Summer courses at Wales Millennium Centre. 23 – 30 July
National Youth Dance Wales Summer Course 18 – 31 July (tbc)
National Youth Orchestra of Wales Summer Course 24 July – 6 August (tbc)
National Youth Theatre of Wales Summer Course 8 August – 10 September (tbc)
Llun/picture: Whispers in the Woods/Sybridion
diary
Llun/picture: JCIC/NYJW
dyddiadur
Llongyfarchiadau i Patrick Bidder! Patrick, sy’n chwarae’r ffidil gyda’r
Gerddorfa Ieuenctid, enillodd y fedal lenyddiaeth i ddysgwyr yn Eisteddfod
yr Urdd eleni. Fel rhan o’r darn llwyddiannus, ymbiliodd Patrick, o Gaerdydd,
am fwy o arian ar gyfer addysg gerddorol yng Nghymru.
Llongyfarchiadau Patrick Bidder! Patrick, who plays the violin with the
"Nash," was winner of the literary medal for Welsh learners at this year’s
Urdd Eisteddfod. Patrick, from Cardiff, made a plea for more money for
music education in Wales as part of his prize-winning submission.
Mae pump o fyfyrwyr Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi
creu cymaint o argraff ar drefnwyr A Weekend of Jazz y Birmingham
Conservatoire, fel bod pob un o’r pump wedi cael ysgoloriaeth i’w galluogi
i fynychu’r digwyddiad deuddydd yn yr Hydref. Y pump yw: Iestyn Jones
(Caerfyrddin), Ben Franks (Caerdydd), Tommy Pearson (Ceredigion),
Nicholas Mead (Abertawe) a Tom Lumley (Gwynedd).
Five students from National Youth Jazz Wales have impressed the
organisers for Birmingham Conservatoire’s A Weekend of Jazz to such an
extent that they have each received scholarships to enable them to attend
the two-day event in the Autumn. They are: Iestyn Jones (Carmarthen), Ben
Franks (Cardiff), Tommy Pearson (Ceredigion), Nicholas Mead (Swansea)
and Tom Lumley (Gwynedd).
Rhagor o wobrwyon, y tro hwn i fynychwyr cwrs haf Cerddorfa
Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2004. Llongyfarchiadau i: Ciaran Jenkins
(Gwobr Ffrancon Thomas); Sarah Cresswell (Gwobr Haydn Davies); Simon
Cox (Gwobr Goronwy Evans); Sarah Broder (Gwobr Elgar Howarth); Elen
Haf Richards (Gwobr Cyfeillion CGIC) a Natasha Fevre a Sarah Roberts
(Gwobr Gwynne Edwards).
More prize winners, this time from the NYOW 2004 summer course. A
round of applause for: Ciaran Jenkins (Ffrancon Thomas Prize); Sarah
Cresswell (Haydn Davies Prize); Simon Cox (Goronwy Evans Prize); Sarah
Broder (Elgar Howarth Prize); Elen Haf Richards (Friends of NYOW Prize)
and Natasha Fevre and Sarah Roberts (Gwynne Edwards Prize).
Mae dau o gyn-fyfyrwyr Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gwneud
argraff ar y llwyfan yn Llundain mewn cynhyrchiad o cancer time gan y
dramodydd arobryn o Gymru, Gary Owen. Ymddangosodd Karen Paullada
a Tonya Smith yn nhafarn y Latchmere, Battersea, ym mis Medi, gan
dderbyn adolygiadau rhagorol am eu portread o ddwy fenyw ifanc yn lladd
amser mewn canolfan alwadau.
Two former NYTW students have made their mark on the London stage in
a production of cancer time by the award winning Welsh playwright Gary
Owen. Karen Paullada and Tonya Smith were appearing at the Latchmere
Pub, Battersea, in September and received great reviews for their portrayal
of two young women killing time in a call centre.
Andrew O’Neill
Rheolwr CGIC/NYOW Manager
Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth Andrew O'Neill.
Ymunodd Andrew â thîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
yn Ebrill 2002 fel Rheolwr Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Cyfrannodd i'r swydd nid yn unig ei frwdfrydedd a'i arbenigedd mewn
cerddoriaeth, ond hefyd ei brofiad helaeth gyda'r cyfryngau – yn arbennig
yng Nghymru – a'i brofiad hefyd o reoli digwyddiadau.
Roedd Andrew yn hynod o falch o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid
Cymru ac, fel cyn-aelod ei hun, roedd wrth ei fodd bod y rhod wedi troi'n
llawn a'i fod ef ei hun yng nghanol berw cerddoriaeth ieuenctid unwaith eto.
Gydag arweiniad Andrew, mae'r Gerddorfa wedi gweld nifer o newidiadau
mewn polisi a gweithdrefnau dros y deunaw mis diwethaf - pob un ohonynt
â’r nod o ddod â mwy o amlygrwydd i’r Gerddorfa a dathlu ei champau
sylweddol. Un digwyddiad arbennig o arwyddocaol oedd ymweliad
diweddar y Gerddorfa â Berlin, lle gwahoddwyd hi i berfformio gan Wyl yr
Young Euro Classic. Yn anffodus, ni fu modd i Andrew ddod ar y daith, ond
roedd ei galon yno gyda'r tîm a chafodd fwynhau'r hanesion bendigedig am
yr ymweliad pan ddaeth y Gerddorfa'n ôl i Gymru.
Roedd hiwmor a synnwyr digrifwch Andrew yn goleuo'r gweithle; bydd ei
ffrindiau yn CCIC a phawb sydd â chysylltiad â'r Gerddorfa Ieuenctid yn ei
golli'n fawr iawn.
It is with great sadness that we report the death of Andrew O'Neill.
Andrew joined the team of National Youth Arts Wales in April 2002 in the
role of Manager of the National Youth Orchestra of Wales. He brought to
the post not only his enthusiasm for and expertise in music, but also his
considerable experience with the media – particularly in Wales – and in
event management.
Andrew was tremendously proud of the National Youth Orchestra of Wales
and, as a former member himself, was delighted to come full-circle and find
himself in the midst of youth music once again. With Andrew’s guidance,
the Orchestra has seen a number of policy shifts and procedural changes
over the past 18 months – all of which are designed to raise the profile of
the Orchestra and celebrate its considerable achievements. Of particular
significance was the Orchestra’s recent trip to Berlin, where it performed at
the invitation of the Young Euro Classic Festival. Sadly, Andrew was unable
to attend but he was with the team in spirit, and was able to share and enjoy
the many, wonderful reports upon the Orchestra’s return to Wales.
Andrew brought a great sense of fun and good humour to the workplace; he
will be missed by his friends at NYAW and by all associated with The Nash.
per ormio
Bulletin . Bwletin
Rheolir Celfyddydau Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru (CCIC) gan GydBwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a
Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru
(FfCAC). Mae CBAC yn gofalu am y
rhaglenni Dawns Ieuenctid, Cerddorfa
Ieuenctid a Theatr Ieuenctid Cenedlaethol,
a FfCAC yn gyfrifol am Fand Pres
Ieuenctid, Cor Ieuenctid, Band Pres
Symffonig, Jazz Ieuenctid a Cherddorfa
Chwyth Ieuenctid.
National Youth Arts Wales (NYAW) is
managed by the Welsh Joint Education
Committee (WJEC) and the Welsh
Amateur Music Federation (WAMF).
The WJEC looks after the National Youth
Dance, Youth Orchestra and Youth
Theatre programmes, whilst WAMF is
responsible for the Youth Brass Band,
Youth Choir, Youth Jazz, Symphonic
Brass and Youth Wind Orchestra.
pwy yw pwy un CBAC/CCIC:
who’s who @ WJEC/NYAW:
pwy yw pwy yn FfCAC/CCIC:
who’s who @ WAMF/NYAW:
Pauline Crossley
Expressive Arts Officer/
Swyddog Celfyddydau Mynegiannol
[email protected]
Keith Griffin
Director of WAMF/
Cyfarwyddwr FfCAC
[email protected]
Charlotte John/Tania Lucas
NYAW Administrative Support/
Cefnogaeth Weinyddol CCIC
[email protected]
Chris Sharpe
Office Manager/
Rheolwr y Swyddfa
[email protected]
Catherine Barry
NYAW Finance Administrator/
Gweinyddwr Cyllid CCIC
[email protected]
Adrian Evans
Youth Music Officer/
Cynorthwyydd Cerddoriaeth Ieuenctid
[email protected]
Penny Simpson
Marketing and Media Consultant/
Ymgynghorydd Marchnata a’r Cyfryngau
[email protected]
Ruth Jones
Welsh Information Centre Manager/
Rheolwr Canolfan Wybodaeth Cymru
[email protected]
NYTW/TGIC
[email protected]
Alexandria James
Administration Assistant & Librarian/
Cynorthwyydd Gweinyddol a Llyfrgellydd
[email protected]
NYDW/DGIC
[email protected]
NYOW/CGIC
[email protected]
Charlotte Griffin
Librarian/Researcher WIC/
Llyfrgellydd/Ymchwilydd CWC
[email protected]
James Clarke
Recording Technician/Technegydd Recordio
[email protected]
per ormio
Golygydd
. Editor Penny Simpson
Dylunio . Design Elfen
. Photographs NYAW Archive/Archif CCIC,
John Bishop, Brian Tarr, Keith Morris
Clawr . Cover Tom Cullen
Cyfieithiad . Translation Araul
Golygyddol . Editorial 029 2026 5060
Ebost . Email [email protected]
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru . National Youth Arts Wales
245 Rhodfa’r Gorllewin . Western Avenue, Caerdydd . Cardiff CF5 2YX
Lluniau
T 029 20 265 060 F 029 20 265 014 E [email protected]
www.nyaw.co.uk
dyluniwyd gan/designed by elfen.co.uk