Sgrîn

Transcription

Sgrîn
Ar goll yn y
brifddinas
Cylchgrawn Gwylwyr S4C
Rhifyn 1
Sgrîn
Gair gan y Golygydd, Hannah Thomas
Cynnwys
2 Gweddnewid S4C
Golwg newydd i’r Sianel
4 Gwragedd Rygbi
Anghofiwch am y WAGS - gwragedd
rygbi Cymru sydd dan sylw
8 Tom Ellis
Gadewch i ni gyd groesi’n bysedd! Ddiwedd y mis bydd Joanna
Quinn yn cael gwybod a yw ei ffilm animeiddiedig newydd i S4C,
Beryl, Y Briodas a’r Fideo, wedi derbyn enwebiad Oscar. Mae Jo yn
berson llawn hwyl a hiwmor sy’n hynod ddiymhongar, ac ry’n ni gyd
yn dymuno pob lwc iddi hi a Beryl.
Yng Ngŵyl Ffilm Caerdydd yn ddiweddar, lansiwyd ein drama
newydd, Calon Gaeth. Roedd hi’n noson glam iawn gyda nifer o sêr
y gyfres yn bresennol. Roedd hi’n ben-blwydd ar Tom Ellis, gynt o
EastEnders ac aelod arall o’r cast, ac felly nid oedd yn gallu bod
yno. Ges i sgwrs ddiweddarach â Tom sy’n sail i gyfweliad yn Sgrîn.
Mae e newydd briodi’r actores Tamzin Outhwaite ac mae’n amlwg
fod bywyd priodasol yn ei siwtio i’r dim!
Mae ‘na ryw frisson yn yr awyr cyn dechrau pob Pencampwriaeth
Chwe Gwlad ac mae’r hwyl yn cychwyn ar S4C gyda Codi Canu,
cyfres sy’n dilyn pedwar côr sy’n cefnogi’r timau rygbi rhanbarthol.
Mae Jonathan Davies yn dychwelyd gyda chyfres newydd ac mae
digon o gemau o’r Cynghrair Magners, Heineken a Principality i
gadw cefnogwyr y bêl hirgron yn hapus - heb sôn am ornest Cwpan
Rygbi’r Byd nes ymlaen eleni.
Y cwestiwn hollbwysig, wrth gwrs, yw sut hwyl gaiff bechgyn Cymru
arni? Rheswm arall dros groesi’r bysedd!
O Albert Square i Aberhonddu –
sgwrs gydag un o sêr Calon Gaeth
10 Colofn rygbi
A fydd hi’n flwyddyn i’w chofio
i Gymru?
12 A Fo Ben
Tywysogion Cymreig oedd yn
edrych y tu hwnt i’w tiroedd eu hunain
14 Helyntion Hurt y Tywysogion
Hoff ffilm Llywelyn Fawr a llwyth
o ffeithiau dwl eraill!
16 Byw yn y Brifddinas
Holi Alys Thomas am ail gyfres Caerdydd
18 Tŷ Unnos
Codi tŷ dros nos - a fydd yn bosibl?
20Codi Canu
Mae rygbi a chanu ar y terasau
yn mynd law yn llaw
22 Byw gyda Beryl
Hanes yr animeiddwraig Joanna Quinn
24 Fy Hoff Le
Jonathan Davies
25Fel Ti a Fi
Hanes perchennog unig dafarn
hoyw gogledd Cymru
26Seboni gyda Glyn ac Imogen
Y diweddaraf o Gwmderi a
Rownd a Rownd
27 Croesair
28Alex Jones
Alex yn codi’r clawr ar ei chyfrinachau
Gweddnewid S4C
Dros yr wythnosau nesaf
mae’n siŵr y byddwch chi’n
sylwi ar nifer o newidiadau i’r
ffordd y mae S4C yn edrych
ar – ac oddi ar - y sgrîn.
Eurgain Haf sy’n holi
Dylan Griffith, Ymgynghorydd
Creadigol S4C, am y
newidiadau hyn, sy’n rhan o
brosiect ailfrandio’r Sianel.
Beth sydd wedi digwydd i’r dreigiau, Dylan?!
Dwi wedi rhoi nhw i gysgu am ychydig ganrifoedd. Llwyddodd
y dreigiau – yr haearn smwddio ayb – i ddal eu tir fel eiconau
S4C am ddegawd a mwy, ond mae hyn yn hen ddigon hir, hyd
yn oed i fwystfil mytholegol. Roedd Mr Blobby yn arwr nôl
yn ’93 felly mae’r byd darlledu wedi’i drawsnewid erbyn hyn.
Mae’r oes ddigidol-yn-unig ar ein trothwy, mae ffyrdd newydd
o wylio rhaglenni ac mae’n bwysig bod S4C yn mynnu lle
amlwg i’w hun. Mae ail-ddiffinio brand y Sianel, gan gyflwyno
syniadau cyfoes, hyderus – ac o bosib mwy cynnil - yn rhan
o’r ymdrech honno.
Sut mae mynd ati, felly, i greu brand, neu ddiwyg
newydd?
Fel rhan o broses dendro agored gwahoddwyd cwmnïau
brandio a dylunio i gynnig syniadau newydd i S4C. Cwmni
Proud Creative lwyddodd i afael yn ein dychymyg gyda’u
syniadau syml a gwreiddiol. Dros y misoedd diwethaf dwi
wedi cydweithio’n agos â Proud i fireinio’r syniadau hynny.
Mae ffrwyth ein llafur - sy’n cynnwys bob dim sydd i wneud â
phersonoliaeth y Sianel - bellach i’w gweld ar y sgrîn deledu,
cyfryngau newydd a deunydd print.
Mae’r brand newydd yn cynnwys cyfres ddeniadol
o ffilmiau byr a ddangosir cyn, ac ar ôl rhaglenni S4C.
Beth a’u hysbrydolodd?
Mae’r golygfeydd hyn yn dangos pethau cyffredin megis
cadeiriau a goleuadau yn cael eu hatynnu at ei gilydd
mewn ffyrdd anesboniadwy. Ein bwriad yw creu ymdeimlad
o agosatrwydd ac o berthyn a’r nod yw bachu yn nychymyg
pobl a’u hannog i weld y byd - ac S4C - mewn ffordd newydd.
Cewch weld y ffilmiau ar wefan S4C, s4c.co.uk/brand.
Beth arall sy’n newid?
Logo
Mae’r blaen slaes erbyn hyn yn rhan o’n hiaith bob dydd
megis we/tecst/ffonau symudol, ayb. Mae’r logo newydd
hefyd yn pwysleisio’r ‘C’ yn S4C, sef calon a chanolbwynt y
Sianel.
Symbolau
Mae’r symbolau hyn, sydd yn egluro pa wasanaethau
ychwanegol sydd ar gael i wylwyr S4C, yn gyfle i ychwanegu
at bersonoliaeth y brand newydd. Yn y gorffennol mae’r rhain
wedi bod yn negeseuon eithaf corfforaethol ond y bwriad
nawr yw eu gwneud yn fwy cyfeillgar, agored a chofiadwy.
Y Dylluan
Isdeitlau ar gael.
Y Cyfrifiadur
Y gallu i wylio eich hoff raglenni S4C unrhyw amser ar eich
cyfrifiadur, ar fand llydan.
Icons Typographic
Icons Typographic
approach
approach
—
—
Icons Typographic approach —
Icons Typographic approach —
Swigen
Sain disgrifio ar gael.
Ffôn symudol
Viewing
Viewing
Platforms
Platforms
—
—
Ffilmio golygfa’r cadeiriau
Wrth i gynlluniau’r Sianel ddatblygu byddwn yn gwneud
defnydd o dechnoleg ffonau symudol.
Viewing PlatformsAccessibility
— Accessibility
—
—
MobileMobileTelevision
Television Broadband
Broadband
Podcast
Podcast
Mobile
Television
Subtitles
Subtitles
Signing
Broadband
Signing
AudioPodcast
description
Audio description
Viewing
Accessibility
Platforms —
Mobile
Subtitles Television
Signing
Audio
Broadband
descriptionPodcast
Access
Subtitle
02_03
Gwragedd Rygbi
Iau, 1 Chwefror 8.25pm
O Gymru gan Fflic
Gydol yr haf, roedd y papurau dyddiol a’r cylchgronau yn llawn o newyddion
am y W.A.G.S. Pwy? Y Wives And Girlfriends - partneriaid aelodau blaenllaw
tîm pêl-droed Lloegr.
Gyda Victoria Beckham yn fam frenhines ar y pac a Colleen McLoughlin,
cariad Wayne Rooney, yn lady-in-waiting, roedd yna fwletinau dyddiol am
eu bagiau Balenciaga, eu hesgidiau Jimmy Choo, hyd eu gwallt a maint eu
biliau cardiau credyd!
Ond nawr mae ‘na griw glam newydd ar y gorwel, criw all ddwyn coron
Madame Beckham a’i posse; merched atyniadol, annibynnol Cymreig, ie,
y Gwragedd a Merched Rygbi neu’r G.W.R.A.G.S.!
Mae cyfres newydd ar S4C yn codi’r llen ar fywydau Sarra Elgan, gwraig
Simon Easterby, Jo Popham, gwraig Alix Popham, chwaer Jonathan Davies,
Caroline Davies, sy’n briod â Phil Davies, hyfforddwr y Sgarlets, a Sara
Jones, cariad Gavin Evans, chwaraewr ifanc sy’n prysur wneud ei farc.
Sut ferched ydyn nhw? Ydy’r labeli dillad yn obsesiwn ganddynt? Sut maen
nhw’n ymdopi gyda bywyd fel ‘gwraig rygbi’? Mewn sesiynau holi-ac-ateb
arbennig, bu’r merched yn datgelu cyfrinachau eu bywydau fel gwragedd
a chariadon rygbi i Joanna Davies.
Gwragedd Rygbi
02_03
04_05
Holi Sarra
Un o le wyt ti? O Gastell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn rwy’n
byw ym Mro Morgannwg. Sut wnes di gwrdd â dy bartner? Wnes
i gwrdd â Simon am y tro cyntaf pan oedd y ddau ohonom yn
cymryd rhan mewn sioe ffasiwn. Serch hynny, roedd yn rhaid i
ni aros dros flwyddyn nes bod ni’n cwrdd eto a hynny ar noson
mas yng Nghaerdydd! Beth yw’r peth mwyaf glam wyt ti wedi’i
wneud fel ‘Merch Rygbi’? Ar ôl pob gêm ryngwladol ry’n ni’n
cael mynd i ddawnsfeydd lle mae’n rhaid i’r merched i gyd
wisgo ffrogiau hir ac mae’r achlysuron yma’n wych ar gyfer
cymdeithasu. Beth yw’r peth gwaethaf am fod yn ‘ferch rygbi’?
Y peth gwaethaf yw anafiadau i’ch partner - mae’n anodd
iawn i ddelio gyda hyn. Pan dwi’n gwylio Simon yn chwarae,
mae’n rhyddhad mawr ei weld e’n dod mas o bob sgrym neu
ryc yn ddianaf. Wyt ti’n hoffi rygbi? Ydw, yn fawr iawn. Ges
i’n magu yn y byd rygbi, achos roedd fy nhad (Elgan Rees,
asgellwr Castell-nedd a Chymru) yn chwarae’r gêm. Roeddwn
i’n mynd o gwmpas yn gwylio fy nhad yn chwarae, felly dwi’n
deall y gêm hefyd. Yn anffodus, mae Simon wedi cael cwpl o
anafiadau yn ddiweddar, felly mae’r pleser o wylio yn llai gan
fy mod i’n mynd mor nerfus! I bwy wyt ti fwya’ tebyg: Victoria
Beckham neu Colleen McLoughlin? Sai’n meddwl bod fi’n
debyg i’r un ohonynt ond dwi’n edmygu’r ddwy am resymau
gwahanol. Byddwn i’n dwli cael cwpwrdd dillad ‘Posh’ ond
be dwi’n hoffi fwyaf am y ddwy yw’r ffaith eu bod nhw wedi
llwyddo i gael gyrfaoedd yn annibynnol o’u gwŷr, felly da
iawn nhw!
Pan dwi’n gwylio Simon
yn chwarae, mae’n
rhyddhad mawr ei weld e’n
dod mas o bob sgrym neu
ryc yn ddianaf
Holi Jo
Un o le wyt ti O ardal Trecelyn yn wreddiol ond, dwi nawr yn
byw ym Mhen-y-bont sydd hanner ffordd rhwng lle mae Alix yn
gweithio a lle mae’n teuluoedd ni yn byw. Sut wnes di gwrdd
â dy bartner? Roedd fy chwaer wedi bod yn mynd mas gyda
brawd Alix ers dwy flynedd pan wnes i gwrdd ag e yn gyntaf.
Es i farbeciw gydag Alix ac fe wnes i ffansio fe’n syth, a dwi’n
meddwl falle oedd e’n fy hoffi i hefyd! Y bore wedyn, ges i
alwad wrth Alix yn gofyn i fi fynd am fwyd y noson honno. Es i
am swper, a chwpwl o ddiwrnodau’n ddiweddarach, symudais
i mewn gyda fe a ‘da ni wedi bod gyda’n gilydd byth oddi ar
hynny! Beth yw’r peth gorau am fod yn ‘wejen rygbi’? Rydych
yn gwneud llawer o ffrindiau. Mae’r gwragedd eraill yn yr un
sefyllfa â chi, ac rydym ni’n medru cael hwyl neu gwyno am
y sefyllfa a does dim ots. Beth yw’r peth gwaethaf am fod
yn ‘wejen rygbi’? Y feirniadaeth. Os nad yw’ch partner yn
chwarae’n dda neu os oes ganddo anaf, rydych yn poeni. Gall
fod yn anodd aros yn bositif, yn enwedig os yw’r cyfan yn y
papurau. Hefyd, ‘wy wrth fy hunan dipyn sydd yn medru bod
yn unig. Mae llawer o gêmau oddi cartref ac mae Alix hefyd yn
mynd ar deithiau rygbi. Pan oedd Holly, ein merch yn ddeng
niwrnod oed, roedd yn rhaid i Alix fynd i ffwrdd ar daith rygbi
am bedair wythnos. I bwy wyt ti fwya’ tebyg: Victoria Beckham
neu Colleen McLoughlin? Wel, byddai’n rhaid i fi ddweud
Colleen oherwydd mae hi’n prynu dillad y Stryd Fawr. Dwi hefyd
ychydig bach fel Victoria o safbwynt magu teulu oherwydd
hoffwn i gael mwy o blant.
Es i am swper, a
chwpwl o ddiwrnodau’n
ddiweddarach, symudais i
mewn gyda fe a ‘da ni wedi
bod gyda’n gilydd byth
oddi ar hynny!
Holi Sara
O le rwyt ti’n dod? O Langennech, pentref ar gyrion Llanelli.
Bellach, gan fy mod yn astudio yng Nghaerdydd, dwi’n byw
yn y Rhath yn ystod y tymor. Serch hynny, dwi’n dal i fynd
adre i Lanelli bron pob penwythnos ac amser gwyliau. Sut
wnes di gwrdd â dy bartner? Wel mae’n stori ddiniwed iawn.
Dwi wedi nabod Gavin ers blynyddoedd maith gan ein bod
ni wedi tyfu lan gyda’n gilydd ac yn byw ar yr un stryd. Fe
oedd fy nghariad cyntaf ac rydym wedi bod gyda’n gilydd
ers o’n i’n 14 a Gavin yn 16. Beth yw’r peth mwyaf glam wyt ti
wedi ei wneud fel ‘wejen rygbi’? I fod yn onest, y peth mwyaf
glam dwi wedi ei wneud yn ddiweddar yw ymddangos ar y
rhaglen yma! Beth yw’r peth gorau am fod yn ‘wejen rygbi’?
Y peth gorau yw’r wefr a’r adrenalin chi’n deimlo pan mae
eich partner allan ar y cae. Mae’n deimlad arbennig a dwi’n
llawn balchder, yn enwedig pan mae Gavin yn cael gêm dda.
Beth yw’r peth gwaethaf am fod yn ‘wejen rygbi’? Heb os nac
oni bai, y peth gwaethaf am fod yn ferch rygbi yw poeni bod
eich partner yn mynd i gael anaf. Fe gafodd Gavin ei fwrw yn
anymwybodol yn ddiweddar ac roedd yn hunllef gorfod gwylio
fe o’r stand yn gorwedd â’i wyneb yn y pridd, ddim yn symud
a minnau’n methu mynd ato. Wyt ti’n hoffi rygbi? Ydw, dwi wedi
hoffi rygbi erioed. Ers bod gyda Gavin dwi wedi dod yn llawer
mwy ymwybodol o’r gêm ac yn dysgu mwy a mwy bob dydd.
Nawr, nid yn unig dwi’n mwynhau gwylio’r gêm, dwi hefyd yn
mwynhau bod yng nghwmni’r merched rygbi eraill. I bwy wyt ti
fwya’ tebyg: Victoria Beckham neu Colleen McLoughlin? Mae’n
well ‘da fi steil Victoria ond mae Colleen i weld yn llawer mwy
normal gyda’i thraed ar y ddaear. Heb adnabod yr un ohonynt
yn bersonol, byddwn i’n dweud bod fy mhersonoliaeth i’n fwy
tebyg i un Colleen, ond bydden i’n dwli cael cwpwrdd (neu
gypyrddau!) dillad Victoria!
Holi Caroline
O le rwyt ti’n dod? O Drimsaran yn wreiddiol, ac yn falch
iawn o hynny. Fe ges i blentyndod hapus iawn a dwi’n dal
yn cadw mewn cysylltiad gyda phobl yr ardal. Rwy’n byw yn
Llangennech nawr. Sut wnes di gwrdd â dy bartner? Wnes i
gwrdd â fy ngŵr ar ôl gêm ryngwladol rhwng Cymru a Ffrainc
yng Nghaerdydd. Ro’n i wedi mynd i ystafell wely fy mrawd yng
ngwesty'r Angel i nôl tabledi ar gyfer fy mhen tost ac roedd
Phil yno yn siarad gydag e’. Y noson ganlynol cawsom ein
cyflwyno yn ffurfiol a dyna ni wedyn! Beth yw’r peth mwyaf
glam wyt ti wedi’i wneud fel ‘Gwraig Rygbi’? Dwi’n cael mynd
i lawer o giniawau ac yn aml mae’r rhain yn ddigwyddiadau
glam iawn. Rwyf wedi mwynhau’r croeso yn Ffrainc, Iwerddon
a’r Alban ymysg gwledydd eraill a diolch i rygbi, wedi cael sawl
penwythnos hyfryd i ffwrdd. Beth yw’r peth gorau am fod yn
‘wraig rygbi’? Y peth gorau am fod yn ‘wraig rygbi’ yw bod ni’n
medru byw bywyd gweddol hyblyg ac yn cael cyfle i gwrdd â
llawer o bobl ddiddorol o wahanol rannau o’r byd. Wyt ti’n hoffi
rygbi? Dwi wastad wedi mwynhau gwylio rygbi, ond wedyn ma’
fe yn y teulu! I bwy wyt ti fwya’ tebyg: Victoria Beckham neu
Colleen McLoughlin? Yr un ohonynt – fi yw fi!
Dwi wastad wedi
mwynhau gwylio rygbi,ond
wedyn ma’ fe yn y teulu!
Fe oedd fy nghariad
cyntaf ac rydym wedi bod
gyda’n gilydd ers o’n i’n 14
a Gavin yn 16
06_07
Calon Gaeth
Sul 9.00pm
s4c.co.uk/calongaeth
O Gymru gan Green Bay
Gwragedd Rygbi
Iau, 1 Chwefror 8.25pm
O Gymru gan Fflic
Tom Ellis
Mae’r actor fu’n portreadu’r meddyg golygus yn EastEnders,
Dr Oliver Cousins wedi dychwelyd i’w wreiddiau yng Nghymru i
actio mewn drama gyfnod newydd o’r enw Calon Gaeth. Mae’r
gyfres bedair rhan yn seiliedig ar nofel Siân James, A Small
Country. Mae’n adrodd stori oesol am gariad, dyletswydd a
cholled. Hannah Thomas sy’n holi Tom Ellis ymhellach...
Beth yn union yw dy gysylltiadau â Chymru?
Ges i fy ngeni yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd yn un o efeilliaid. Roeddwn i’n pwyso
9lb 2oz a fy chwaer Lucy yn 7lb 5oz pan anwyd ni - am sbel ni oedd efeilliaid trymaf
de Cymru! Yn fabi fe fues i’n byw yn Llanrhymni ble roedd fy nhad yn weinidog gyda’r
Bedyddwyr, cyn symud i Swindon ac yna Sheffield. Roedden ni’n dod nôl i Gymru yn
aml, ar wyliau carafán yn y Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Roedd ffilmio Calon
Gaeth yn y Bannau a Chaerdydd yn teimlo’n gartrefol iawn i mi felly.
Pa gymeriad wyt ti’n ei chwarae yn Calon Gaeth?
Rwy’n chwarae Edward, Sais cefnog a ffrind pennaf Tom Morgan, mab teulu’r
ddrama. Mae Edward yn ymweld â Tom a’i deulu yn ne Cymru ym 1914 – mae’n
cyrraedd ar ganol creisis teuluol. Mae Edward yn syrthio mewn cariad â Catrin,
chwaer Tom, ond mae’r sefyllfa yn gymhleth. Mae Edward yn foi hyderus, ond
mae’r profiad o syrthio mewn cariad go iawn yn ei fwrw oddi ar ei echel.
Be’ oeddet ti’n feddwl o’r stori?
Y tro cyntaf i mi ddarllen y sgript fe ges i fy nharo gan y ffaith ei bod yn stori mor
bwerus. Er ei bod hi’n ddrama gyfnod, mae’n stori gyfoes mewn sawl ffordd.
Roeddwn i hefyd yn falch o gael y cyfle i weithio mewn cynhyrchiad Cymraeg,
er bod Edward yn siarad gyda’r cymeriadau eraill yn Saesneg.
Sut brofiad oedd camu oddi ar set EastEnders i ddrama o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf?
Mae actio mewn opera sebon yn brofiad cwbl wahanol i berfformio mewn drama
gyfnod. Mae pace saethu’r golygfeydd mewn sebon mor wahanol - rhaid gweithio
yn gyflym iawn, ac wrth gwrs mae’r cast lot yn fwy.
Wyt ti’n mynd i ddychwelyd i EastEnders neu a fyddet ti’n hoffi actio mewn opera
sebon eto?
Ar hyn o bryd wy’n mwynhau chwarae gwahanol gymeriadau mewn amryw o
gynyrchiadau. Ond byddwn i byth yn dweud na i opera sebon - byddai hynny’n ffôl!
A fyddet ti’n hoffi gwneud mwy o waith actio yn y Gymraeg neu yng Nghymru?
Byddwn - roedd yn brofiad diddorol, yn bendant, i actio mewn cynhyrchiad Cymraeg.
Mae lot o bethau’n mynd ymlaen yng Nghaerdydd hefyd ar hyn o bryd, fydd yn
arwain at fwy o waith eto yn y ddinas, mae’n siŵr. Byddwn i’n dwli dod nôl i wneud
rhywbeth.
Beth sydd ar y gweill nesaf i ti?
Wy newydd orffen ail gyfres o’r comedi Suburban Shootout i Channel 5. Mae’r
gyfres yn adrodd hanes dau grŵp o wragedd tŷ vigilante sy’n brwydro am bŵer yn
eu pentref, Little Stempington. Wy’n chwarae heddwas sydd wedi symud i’r pentref
gyda’i wraig i chwilio am fywyd tawel - sdim syniad ‘da fe beth sy’n mynd ymlaen!
Yn ddiweddar fe briodes di’r actores Tamzin Outhwaite. Sut mae bywyd fel gŵr
a gwraig?
Wy wrth fy modd, dyma’r peth gorau wy erioed wedi ei wneud!
08_09
Y Clwb Rygbi
Darllediadau byw o
gemau cystadleuaeth
Cynghrair Magners
O Gymru gan BBC Cymru
Le Rygbi
Nos Fercher ar S4C digidol
O Gymru gan Tinopolis
Cwpan Heineken
Uchafbwyntiau’r gemau
penwythnos a sioe Y Clwb
Heineken nos Lun
O Gymru gan Nant
Rygbi’r Byd
Nos Wener ar S4C digidol
O Gymru gan SMS
s4c.co.uk/chwaraeon
Gwin Da Fel Rygbi Da
‘Ro’dd hi’n flwyddyn dda’
- mae’r frawddeg yn llifo
o enau arbenigwyr gwin
yn gyson wrth gyfeirio at y
premier cru.
Yn yr un modd ry’n ni’r Cymry yn aml
yn rhamantu am orffennol lle profodd
y crysau cochion yn drech na’u
gwrthwynebwyr. Ro’dd 1905, 1935, 1953,
1971, 1976, 1978 a 2005 yn grand cru;
bu’n rhaid i’r Crysau Duon a goreuon
Hemisffer y Gogledd gydnabod
meistrolaeth, ymroddiad a doniau
greddfol gwlad â phoblogaeth o ryw
ddwy filiwn a hanner.
Mae ‘da fi deimlad fod 2007 yn debygol
o fod yn grand cru i Stephen Jones a’i
garfan. Am y tro cynta’ ers y saithdegau
mae’r wasg a’r cyfryngau yn disgwyl
‘mla’n yn eiddgar ac yn dechrau
defnyddio’r gair ‘dyfnder’. Ac oes,
mae yna ddyfnder mewn nifer fawr
o safleoedd. Mae ffatri faswyr Max
Boyce wedi bod yn gweithio overtime
yn ddiweddar, gan gynhyrchu haid o
faswyr fyddai’n dderbyniol i fwyafrif o
wledydd rygbi’r byd. Yn naturiol, mae’n
bwysig nad y’n ni’n mynd dros ben llestri
a chredu fod yna wir obaith o hawlio
Cwpan William Webb Ellis ymhen naw
mis. Rhaid cadw’n traed ar y ddaear
a dyna, o bosib, yw cyfrinach y tîm
hyfforddi sydd wrth y llyw. Dangosodd
dwy gêm gynta’ cyfres yr hydref fod yna
10_11
fwriad i gynllunio’n broffesiynol gogyfer
â 2007 yn hytrach na dewis y goreuon yn
gyson ac anwybyddu’r criw wrth gefn.
Colli oedd yr hanes yn Yr Ariannin ond
profodd y daith yn fuddiol i’r hyfforddwr.
Profodd sawl un o’r to ifanc ei allu
yng ngwres y frwydr gan gynnwys
James Hook, Alun Wyn Jones, Ian
Evans a Lee Byrne. Roedd yna elfen o
anghrediniaeth pan benderfynodd y tîm
hyfforddi gyflwyno pedwar ar ddeg o
newidiadau yn dilyn y gêm gyfartal yn
erbyn Awstralia. Roedd Gareth Jenkins
yn ffyddiog fod y chwaraewyr yn ddigon
da a dangoswyd ei fod yn hyfforddwr
doeth a chraff. Paratoi ar gyfer yr
hirdymor oedd y bwriad; bellach, mae’n
amhosib i’r hoelion wyth orffwys ar eu
rhwyfau gan fod yna brentisiaid yn araf
ddatblygu’n feistri.
Mae yna gryn ddisgwyl ‘mla’n i
Bencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor
hwn gan fod y safon wedi gwella’n
aruthrol yn Hemisffer y Gogledd yn ystod
y ddau dymor diwetha’. I’r rheiny sy’ â
swllt i wario, mae’n debyg mai Cymru
ac Iwerddon yw’r ffefrynnau, ond da
chi peidiwch â diystyru’r gweddill. Yr
hyfforddwr yw gwendid Ffrainc gan ei
fod yn deyrngar i gewri’r gorffennol yn
hytrach na chynnwys chwaraewyr ifanc
dawnus megis Jacquet, Beauxis, Dridi a
Cabannes. Mae’r Eidal o dan arweiniad
Pierre Berbizier yn llond llaw i’r goreuon
a’r Alban yn garfan gref sy’n mynd o
nerth i nerth.
Nod y Cymry yw adeiladu ar gyfer her
Hydref 2007. Pam na allwn ni gyrraedd
Rownd Derfynol Cwpan y Byd? Seland
Newydd a’u capten David Kirk gipiodd
Gwpan Webb Ellis yn 1987 ond rhaid cofio
ei bod wedi tanberfformio bob un tro
ers hynny. Oes yna nerfusrwydd tybed?
A fydd y gweddill yn tanio ar chwe
silindr mewn naw mis ac yn creu ambell
hunlle’ i Graham Henry a’i griw? Os bydd
llwyddiant i Gymru yn 2007, ga’ i gynnig
fod pob un o’r garfan yn derbyn potelaid
o Chateau Lafite Rothschild 1953 - ro’dd
hi’n flwyddyn dda!
Alun Wyn Bevan
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS
Gwyliwch y gemau i gyd yn fyw ar S4C.
Cymru v Iwerddon
Sul 4 Chwefror 3.00pm
Stadiwm y Mileniwm
Yr Alban v Cymru
Sadwrn 10 Chwefror 3.30pm
Murrayfield
Ffrainc v Cymru
Sadwrn 24 Chwefror 8.00pm
Stade de France
Yr Eidal v Cymru
Sadwrn 10 Mawrth 3.30pm
Stadio Flaminio
Cymru v Lloegr
Sadwrn 17 Mawrth 5.30pm
Stadiwm y Mileniwm
02_03
TYWYSOGION
Mawrth, 30 Ionawr 9.00pm
Llun Ifor Davies o Owain Glyn Dŵr
O Gymru gan Ffilmiau’r Bont
s4c.co.uk/tywysogion
Nid brenhinoedd bychain,
plwyfol oedd arweinwyr
Cymru, fel y mae cyfres
hanes newydd ar S4C,
Tywysogion, yn dangos...
A Fo Ben
Yn ôl y Dr Richard Wyn Jones, cyflwynydd
Tywysogion, roedd y gwŷr hynny
fu’n arwain Cymru’r Oesoedd Canol
– a’r gwragedd oedd yn gefn iddynt
- yn gweld yn bellach na ffiniau eu
tywysogaethau eu hunain.
Arglwydd Rhys, y tywysog a ystyrir yn
sylfaenydd y traddodiad eisteddfodol.
At Frenin Ffrainc, ganrifoedd yn
ddiweddarach, y trodd Owain Glyn Dŵr
hefyd i gael help i frwydro’r Saeson.
Mae eu stori yn un gyffrous a
soffistigedig ac yn rhan o hanes
ehangach Ewrop. Roeddent yn chwarae
gemau gwleidyddol cymhleth, yn
cynghreirio â gwledydd eraill ac yn
trafod yn gyson â’r Eglwys yn Rhufain.
Un o’r sialensiau mwyaf yn wynebu’r
tîm cynhyrchu wrth lunio’r gyfres
uchelgeisiol hon oedd bod cyn lleied o
ddogfennau wedi goroesi o’r cyfnod.
“Roedd gorwelion tywysogion megis
Hywel Dda, yr Arglwydd Rhys a
Gruffydd ap Cynan yn rhai Ewropeaidd;
ac roedden nhw am weld Cymru yn
bresenoldeb ar y llwyfan Ewropeaidd
honno,” eglura Richard, Darllenydd yn
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Coleg
y Brifysgol Aberystwyth.
“Roedd eu gwragedd yn rhan o’r
byd soffistigedig hwnnw hefyd.
Roedd Siwan, er enghraifft, gwraig
Llywelyn Fawr, yn ddylanwadol iawn
ac mae’n debyg mai ei mamiaith hi,
Ffrangeg, oedd iaith y llys. Roedd
Angharad, gwraig Gruffydd ap Cynan
yn ddiplomydd o fri hefyd ac roedd
Gruffydd yn dibynnu’n fawr arni.”
Mae’r gyfres, a gynhyrchwyd gan
Ffilmiau’r Bont, yn olrhain hanes saith
tywysog Cymreig, o gyfnod teyrnasiad
Hywel Dda (910-950) hyd at wrthryfel
Glyn Dŵr yn y pymthegfed ganrif.
Mae’n dechrau gyda Hywel Dda, nid
adref yn ei lys yn Hendy-Gwyn ar Daf,
ond yn derbyn awdurdod y Pab yn
Rhufain. Roedd Hywel yn hoff iawn o
Ewrop – gadawodd Cymru ar ‘flwyddyn
fwlch’ drodd yn bererindod bedair
blynedd o hyd.
Does dim symbol mwy Cymreig na’r
Eisteddfod, ond faint sy’n gwybod mai
benthyg y syniad o Ffrainc a wnaeth yr
Barddoniaeth…
“Dyna yn aml yw’r stori gyda gwledydd
sydd wedi eu gorchfygu,” eglura’r
archeolegydd Spencer Smith, un o
gyfranwyr y gyfres.
Torrodd Spencer dir newydd yn ei waith
ar safleoedd Cymreig megis llys Glyn
Dŵr yn Sycharth ac mae’n cydnabod ei
ddyled i draddodiad barddol hirhoedlog
Cymru yn hynny o beth.
“Mae barddoniaeth o Oes y Tywysogion
yn bwrw goleuni ar ein hanes. Wrth
gymharu, er enghraifft, disgrifiadau Iolo
Goch o Sycharth â phatrwm y lleoliad,
fe sylweddolon ni mor fanwl gywir oedd
disgrifiadau’r bardd o’r 15fed ganrif.”
Nid yn unig barddoniaeth Gymraeg
oedd o gymorth i’r cynhyrchwyr – mae
trwch o gerddi o Norwy yn bodoli am
frwydr Gruffydd ap Cynan (1055-1137) yn
Aberlleiniog, Ynys Môn.
Roedd y Llychlynwr Magnus Goesnoeth
yn un o gefnogwyr Gruffydd. Daeth
i Gymru i helpu Gruffydd guro Iarll
Amwythig ac Iarll Caer yn y frwydr bwysig
hon - enghraifft arall o gysylltiadau
Ewropeaidd arweinwyr Cymru.
Hannah Thomas
Tywysogion
Mae’r gyfres saith-rhan yn dilyn hanes Hywel
Dda (ap Cadell) m 950; Gruffydd ap Cynan
(1055-1137), Owain Gwynedd (ap Gruffudd)
(1100-1170), yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffudd)
(1132-97), Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth)
(1173-1240), Llywelyn ap Gruffudd (y ‘Llyw Olaf’)
(1225-1282) ac Owain Glyn Dŵr (1354-1416).
Yr Arlunydd
Fel rhan o’r gyfres, fe osodwyd her arbennig i’r
arlunydd o Benarth, Ifor Davies i ddehongli ar
gynfas ran y tywysogion yn hanes Cymru. Mae
pob llun yn defnyddio gwahanol ddeunyddiau
fel olew, edafedd, MDF a sachliain, a phob
tywysog yn cael un o liwiau’r enfys yn allwedd
i’w gymeriad. Fe fydd y lluniau yn cael eu
harddangos ar daith ledled Cymru ym mis
Ionawr a Chwefror eleni. Mae’r manylion ar
wefan s4c.co.uk/tywysogion neu gan Wifren
Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.
Llyfr
Os am wybod mwy am hanes y tywysogion,
mae llyfr bwrdd coffi hardd wedi ei gyhoeddi i
gyd-fynd â’r gyfres. Mae’r llyfr, sy’n cynnwys
ffotograffau Marian Delyth o gestyll Cymru, yn
seiliedig ar sgriptiau gwreiddiol yr Athro Huw
Pryce.
Cystadleuaeth
I gael y cyfle i ennill
un o dri chopi o lyfr
newydd y Tywysogion,
atebwch y cwestiwn
isod:
O ble cafodd yr
Arglwydd Rhys y
syniad am gynnal
eisteddfod?
Anfonwch eich ateb ar e-bost at:
[email protected] neu ar gerdyn post at:
Cystadleuaeth Tywysogion, Sgrîn, S4C, Blwch
Post 353, Caerdydd CF24 5XA. Y dyddiad cau
yw Dydd Gwener, 9 Chwefror. Y tri enw cyntaf
allan o’r het fydd yn ennill. Mae rheolau
arferol Sgrîn yn berthnasol.
12_13
Hyw,
Rhys
a Dau
Lew
HELYNT HURT TYWYSOGION cymru
Iau, 1 Chwefror 4.30pm
O Gymru gan Ffilmiau’r Bont
Helynt Hurt Tywysogion Cymru
Mae fersiwn blant o’r gyfres
Tywysogion yn bwrw golwg
ysgafnach ar ein hanes. Wedi’i
sgriptio gan y diddanwr Tudur
Owen a’i chyflwyno gan Mari
Grug, mae’r gyfres yn edrych ar
fywydau rhyfedd y tywysogion
trwy lond castell o sgetsus dwl,
cartŵns lliwgar a jôcs doniol.
Yma, mae Tudur yn holi rhai o hen
dywysogion Cymru. Yn rhyfeddol,
fe gafodd atebion go ffraeth
ganddynt!
Enw: Hywel ap Cadell ap Rhodri ap Merfyn Fach
Dyddiad geni: 890
Enw: Rhys ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr
Dyddiad geni: 1132
Beth yw’r peth gorau amdanat?
Wy’n eitha’ balch o’r gwaith ‘wy wedi ei wneud ‘da’r gyfraith.
‘Wy wedi rhoi mwy o whare teg i ferched Cymru. Er enghraifft,
gall gwraig hawlio hanner eiddo ei gŵr os, am unrhyw reswm,
y bydde nhw’n gwahanu. Bydd hawl ‘da hi hefyd i ofyn am
ysgariad os yw gwynt ei gŵr yn drewi. ‘Wy’n casáu pobl ‘da
gwynt fel pwps, a dylai neb orfod rhoi lan ‘da fe - yn enwedig â
fflos dannedd mor rhad!
Beth yw’r peth gwaethaf amdanat?
‘Wy’n tueddu i dreulio gormod o amser yn yr ystafell ‘molchi bob
bore. Ond fel arall ‘wy’n eitha’ “Da”.
Pwy yw dy ffrind pennaf?
Athelstan, Brenin Lloegr. ‘So fy ffrindie i yma yng Nghymru yn
ei hoffi fe, ond ‘ni’n dod ymlaen yn grêt ‘da’n gilydd. Fel arfer
mae arweinwyr ein gwledydd moyn lladd ‘i gilydd, ond rwy’n
gweld e’n haws bod yn ffrindie, yn enwedig gan fod ‘da ni’r un
diddordebe. Mae’r ddau ohonom ni’n dwli ar Musicals!
Bocsers neu Y-ffrynts?
Y-ffrynts
Hoff raglen deledu?
Unrhyw beth ‘da Iolo Adar.
Hoff ffilm?
The Sound of Music
Pwy fyddet ti’n hoffi ei weld yn chwarae dy ran mewn ffilm?
Os byddai Leonardo Di Caprio yn dalach – fe.
Beth yw dy foment fythgofiadwy?
Fy nhrip i Rufain. Mae’n lle bendigedig ac mae’r coliseum yn
anhygoel, ond dyw’r bwyd ddim yn sbesial, a beth bynnag chi’n
wneud gwyliwch eich bag drwy’r amser.
Beth yw dy foment waethaf erioed?
Galw cynulliad yn Hendy-gwyn ar Daf yn y flwyddyn 930, a
chysgu’n hwyr.
Sut y byddet ti’n hoffi cael dy gofio?
Fel arweinydd da, fel Cristion da ac fel Cymro da – a bod pobl
yn fy adnabod fel “Hywel Fawr”!
Beth yw’r peth gorau amdanat?
Fe wnes i lwyddo i ddod â heddwch i ran fwyaf o Gymru - o’r
diwedd. Ro’n i wedi bod yn ymladd yn erbyn y Saeson ers pan
yn 13 mlwydd oed ac roedd hi’n hen bryd cael tipyn o seibiant.
Beth yw’r peth gwaethaf amdanat?
‘Wy’n ffili canu! Mae pawb yn dweud ‘mod i’n swnio fel cath ar
dân pan ‘wy’n treial.
Pwy yw dy arwr?
Fy mam – Gwenllian. Bu farw pan ro’n i’n bedair oed. Roedd
hi’n arwain byddin i amddiffyn de Cymru rhag y Normaniaid
pan gafodd ei dal a’i lladd. Menyw a hanner oedd Mam, neb
byth yn cweryla ‘da hi tu fas i’r ysgol!
Rygbi neu Bêl-droed?
Rygbi cant y cant.
Hoff raglen deledu?
Tipit
Hoff ffilm?
Kill Bill
Pwy fyddet ti’n hoffi ei weld yn chwarae dy ran mewn ffilm?
Rhywun heblaw Dafydd Emyr!
Beth yw dy foment fythgofiadwy?
Cyflwyno’r gadair am y tro cyntaf erioed, yn yr eisteddfod
gyntaf erioed yn Aberteifi yn 1176.
Beth yw dy foment waethaf erioed?
Deffro yn y bore ar ôl y sesiwn gyntaf erioed, yn yr eisteddfod
gyntaf erioed yn Aberteifi yn 1176 - a chofio ‘mod i wedi bod yn
canu!
Sut y byddet ti’n hoffi cael dy gofio?
Fel arweinydd gorau Cymru ac fel rhywun a gynhaliodd yr
eisteddfod gyntaf. Gyda llaw fi oedd yr unig Gymro gafodd ei
gynnwys yn rhestr “Sunday Times’ Richest of the Rich 2000”. Fi
oedd rhif 95 ac yn werth £4.3 biliwn – be’ s’da ti ‘weud i ‘na Mr
Terry Matthews?
Enw: Llywelyn ap Iorwerth Ab Owain Gwynedd,
Tywysog Gwynedd ac Arglwydd Eryri
Dyddiad geni: 1173
Beth yw’r peth gorau amdanat?
‘Nes i lwyddo i berswadio tywysogion Deheubarth a Phowys i’m
cydnabod fel “Gwir Dywysog Cymru”. Fel y basa Bryn Terfel yn
ei dd’eud – Da de?
Beth yw’r peth gwaethaf amdanat?
Mae gen i dipyn o dymer, dwi wedi bod ar gwrs “Anger
Management” ond ‘nes i wylltio a charcharu’r tiwtor - wel roedd
o’n gwenu ar y wraig!
Diddordebau?
Adeiladu cestyll, Llenyddiaeth Gymraeg, ymladd yn erbyn
Saeson a Sudoku.
Rygbi neu Bêl-droed?
Wel, pêl-droed siŵr iawn!
Bocsers neu Y-ffrynts?
Bocsers, dwi angen digon o le.
Hoff raglen deledu?
Noson Lawen
Hoff ffilm?
Robin Hood Prince of Thieves – Cymro oedd o wyddoch chi?
Pwy fyddet ti’n hoffi ei weld yn chwarae dy ran mewn ffilm?
Rhywun heblaw Ray Gravell.
Beth yw dy foment fythgofiadwy?
Diwrnod fy mhriodas efo Siwan, merch Brenin Lloegr. Roedd hi’n
ifanc, prydferth, ac yn drewi o bres. Be’ arall mae dyn canol
oed isio?
Beth yw dy foment waethaf erioed?
Darganfod fod Siwan wedi bod yn cael hanci panci efo’r sinach
bach Gwilym Brewys ‘na. Ocê, ella ‘mod i wedi gor-ymateb, ond
‘da ni’n ffrindiau rŵan - fi a Siwan ‘dwi’n ei feddwl, wnes i grogi
Brewys.
Sut y byddet ti’n hoffi cael dy gofio?
Llywelyn y Gora’ neu Llywelyn Dda, neu Llywelyn y Dychrynllyd
ella . . .
Enw: Llywelyn ap Gruffudd ap Llywelyn Fawr
Dyddiad Geni: 1225
Beth yw’r peth gorau amdanat?
Fi yw’r unig arweinydd yn hanes ein gwlad i gael ei gydnabod
gan frenin Lloegr fel “Gwir Dywysog Cymru”. Hefyd dwi’n dipyn
o giamstar ar “keepie uppie”. S’gwn i os yw Rhodri Morgan yn
gallu dweud hynna - dwi ddim yn meddwl.
Beth yw’r peth gwaethaf amdanat?
‘Dwi’n gollwr gwael, fedra i’m diodde’ colli mewn unrhyw beth
- ymladd, dadlau, rhyfeloedd neu “keepie uppie”. Mae’n rhaid i
mi fod yn fuddugol, yn enwedig yn erbyn y Saeson.
Bocsers neu Y-ffrynts?
Y-ffrynts
Hoff raglen deledu?
Sgorio
Pwy fyddet ti’n hoffi ei weld yn chwarae dy ran mewn ffilm?
Rhywun heblaw Maldwyn John.
Pwy yw dy arwr?
Fy nhaid – Llywelyn Fawr. Mae llawer yn meddwl fy mod i’n
debyg iddo, dwi ond yn gobeithio y byddai’n medru efelychu
ei lwyddiant. Fel fy nhaid, dwi’n benderfynol o gadw’r Saeson
allan o Gymru. Bydd dim ildio tra bydd y Llywelyn yma wrth y
Llyw, o na! A dwi’n sicr nad myfi fydd yr olaf.
Beth yw dy foment fythgofiadwy?
Brwydr Coed Llathen ger Llandeilo – 3,000 o filwyr a
marchogion Lloegr yn gelain - “ You’re not singin’ any more!”
Beth yw dy foment waethaf erioed?
Darganfod fod fy mrawd Dafydd wedi bod yn cynllwynio yn fy
erbyn. Ac yn waeth na hynny darganfod ei fod o wedi dianc o
Gymru i Lys Brenin Lloegr - y cythra’l bach, mi laddai o os caf fi
afael arno!
Sut y byddet ti’n hoffi cael dy gofio?
Fel yr arweinydd gafodd wared ar y Saeson o’n gwlad unwaith
ac am byth! Mae’n ddrwg iawn gen i ond mae’n rhaid i mi fynd,
dwi wedi cael neges ddigon rhyfedd yn gofyn i mi gyfarfod â
rhywun yng Nghilmeri – diddorol . . .
14_15
Caerdydd
Mercher 9.00pm
O Gymru gan Fiction Factory
Byw yn y Brifddinas
Fel ei chymeriad, Lea, mae Alys Thomas yn wreiddiol o’r gogledd
ac wedi symud i fyw i’r Brifddinas. Wrth i gyfres newydd o Caerdydd
ddychwelyd i’r sgrîn fach, Non Tudur sy’n cael sgwrs â hi . . .
“Mae Lea yn eitha’ messed up yn y gyfres newydd,” meddai Alys
Thomas. “Ac o’r herwydd dwi’n teimlo mod i’n gallu uniaethu
llawer mwy efo hi!”
Mae gwên lydan Alys yn heintus ac mae hi’n amlwg wrth
ei bodd yn trin a thrafod ei chymeriad. “Mae’r craciau yn
ymddangos go iawn ym mywyd Lea. Mae hi’n dal i fyw efo
Osian ond yn y bôn dwi’n meddwl ei bod hi’n unig. Mae tad
Osian, Stephen hefyd yn byw yn y fflat sy’n gwneud y sefyllfa
yn ddiddorol a dweud y lleiaf.
Yn ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd,
Wrecsam - taith awr ar y bws bob bore
a phrynhawn - fe gafodd Alys ddigon o
amser i fyfyrio am ei dyfodol. Ond mae
hi’n cyfaddef mai digwydd troi at actio fel
gyrfa a wnaeth wedi iddi gael cynnig lle
yn y Coleg Cerdd a Drama.
“Yr hyn oedd yn apelio fwyaf oedd y
cyfle i wneud pethau fel ymladd llwyfan
a dawns ac yn fwy na hynny ro’n i
“Mae ei ffrind gorau, Elen, yn brysur gyda’i dyn newydd ac felly
meddwl na fyddai’n rhaid i fi ‘sgwennu
does gan Lea neb i ymddiried ynddo, heblaw am Osian. Dydi hi
traethodau! Ond rhyw hanner ffordd
ddim yn siŵr os mai yng Nghaerdydd mae hi am fod; mae hi ar
drwy’r ail flwyddyn dyma’r peth fel petai’n
goll i ryw raddau.
fy nharo i – dyma fy ngyrfa, a do’n i ddim
yn siŵr os o’n i wedi gwneud y peth iawn.”
“Mae’n newid ei steil – mae fel petai’n trio cuddio ei theimladau
efo dillad smart a lot o golur. Dwi’n meddwl fod pawb yn gallu
Mae Alys bellach yn byw gyda’i chariad,
uniaethu â’i sefyllfa. Mae’n siŵr fod pawb ar ryw adeg o’u
Max, sy’n hyfforddi fel saer coed. Yn
bywyd yn meddwl, ydw i fod fan hyn?”
wahanol i Lea, sy’n byw mewn fflat
fodern, mae’r pâr yn byw mewn tŷ
Mae Alys, fel Lea, wedi symud i’r Brifddinas o’r gogledd, ond
cyfforddus yn llawn cynhesrwydd, lluniau
mae hi wedi hen ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’r actores
teuluol a gwaith celf trawiadol Max.
29 oed, sy’n wreiddiol o Landynan ger Llangollen, wedi byw yn
y ddinas ers yn ddeunaw oed pan ddechreuodd astudio yng
“Max, fy nghariad yw’r arlunydd,” meddai
Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Alys. “Mae o’n dalentog iawn ac mi
fuodd o’n astudio Celfyddyd Gain yn y
“Dwi wrth fy modd yn byw yng Nghaerdydd ond dwi’n methu
coleg. Mae’n wych achos mae gennym ni
adre lot fawr,” meddai. “Dwi’n mynd yn ôl i’r gogledd mor aml
weithiau gwreiddiol ar y waliau ond heb
ag y gallai, sef rhyw unwaith y mis. Ac ers i mi dyfu i fyny dwi’n
orfod talu amdanyn nhw!”
gallu gwerthfawrogi’r ardal yn llawer mwy. Pan o’n i’n iau, ac
yn sicr cyn i mi ddysgu gyrru, roedd byw mor bell o bob man yn
Mae golygon Alys yn bendant ar aros yng
boen. Ac mi roedd o’n sicr yn anodd ar Mam achos hi oedd yn
Nghaerdydd ac ar datblygu ei phortread
gorfod mynd â fi a fy mrawd, Joseff i bob man yn y car. Os oedd
o Lea yn y gyfres ddrama afaelgar.
‘na glwb drama neu rywbeth ar ôl ysgol, mi fyddai’n rhaid iddi
Ni fyddwn yn synnu bod dyfodol y
hi ddod i’n nôl ni.”
cymeriad difyr hwn yr un mor gyffrous ac
anwadal â bywyd llawer o bobl ifanc ym
mhrifddinas Cymru...
16_17
mae’r craciau yn ymddangos
go iawn ym mywyd Lea
tŷ
unnos
Y TŶ CYMREIG
Mercher, 14 Chwefror 8.25pm
O Gymru gan Fflic
s4c.co.uk/tycymreig
Mae codi tŷ mewn noson yn swnio’n
dasg amhosib, prosiect ar gyfer
Superman efallai, neu Bob y Bildar! Ond
fel y gwelwn mewn rhaglen arbennig
yng nghyfres Y Tŷ Cymreig, sef y Tŷ
Unnos, mae codi tŷ fel hyn yn rhan o’n
traddodiad gwerin. Pe baech yn codi tŷ
dros nos ar dir comin fel bod mwg yn codi
o’r simdde erbyn y bore, gallech hawlio’r
tŷ a’r holl dir o fewn tafliad bwyell iddo.
Mae’r traddodiad wedi cyfareddu Dorian
Bowen, syrfëwr o Drelech a’r Betws, ers
blynyddoedd, ac roedd yn awyddus i
weld os oedd codi tŷ yn y fath fodd yn
bosib. Dyma gyflwyno’r her i’w deulu a’i
ffrindiau a daeth 60 o bobl at ei gilydd
un noson wyntog ym mis Medi i gyd â’r
un nod - codi tŷ cyn i’r wawr godi.
Fe lwyddon nhw a chawn ddilyn eu camp
yn y Tŷ Unnos. Erbyn y bore roedd pawb
wedi blino’n lân ond yn falch iawn o weld
y mwg yn dod o’r simdde.
“Mi roedd o’n waith caled,” meddai
Dorian. “Mi roedd ‘na dipyn o drefn
gennym ni ac roedd y gwaith pwysig o
hel deunyddiau - coed, brwyn, rhedyn
ayb - wedi ei wneud o flaen llaw, wrth
gwrs. Ond mi roedd ‘na shwt gyment
i’w wneud! Mi roedd ‘na brobleme yn
codi wrth inni fynd yn ein blaene ac felly
roedd yn rhaid inni eu datrys wrth iddyn
nhw godi. Mi roedd yn ymdrech wych gan
bawb.”
Ymdrech go arbennig, yn wir, o feddwl eu
bod nhw’n llafurio ynghanol gweddillion
corwynt pwerus!
Marred Jones
18_19
Gosod y rhedyn ar do’r tŷ unnos
02_03
codi canu
Sadwrn, 27 Ionawr 8.15pm
Mae’r hwyl yn ôl...
O Gymru gan Alfresco
s4c.co.uk/codicanu
Mae S4C, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru,
wedi gosod her i ranbarthau rygbi Cymru... codi’r canu
ar y terasau ledled y wlad. Jon Gower sy’n egluro mwy...
I
wlad sy’n ymhyfrydu
mewn cerddoriaeth a
chanu, mae’r blynyddoedd
diwethaf wedi bod yn
anodd. Beth ddigwyddodd
i’r canu cynulleidfaol
byddarol bron ar y terasau?
A pham fod corau meibion
yn ei chael hi’n anodd denu
lleisiau ifainc i’w plith?
Un ateb, yn ôl y Ffederasiwn
Cerddoriaeth Amatur, yw’r
dirywiad yn y diwydiannau
trwm, yn enwedig yn y
cymoedd, ynghyd â’r ffaith
nad yw pobl yn aros gartre’
mwyach.
Ond mae’r gyfres realiti
newydd Codi Canu yn
benderfynol o gyfrannu tuag
at adfywiad yn y canu, gan
greu pedwar côr cymysg
newydd i gefnogi’r timau
rygbi rhanbarthol, Gleision
Caerdydd, y Gweilch, Dreigiau
Casnewydd Gwent a Sgarlets
Llanelli.
Bydd y gyfres yn dilyn
hynt a helynt y corau wrth
iddynt ymarfer, perfformio a
chystadlu yn erbyn ei gilydd
am y fraint o ganu’r Anthem
Genedlaethol o flaen y dorf
cyn gêm Cymru v Lloegr ym
Mhencampwriaeth y Chwe
Gwlad ym mis Mawrth.
Mae’r arbrawf hyd yn
hyn wedi bod yn hynod
lwyddiannus ac ambell waith
yn rhy lwyddiannus. Mae
côr y Dreigiau yn wynebu
problem oherwydd bod
ganddynt ormod o aelodau
a bydd yn rhaid colli deugain
ohonynt cyn yr ornest
gerddorol yn Stadiwm y
Mileniwm.
Mae’r corau yn cael
cyfle i berfformio o flaen
cynulleidfaoedd byw yn
barod, gyda’r Dreigiau yn
diddanu yn rasys ceffylau
Cas-gwent a chôr y Gweilch
yn ddigon ffodus i ganu cyn y
gêm yn erbyn Awstralia.
Roedd ‘na dipyn o bwysau
arnynt, o ystyried eu bod
wedi cael dau gyfle yn unig
i ymarfer Advance Australia
Fair cyn canu o flaen ugain
mil o bobl yn Stadiwm Liberty,
Abertawe. Gall pob aelod
felly gymryd rhywfaint o glod
am ei ran yn y fuddugoliaeth
hanesyddol ble curodd y
Gweilch yr ymwelwyr 24-16.
Fe fydd y corau eraill yn
wynebu sialensau tebyg
– perfformio mewn carchar a
chanu uwchben rhaeadr yn y
Bannau Brycheiniog.
Mae’r gyfres yn ffordd o
adfywio traddodiad hir o
ganu cymanfaol. Yn ôl Cefin
Roberts, un o arweinyddion y
Dreigiau:
“Mae syniad y gyfres yn
ofnadwy o dda. Mae’r peth
cynulleidfaol ‘na - y capeli
a’r sefydliadau lle’r oedd y
werin yn arfer dod i ganu a
darllen sol-ffa yn marw allan.
Hwyrach bod rhywbeth fel
hyn yn mynd i ail gynnau’r
tân. Mae ‘na dân yn ein bolia’
ni fel cenedl a dwi’n meddwl
gall y math yma o raglen fod
yn fan cychwyn i roi’r tân yn ôl
yn nhafod y ddraig.”
Os am dystiolaeth o
frwdfrydedd aelodau’r
corau does dim rhaid edrych
ymhellach na chôr y Sgarlets.
Mae Haydn Battersby
yn teithio’r holl ffordd o
Birmingham i Lanelli ar gyfer
pob ymarfer. Dyw e’ heb golli
un sesiwn ymarfer eto!
“Dwi’n gyrru lawr bob
pythefnos ar ôl clywed am
y prosiect. Jyst y siawns
i ganu yn y Gymraeg ac i
fynd i’r Stadiwm – mae’n
gyfle arbennig ac yn brofiad
bendigedig,” meddai Haydn.
Mae Gail William yr un mor
frwdfrydig. “Roedd gen i ofn
dod yma i ddechrau ond rwy’
wedi mwynhau mas draw.
Rydym yn teimlo ein bod yn
rhan o’r Sgarlets nawr. Ry’n
ni bron mor bwysig â’r tîm ei
hun!” meddai.
Nid oes angen bod mor
gerddorol â hynny i fod yn
aelod o’r corau. Er enghraifft,
cyfaddefa Alun Thomas, un o
gefnogwyr tîm y Dreigiau, nad
oes ganddo lais da; yn wir,
mae’n disgrifio’r berthynas
rhwng ei lais â cherddoriaeth
yn debyg i’r un rhwng napalm
a phlanhigion! Ond serch
hynny mae’n aelod brwd
o’r côr. “Mae’n bwysig bod
rhywbeth Cymraeg yng
Nghasnewydd - ni ‘di bod yn
trial yma ers blynyddoedd.
Mae’r cyfle i glywed y
Gymraeg ac i ganu yn y
Gymraeg yn wych!” meddai.
Bellach mae’r cythraul canu
yn gafael ym mhob côr. Mae
Dean Owen yn gweithio
mewn siop gerddoriaeth yn
Abertawe ac mae ei ffydd yn
nyfodol cerddorol y Gweilch
yn sicr: “Mae’n anodd ond
ro’n i’n gwybod hynny cyn
cychwyn. Sai’n gallu colli
hwn. Ni’n mynd i ennill y
gystadleuaeth - gallwch chi
fod yn siŵr o ‘na!”
o gôr y Sgarlets yn crisialu’r
teimlad ymhlith y corau i gyd:
“Sa’i byth wedi canu mewn
côr o’r blaen ac mae hyn yn
siawns mawr i gael canu ar
yr hallowed turf, fel ma’ nhw’n
gweud,” meddai.
Iddi hi fe fydd yn anrhydedd.
I’r gwylwyr gartref fe fydd yn
arbrawf soniarus, gobeithio,
ac yn gyfle i adfywio ffordd o
gefnogi tîm sy’n dipyn gwell
na gweiddi.
Gleision Caerdydd
Arweinwyr: Delyth Medi
ac Eilir Owen Griffiths
Capten: Gareth Edwards
Gweilch
Arweinwyr: Alwyn Humphreys
a Sioned James
Capten: Rowland Phillips
Dreigiau
Casnewydd Gwent
Arweinwyr: Cefin
a Rhian Roberts
Capten: Brynmor Williams
Sgarlets Llanelli
Arweinwyr: Islwyn Evans
a Catrin Hughes
Capten: Ray Gravell
Erbyn mis Mawrth bydd
y lleisiau’n uno cystal â
doniau’r chwaraewyr ar y
maes. Mae Jackie Thomas
20_21
Byw
Gyda
Beryl
Beryl, Y Briodas a’r Fideo
O Gymru gan Beryl
Non Tudur sy’n ymweld â chartref yr animeiddwraig
arobryn Joanna Quinn, sy’n aros i glywed a fydd
ei ffilm ddiweddaraf i S4C, Beryl, Y Briodas a’r
Fideo yn cyrraedd rhestr fer gwobrau’r Oscars yn
ddiweddarach y mis hwn.
Wrth gerdded drwy’r drws dwbl i dŷ
teras, traddodiadol Joanna Quinn a’i
phartner, Les Mills yng Nghaerdydd,
mae’r golau naturiol sy’n llenwi’r
ystafelloedd nenfwd-uchel gyda’u
waliau golau a’u lloriau plaen yn
drawiadol. Yn wir, dywed Les mai dyna
oedd y prif reswm dros ddewis eu cartref
presennol.
“Mae Joanna angen rhywle gyda digon
o olau a gofod i weithio ynddo,” eglura
Les, sy’n wreiddiol o’r Barri. “Mae’r
nenfwd uchel yma’n rhoi ymdeimlad o le.
Mae’n rhywle sy’n ateb ein gofynion ni i’r
dim.”
Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r
ddau ers i ffilm ddiweddaraf Joanna,
Beryl, y Briodas a’r Fideo (Dreams and
Desires – Family Ties) gael ei chwblhau.
Mae’r ffilm wedi ennill dros 25 o wobrau
animeiddio ledled Ewrop a thu hwnt.
Mae’r cwpwrdd gwydr eisoes yn drwm
gan BAFTAs a dwy dystysgrif enwebiad
Oscar (am Yr Enwog Ffred a’r Wraig o
Gaerfaddon). Bellach mae’n gwegian
dan bwysau’r gwobrau newydd, sy’n
cynnwys prif wobr animeiddio Ewrop, y
Cartoon D’Or. Mae ennill y wobr hon yn
golygu bod y ffilm wedi cyrraedd rownd
gyntaf Oscars 2007; cyhoeddir y rhestr
fer ddiwedd Ionawr.
22_23
Tra bod Joanna yn gwneud paned,
mae Les yn siarad yn frwd am lwyddiant
y ffilm ddiweddaraf hon sy’n adrodd
helyntion Beryl, y cymeriad annwyl a
llawn bywyd a grëwyd gan Joanna pan
oedd yn fyfyrwraig.
“Mae’r ffilm, sy’n dilyn troeon trwstan
Beryl wrth iddi fynd ati i ffilmio priodas
ffrind i’r teulu, wedi cael derbyniad
gwych,” eglura Les.
“Mae’r cynulleidfaoedd yn y gwyliau
animeiddio wedi eu plesio’n fawr ac
mae’r Ffrancwyr yn enwedig wrth eu
boddau gyda ffilmiau Joanna. Yn yr
ŵyl animeiddio yn Annecy roedd noson
arbennig wedi ei threfnu yn yr awyr
agored i ddangos Yr Enwog Ffred.
Roedd tua 5,000 o bobl yno ac ymunodd
pawb yn y canu gyda’r cymeriadau yn y
ffilm.”
Erbyn hyn mae Joanna wedi ymuno â ni
ac mae hi’n ychwanegu pa mor falch yw
hi, nid yn unig o dderbyn y gwobrau ond
o dderbyn clod a llongyfarchiadau ei
chyd-animeiddwyr.
“Mae barn rhai pobl, yn enwedig fy
nghyfoedion, yn golygu lot i fi,” meddai.
“Ac yn ffodus iawn roedden nhw wedi
eu plesio gydag antur ddiweddaraf
Beryl. Mae’n anodd weithiau gan fod
disgwyliadau pobl mor uchel ond
dwi’n credu i ni lwyddo i ymateb i’r
disgwyliadau hynny.”
Yn unig blentyn, cafodd Joanna ei geni
a’i magu yn Lloegr ac mae’n cyfaddef i
arlunio fynd â’i bryd ers yn ferch ifanc.
Cafodd ei chyflwyno i fyd animeiddio
wrth astudio Dylunio Graffeg ym
Mhrifysgol Middlesex.
“Dyma fydd trydydd ymddangosiad
Beryl mewn ffilm - yn dilyn Nosweth Mas
gyda’r Merched a Siapo Lan,” eglura
Joanna. “Yn y ffilm mae Beryl wedi cael
camera fideo ac mae’n derbyn ceisiadau
lu gan aelodau o’r teulu a’i ffrindiau iddi
ffilmio eu babis, cŵn, cathod a hyd yn
oed eu gwŷr anffyddlon.
“Fodd bynnag, daw ei chyfle mawr
wedi iddi gytuno i ffilmio priodas
Mandy, merch un o’i ffrindiau pennaf.
Ond dyw pethau ddim yn mynd yn dda
wrth i syniadau Beryl fynd yn groes i
gonfensiynau traddodiadol diwrnod
priodas.”
“Dau fath o briodas dwi wedi bod
ynddyn nhw,” medd Les, cynhyrchydd
y ffilm ac awdur y sgript wreiddiol, a
addaswyd i’r Gymraeg gan Mei Jones.
“Rhai diflas a di-fflach lle mae pobl yn
cweryla ac am waed ei gilydd ac eraill
...parhau
mwy ‘normal’. Ro’n i ar dân eisiau creu
rhywbeth sy’n cyfleu pob agwedd ar
y profiad priodasol, nid rhamant a
sentiment yn unig.”
“Mae Beryl yn gymysgedd o nifer o
gymeriadau benywaidd,” medd Les.
“O Joanna ac o un neu ddwy o fenywod
eraill ry’n ni wedi dod ar eu traws dros y
blynyddoedd.”
A dywed Les a Joanna eu bod wedi
tynnu ar brofiadau golygydd y ffilm,
sydd hefyd yn saethu fideos priodas
ar y penwythnosau.
A ninnau wedi dringo’r grisiau am sbec
yn stiwdio Joanna, mae’r golau fel petai
hyd yn oed yn fwy llachar yma a nifer o
luniau yn dal y llygaid. Mae un ohonynt o
Paloma, eu merch 11 oed sy’n ddisgbyl yn
Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd. Er ei
bod hi’n benderfynol nad yw hi am fentro
i fyd animeiddio, gan ganolbwyntio ar
ysgrifennu ac offerynnau cerdd yn lle,
fe liwiodd hi rai o’r golygfeydd ar gyfer y
ffilm.
“Mae rhai o’r straeon mae’n eu rhannu
‘da ni am y priodasau mae wedi eu
ffilmio yn ddoniol iawn,” medd Joanna.
“Storis am briodferched yn rhegi ar bawb
a phopeth a cheffylau sydd mor araf
fel nad yw’r pâr priod hyd yn oed yn
llwyddo i gyrraedd y brecwast priodas.”
Ac yn Beryl, y Briodas a’r Fideo, mae
Beryl yng nghanol priodas anffodus
Mandy a Terry. Mae stumog ci Mandy,
Digger, yn whare lan ac mae ffrog
dros-ben-llestri y briodferch yn llawer
rhy fach iddi.
“Roedd hi’n brofiad braf, ysbrydol bron
cael tynnu popeth oddi ar y wal a gweld
waliau glân unwaith eto,” medd Joanna.
“Mae hi’n gallu bod yn anodd ymlacio yn
y tŷ pan dwi’n gwybod fod gwaith sydd
angen ei wneud yn y stiwdio uwchben.”
Tydi rhagfarn ddim yn air
yng ngeirfa Gareth Charned.
Mae’r rheolwr tafarn 25 oed
yn hoyw a tydi o erioed wedi
dioddef unrhyw ragfarn
na gwawd gan bobl eraill
oherwydd ei rywioldeb.
Daw Gareth o bentref
Llanbedr ger Harlech yn
wreiddiol ac mae’n rhedeg
yr unig dafarn hoyw yng
ngogledd Cymru, y Three
Crowns ym Mangor, ers tair
blynedd.
jonathan
Gwener, 2 Chwefror 9.00pm
O Gymru gan Avanti i BBC Cymru
Jonathan Davies
R
wy’n lwcus iawn fy mod i wedi
cael y cyfle i deithio lot gyda
fy ngwaith. Ond mae mynd i rywle
gyda’r gwaith a hala amser yn
rhywle yn ymlacio yn ddau brofiad
gwahanol iawn.
Felly, rwy’n credu y byddwn i’n hoffi
mynd nôl i wlad lle ‘wy wedi hala
bach o amser ond erioed wedi
bod gyda fy nheulu. Rwy’n credu
mai’r lle delfrydol i fi, fy ngwraig
a’r pedwar o blant fyddai cwpl o
fisoedd yn Awstralia.
’Wy wedi gweld tipyn o’r wlad
gan i fi fyw yno am flwyddyn
pan oeddwn i’n chwarae rygbi’r
cynghrair. Fues i’n byw yn Sydney
a Thuringa a joies i’r cyfnod yno
mas draw. Mae’r ffordd o fyw, y
bwyd a bod mas yn yr awyr iach yn
fy siwtio i ac rwy’n siŵr y byddai’r
teulu i gyd wrth eu bodd yno.
Ges i’n magu yn Nhrimsaran ac
roedd lan y môr byth yn bell iawn
- felly ’wy wastad wedi mwynhau
bod wrth y traeth. Mae’r teulu’n
24_25
O Gymru gan Green Bay
A chyda’r ffilm wedi bod ar waith ers
sawl blwyddyn, does bosib fod yr
animeiddwraig brysur a’i theulu yn
haeddu hoe fach.
Mae’r ystafell yn llawn bocsys o luniau
sydd wedi eu darlunio yn steil unigryw
Joanna. Ac mae hi’n cyfaddef ei bod
wedi tynnu nifer o luniau Beryl, y Briodas
a’r Fideo oddi ar y wal, arwydd bod y
gwaith ar y ffilm wedi ei gwblhau.
Fy Hoff Le
fel arall
Gwanwyn
joio’r traeth hefyd, felly mae
Awstralia’n berffaith. Mae’n anodd
cael gwell lan y môr nag sydd
yng Nghymru - ac mae digon o
heddwch a thawelwch i gael yma ond dy’n ni ddim yn cael y tywydd
yn anffodus. Mae’r haul yn gwenu
yn Awstralia.
Ni fyddai’n rhaid dewis gwlad
lle maen nhw’n chwarae rygbi.
Rydyn ni’n licio mynd i Mallorca
a Dubai (pan nad yw’r Dubai
Sevens ymlaen!) am wyliau hefyd
a s’dim lot o sôn am rygbi yn y
lleoedd hyn. Ond wrth gwrs, mae
Awstralia yn gallu cynnig rygbi felly unwaith eto mae’n ddelfrydol.
S’dim cynlluniau da ni i symud yno
i fyw - rydym ni wrth ein bodd yng
Nghymru ac yng Nghaerdydd - ond
fyddai cwpl o fisoedd yno cyn hir
yn braf iawn!
“Wnes i ddim dod allan tan o’n
i’n 18 oed. Ro’n i wedi bod yn
meddwl am hogia ers i mi fod
yn 16 ond ro’n i wedi bod yn
cadw fy hun i fi fy hun. Do’n i
ddim yn nabod unrhyw gays.
Ond yna fe wnes i gyfarfod
rhywun yn y Bermo ac mi
wnes i benderfynu dod allan.
Mi wnes i dd’eud wrth mam
yn syth a meddai, ‘Ro’n i’n
gw’bod ers i ti fod yn 15 oed.’
Mi nath hi dderbyn y peth yn
syth. Mi gymrodd dad rhyw
deir awr i arfer efo’r peth
ac wedyn roedd o’n iawn
hefyd. Dwi wedi cael dim ond
cefnogaeth gan fy nheulu a’m
ffrindiau.”
Yn annisgwyl, mae’n meddwl
ei bod hi’n haws i berson
hoyw fyw mewn cymuned
wledig. “Mae Llanbedr yn
bentref bach, gyda phawb yn
nabod ei gilydd ac yn gefn
i’w gilydd. Mae’n gymuned
sy mor dynn, gyda phawb yn
nabod newyddion pawb, fel
un teulu mawr. Maen nhw isho
dy weld di’n hapus.”
Penderfynodd felly gymryd
rhan yn y rhaglen ddogfen
Fel Arall er mwyn ceisio helpu
hoywon eraill sy’n awyddus i
ddod allan.
“A hefyd ella helpu eu rheini,
a’u teuluoedd....Mi fyddai’n
trio helpu rhai sy’n dod i’r
dafarn os ydyn nhw isho help.
Ti’n gweld rhai yn dod i mewn,
yn prynu diod o coke ac yn
ista yn y gongol, a dwi jyst yn
mynd i fyny a deud, hi, are
you o.k., do you want a chat?,
ac mae’n amlwg eu bod nhw
isho siarad. Dwi’n sôn am
lyfrau dwi wedi’u darllan a
helplines ac ati. Mae’n anodd
iawn, does na unlle arall
iddyn nhw fynd.”
Fel Ti a Fi
Mae’r rhaglen ddogfen Fel Arall yn
bwrw golwg ar fywyd pobl hoyw yn
y Gymru Gymraeg heddiw.
Bu Marred Jones yn sgwrsio ag un o’r
rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen...
Nid hoywon yn unig sy’n
dod i’r dafarn. “Mi rydan
ni’n brysur yma. Ella bod na
rai yn dod am eu bod nhw’n
curious ond dwi’n meddwl
bod y rhan fwya’n dŵad am
eu bod nhw’n teimlo’n saff
yma. Da ni ddim yn cael fights
yma. Da ni’n cael lot o ferched
yn dod draw, yn enwedig ar
nos Sadwrn. Mi roedd na hen
night yma neithiwr...”
Mae Gareth yn dweud ei fod
wedi sylwi ar newid agwedd
tuag at hoywon yng Nghymru
dros y pedair blynedd
diwethaf. “Yn gyffredinol mi
rydan ni’n cael ein derbyn. Y
rhai ifanc, 15 - 16 oed, ydy’r
gwaethaf. Maen nhw’n ei weld
o fel jôc, yn galw enwau ar
bobol. Ond fel na maen nhw
efo pawb, does ganddyn nhw
ddim parch tuag at neb.
Mae’n sylweddoli ei fod wedi
bod yn lwcus a bod pobl
eraill wedi gorfod dioddef
profiadau tra gwahanol.
“Dwi’n sgwrsio efo rhai sy’n
dŵad i’r dafarn ac maen nhw
wedi dioddef uffern go iawn,”
meddai.
22_23
28_29
Rownd a Rownd
Llun a Mercher 6.30pm
Omnibws brynhawn Sul
O Gymru gan Nant
s4c.co.uk/rowndarownd
Uned 5
Gwener
5.00pm S4C digidol
a 6.30pm
O Gymru gan Antena
s4c.co.uk/uned5
Pobol y Cwm
Llun i Gwener, 8.00pm
Omnibws ddydd Sul
O Gymru gan BBC Cymru
Enillwch
deledu!
Seboni gyda
Glyn ac Imogen
Roedd 2006 yn flwyddyn i’w chofio i Glyn ac Imogen, sêr tŷ’r Brawd Mawr.
‘Glyn 2 Win!’ a ‘bêb’ oedd y geiriau ar wefusau pawb yn ystod cyffro
teyrnasiad y ddau yn y tŷ.
Ond sut flwyddyn fydd 2007 i Glyn ac Im? Tybed a gawn nhw ychydig
bach mwy o gyfle i ymlacio fin nos o flaen y bocs gyda gwydraid o win,
neu blatiad o bwdin gwaed? Pa raglenni maen nhw’n eu mwynhau?
Mae Sgrîn wedi bod yn clustfeinio ar sgwrs rhwng y ddau...
IMOGEN: “Hei bêb,
wy rili’n meddwl
bod yn rhaid i
ti wylio Pobol y
Cwm ti’n gwbod.
Mae’n grêt ar
hyn o bryd. Mae’r
busnes Stacey ma
wedi fy ypsetio fi. Weeeel, mae’r
teulu ’na wedi cael amser caled.
Wy’n rili gutted....Ac o my god, be
sy’n mynd i ddigwydd ar ôl y tân
yn Llwyncelyn? Wy’n teimlo dros
Kath a gweud y gwir.
“A be ti’n feddwl o Darren, Katie
a Dwayne? Neu Meic, Anita a
Tom? Ma’n dishgwl fel bydd real
menagerie a trois f’yna nagiwe?
Ac wedyn Jason ac Erin? Will they
get it together? Be ti’n feddwl?”
I’r rheiny sy’n dwli ymlacio o flaen y
teledu, mae gan S4C wobr wych i chi,
teledu digidol diffiniad uchel (hi-def)!
I gael y cyfle i ennill y teledu 26-modfedd
gwych hwn, atebwch y cwestiwn isod:
GLYN: “Wel, mae’n hogan ddel
iawn tydi. Ac mae Sara yn gallu
bod yn rêl madam weithia, er mae
hi’n ddel iawn hefyd. Ond ddim
mor ddel â chdi, wrth gwrs! Dim
rhyfadd dy fod di wedi ennill y teitl
Hoff Bêb yn Gwobrwyo’r Goreuon
Uned 5!!”
Beth yw enwau plant
Britt Monk yn Pobol y Cwm?
IMOGEN: “Yeh, roedd hynny’n
grêt, doedd. A ti wedi cael gwobr
arbennig hefyd. Roeddet ti mewn
good company - Ioan Gruffudd,
Steve Jones T4, Ryan Giggs,
Dwayne Peel...
Anfonwch eich ateb ar e-bost at
[email protected] neu ar gerdyn post at:
Cystadleuaeth Teledu, Sgrîn, S4C, Blwch
Post 353, Caerdydd CF24 5XA. Y dyddiad
cau yw Dydd Gwener, 9 Chwefror. Yr enw
cyntaf allan o’r het fydd yn ennill. Mae
rheolau arferol Sgrîn yn berthnasol.
GLYN: “Ia, dwi’n reit chuffed a
d’eud y gwir, a Rownd a Rownd
wedi ennill gwobr hefyd - grêt.
Neuthoch chdi weld o dros Dolig?
Klaire yn yr haul yn Sbaen yn colli
allan ar yr eira adra! Mae rhai
26_27
Dim Gair Croes Ar Ddydd Santes Dwynwen!
o’r genod newydd arno fo yn reit
ffit, fyd! Does dim byd gwell na
gwylio omnibws Rownd a Rownd
ar b’nawn Sul, tra’n byta un o fy
sandwiches arbennig i!
“Ges i andros o sioc pan nath
Callum landio diwrnod Dolig - boi
o’r Blaenau - grêt! A be ti’n feddwl
o Jim Gym a Bethan? Ffiw, mae
o wedi bod yn chwarae efo tân
yn fanna. Dwi’n teimlo piti dros
Pat...mae’n siŵr o ffeindio allan
rhywsut.”
I ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen mae Sgrîn yn cynnig gwobr ramantus iawn sef
tusw o flodau, siocledi a photel o siampen. Ar ôl cwblhau’r croesair, defnyddiwch y
llythrennau yn y sgwariau tywyll i greu yr enw arall a roddir ar Ynys Llanddwyn ar
Ynys Môn ble y claddwyd Dwynwen, nawddsant y cariadon (4,1,8)
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
12
16
17
22
14
18
23
19
26
32
21
25
27
28
29
33
30
34
31
35
36
37
38
41
39
40
42
IMOGEN: “Ie, bêb. Watch out Jim,
mae’n bryd i ti gallio, boi!”
GLYN: “Wel, mae’n well iddo fo
gymryd gwersi gan Hywel yng
Nghwmderi. Mae hwnnw i’w weld
wedi callio, er dwi ddim yn meddwl
y bydd Ffion yn hapus o glywed
ei fod o wedi bod yn male escort
unwaith!
IMOGEN: “Wps, mae’n well bod yn
onest bob amser, Hywel – bydd yn
onest ‘da hi tro nesa bach... hei
bêb, ti’n ffansi drinc bach, brysia,
rho’r teli ‘mlaen, fi moyn gweld be
ydy’r latest gyda Britt a Siôn. Ydy’r
ddau yna yn siwtio
d’wed– I don’t think
so! Dwi ddim yn
gweld y peth
yn gweithio
o gwbwl,
ond mae
Huw yn cîn
iawn ar Britt,
ond dyw e
– bless!”
Ar draws
I Lawr
1
4
9
10
11
12
13
14
16
18
20
22
24
25
26
27
29
32
33
34
37
39
40
41
42
1
2
3
5
6
7
8
14
15
17
18
19
21
22
23
28
30
31
32
35
36
38
Ffrwythau’r gastanwydden (8)
...a bwydlen afreolus cariad? (anagram) (8)
Tad 15 i lawr (6)
Y rhiant gwryw (3)
Ustus neu feirniad (6)
Metel gwerthfawr y gellir ei wario! (5)
Hon fydd yn torri pan fydd y cariad yn gadael (5)
Y pwrs sydd wedi ei guddio ym mhac y dyn crwydrol! (anagram) (5)
Y weithred o wisgo ….. (6)
Cnaif (3)
Disgleirio a rhoi 31 i lawr (6)
Pryd bwyd canol dydd - neu efallai un rhamantus! (5)
Un sy’n dwyn (5)
Dyma a wneir wrth benderfynu rhwng un cariad a’r llall (5)
Mwmian canu (6)
Neidr wenwynig o’r Aifft (3)
Tir sy’n cynnwys mawn (6)
Offeiriad sy’n perthyn i eglwys gadeiriol (5)
Blas drwg (5)
Lloches (5)
Un sy’n meddwl y byd o’i gariad yn y capel? (6)
Aderyn sy’n enwog am ei gân swynol (3)
Dodrefn i gysgu arnynt (6)
Dau sy’n dangos serch at ei gilydd...(8)
...a dyma mae’r ddau wedi ei wneud ar ei gilydd! (8)
Cystadleuaeth Cnex
Mr Eifion Rowlands, Pwllheli
Ble mae’r Bêl?
Mr William Griffith Jones, Porthmadog
15
20
24
Cystadleuaeth Chez Dudley
Mr J R Clarke , Caerdydd
Mrs R Jones, Pontrhydfendigaid
Mr Bryn Jones, Arberth
Cystadleuaeth y Chwilair
Mr J Francis, Boncath
11
13
Enillwyr Cystadlaethau Sgrîn - Haf 2006
Enllib (7)
Y bobl sy’n gweithio sy’n dal y rhain (5)
Arwydd i ddynodi seibiant wrth ddarllen (7)
Yr awyr yn nyffryn Wybrnant? (4)
Y gwryw yn y garwriaeth (3)
Uchelwr. Y - - - - - Coch. (5)
Cariad 15 i lawr (6)
Heb fod yn feddal (5)
Santes y 41 ar draws ……(7)
Ynys y Santes (7)
Casglu cnau (5)
Mewn un o’r rhain mae nerth (5)
Teimlad cynhyrfus (3)
Enw arall ar yr aderyn sy’n dwyn nyth un arall (3)
Griddfan (5)
Cariadus (6)
Rhai sy’n gofyn yn daer (7)
A bydded . . . . . . . (7)
Sŵn isel aflafar brân neu froga (5)
Mynd yn ôl (5)
Cawell baban (4)
Heb deimlad, neu angen gwres (3)
Mae Ch, Dd, Ff, Ng, Ll, Rh, Th yn cyfri’ fel un
llythyren
Os hoffech gyfle i ennill yr wobr, anfonwch yr ateb at Sgrîn, S4C, Blwch Post 353, Caerdydd, CF24 5XA
neu ar e-bost at [email protected] gan nodi Cystadleuaeth y Croesair, Sgrîn. Y dyddiad cau yw Dydd
Gwener, 9 Chwefror 2007. Yr ateb cywir cyntaf allan o’r het fydd yn ennill. Mae rheolau arferol yn
berthnasol (gweler uchod).
Cystadlaethau
Rheolau: Mae’r cystadlaethau yn agored
i bawb ac eithrio staff S4C, eu teuluoedd
agos, a chwmnïau eraill sy’n gysylltiedig â
Sgrîn. Dewisir yr enillydd/enillwyr ar hap.
Rhoddir gwybod i’r enillydd/enillwyr ar
ôl y dyddiad cau drwy lythyr neu dros y
ffôn. Nid yw’n bosibl cyfnewid y wobr. Mae
penderfyniad y Golygydd yn derfynol.
Cyhoeddir enw’r enillydd/enillwyr yn
rhifyn nesaf Sgrîn. Ni chymerir cyfrifoldeb
am geisiadau a gollir yn y post neu sy’n
methu â chyrraedd erbyn y dyddiad cau.
Lle galla i brynu prynu copi o lyfr y
Tywysogion? Sut mae gwylio Caerdydd
ar fand llydan? Pa rif yw S4C digidol ar
Sky? Am unrhyw ymholiadau bach a
mawr am raglenni S4C, mae croeso i chi
ffonio Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141
neu e-bostio [email protected]. Hefyd,
gallwch gysylltu â’r Wifren i archebu copi
o Sgrîn i’ch ffrindiau neu deulu. Cyhoeddir
Sgrîn gan S4C. Sgrîn, S4C, Parc Tŷ Glas,
Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU e-bost:
[email protected]
Tîm Golygyddol
Jane Felix Richards
Dylan Griffith
Eurgain Haf
Owain Pennar
Hannah Thomas
Eleri Twynog Davies
Tîm Dylunio
Emma Jones
Debbie Williams
Cyfranwyr
Jonathan Davies
Jon Gower
Marred Jones
Rhys Parry
Imogen Thomas
Non Tudur
Glyn Wise
Alun Wyn Bevan
Ffotograffiaeth:
Warren Orchard
Vici Jones
Marian Delyth
Diolch i siop Alcatraz, Pwllheli am wisg Alex Jones
Tipit
Mis Chwefror
O Gymru gan Presentable
s4c.co.uk/tipit
Y Gair Olaf
Alex Jones Cyflwynydd, 28 Rhydaman
Y peth cyntaf rwy’n ei ‘neud yn
y bore yw cyffwrdd fy arddwrn.
Fe ges i oriawr Rolex gan fy
rhieni pan ro’n i’n ddeunaw a
fy hunllef fwyaf fyddai ei cholli.
Fe golles i hi unwaith yn nhai
bach stiwdios Wedi 7, ond fe
ffeindiodd un o’r cynhyrchwyr
hi diolch byth.
Mi fyddwn i wedi hoffi byw yn y
50au. Rwy’n hoffi’r gwisgoedd,
yn enwedig y rhai o America
fel y rhai yn y ffilm Grease. Rwy
wastad eisiau bod yn Sandy
‘da gwallt tywyll a chael cariad
tebyg i Danny.
Fe ddywedodd y geiriau
“lipstick-red ” a doedd dim
angen dweud mwy. Fe wnes
i brynu fy mhâr o soffas lledr
coch cyn i mi weld fy nhŷ, oedd
yn gamgymeriad gan eu bod
yn rhy fawr i’r ystafell. Rwy’
wastad wedi hoffi’r lliw coch ac
fe gwympes i mewn cariad â
nhw yn syth.
Roedd fy nhŷ yn arfer edrych
fel canolfan yr Urdd. Roedd y
waliau i gyd yn wyn, y soffas
yn goch a’r clustogau yn
wyrdd! Mae fy steil yn tueddu
i fod yn eitha’ girly - mae gen
i chandelier yn yr ystafell wely
a phapur wal blodeuog. Dwi’n
credu mai’r term cywir am y steil
yma yw Rococco.
Dwi’n gwneud llwythi o bethe
hurt. Fe gyrhaeddais y gwaith
y dydd o’r blaen, tynnu fy
nghôt ac eistedd i lawr yn fy
mra. Roeddwn wedi anghofio
rhoi top arno!
Unwaith fe golles i soddgrwth
Julian Lloyd Webber. Ro’n i’n
gweithio fel ymchwilydd ac
yn sefyll yn y maes parcio tu
fas i’r neuadd ‘da Julian Lloyd
Webber. Fe holodd e fi i edrych
ar ôl ei soddgrwth ond rhywsut
28_29
fe lwyddais i’w golli. Roedd e
werth miloedd o bunnau. Ond
diolch byth fe ddaeth rhywun o
hyd iddo fe.
Rwy’n dal i gochi bob tro rwy’n
gweld Mike Peters. Roedd y
larwm diogelwch wedi torri
yn swyddfeydd Avanti ac fe
ddaeth Mike Peters i’r drws a
chyflwyno ei hun fel “Mike from
the Alarm.” Fe feddylies i ei
fod wedi dod i drwsio’r ‘larwm
a dangos iddo fe le’r oedd y
bocs!
Y takeaway gwaetha’ ges i
erioed oedd yn Kuala Lumpur.
Cinio Nadolig oedd e mewn
maes awyr a dwi’n siŵr nad
twrci oedd e. Ro’n i mor sâl
wedyn ar yr awyren yr holl
ffordd i Seland Newydd!
Cofia wisgo dillad isa’ glân.
Dyna’r cyngor gan mam rwy’n
dal i’w drysori, a “bydd yn neis
i bobl.”
Os gwnei di wenu fe wnaiff y
byd wenu ‘da ti. Dyna fy rheol
euraid i mewn bywyd.
Nage drwy ei fol y mae cadw
dyn yn hapus. Nid yn fy achos
i beth bynnag, oherwydd ‘sa
i’n gallu coginio! Bod yn rili
neis ‘da fe a bod yn barod i
gyfaddawdu – dyna’r gyfrinach
i berthynas hapus.
Roedden ni’n chwarae gêmau
pan oeddem yn blant yn
hytrach na gwylio’r teledu.
Roeddwn i wrth fy modd ‘da
gêmau ‘roedd y teulu i gyd
yn gallu chwarae ‘da’i gilydd
fel Monopoly, Hungry Hippos,
Mousetrap ac Operation.
Y peth gorau am fod yn
gyflwynydd ydi . . . dyw e jest
ddim yn teimlo fel gwaith.
Noson Gwylwyr
Mwy o rygbi? Llai o gartŵns?
Wedi gwirioni ar Gwmderi?
Beth bynnag eich barn, mae
croeso cynnes i chi ddod i Glwb
Tennis Pen-y-Bont ar Ogwr nos
Iau, 15 Chwefror i drafod S4C
a darlledu yng Nghymru gyda
chynrychiolwyr y Sianel.
‘Sdim eisiau bod yn swil dewch i ddweud eich dweud!
15 Chwefror
Clwb Tennis.
Pen-y-bont ar Ogwr
Gwifren Gwylwyr S4C 0870 6004141