Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau

Transcription

Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau
Mehefin 2015
Rhifyn 237
Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at
ddathliadau dengmlwyddiant y Morlan
GAIR Y BUGAIL
Mae bywyd yn llawn profiadau newydd, ac felly y buodd hi yn ystod
y dyddiau diwethaf yma. Sôn ydw i am y profiad o fynychu ‘Sasiwn
y Chwiorydd’. Rhag ofn bod y teitl yna’n anghyfarwydd i rai
ohonoch, gadewch i mi esbonio. Mewn un ystyr, rhywbeth etifeddol
yw cyfarfod o’r fath, yn rhan o drefn ac arferiad ac yn tarddu o
ddyddiau’r Maes Cenhadol yng Ngogledd Ddwyrain yr India.
Dyddiau’r Blychau Cenhadol a’r ymwybyddiaeth fyw o gyfrifoldebau er mwyn sicrhau parhad y gwaith. Gyda dychweliad y Cymry
olaf i wasanaethu ar y maes gwelwyd newid mewn syniadaeth a
dealltwriaeth. Gyda’r penderfyniad i ymuno â CWM, Cyngor
Cenhadaeth Fyd Eang, newidiwyd y gair ‘gyrru’ i ‘wahoddiad’, a
dyna sydd wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd. Pobl ar wahoddiad
yn gwasanaethu eglwysi ym mhob rhan o’r byd. Yn naturiol, mae’r
berthynas ag eglwysi Gogledd yr India yn aros a chyda’r berthynas
honno y cyfleoedd i wasanaethu a hynny mewn ffurf hynod o
ymarferol. Ac felly mae’r casgliadau yn parhau a da dweud bod
casgliad Sasiwn Chwiorydd y De yn agos at £10,000 a’r cyfanswm
rhwng y tair Sasiwn yn £40,000. Swm anrhydeddus am y flwyddyn,
fydd yn cael ei ddefnyddio i hybu’r dystiolaeth yn lleol ac yn fyd
eang.
Bydd canran o’r arian yn mynd at y gwaith o uwchraddio
Ysbyty Dr Gordon Roberts yn Shillong, ysbyty ac iddi hanes ac enw
da fel sefydliad meddygol. Bu’r prif swyddog meddygol gyda ni yn
oedfa’r hwyr fis Gorffennaf diwethaf, a than ei arweiniad medrus, y
gobaith yw uwchraddio’r adeiladau er mwyn darparu gwasanaeth
teilwng i’r ardal arbennig hon o India. Ewch ar Youtube a theipiwch
‘Ysbyty Shillong yn Gymraeg’ ac fe gewch yr hanes. Fe fyddwn fel
eglwys yn ymuno yn yr ymdrech i godi arian a bydd y wybodaeth yn
ymddangos yn Perthyn trwy gydol y misoedd nesaf.
Gyda’r newid pwyslais, gwelwyd newid yn natur siaradwyr y
gwahanol Sasiynau. O ddyddiau yr hen genhadon ar gyfnodau o
seibiant, yn teithio o un cyfarfod i’r llall yn sôn am y gwaith ac yn
annog y chwiorydd i barhau yn eu casgliadau, i’r presennol, a gyda’r
presennol, y ddealltwriaeth o’r lleol yn fywyd ac yn fywydau. Braf
felly oedd cael bod yn bresennol yn Aberteifi a gwrando ar Steffan
Morris, un o’n gweithwyr ieuenctid, yn rhannu ei brofiad, ond hefyd
Carol Hardy sydd yn un o weithwyr yr Ystafell Fyw yng Nghaerdydd. Dau siaradwr hollol wahanol i’w gilydd a’r ddau yn gyfoethog
2
eu profiadau a’u hargyhoeddiad. I mi roedd gwrando ar Carol yn
brofiad arbennig iawn wrth iddi sôn am waith yr Ystafell Fyw dan
gyfarwyddyd Wynford Ellis Owen, ond yn fwy felly wrth iddi rannu
ei stori bersonol a hithau yn alcoholig. Nid wyf am fanylu, y mae
Carol yn fodlon dod atom i oedfa. Mi roedd hi’n stori ddolurus yn
ymwneud â bywyd a’r natur ddynol ond yn stori hefyd am adferiad.
Adferiad yr hunan, grym ffydd ond hefyd trugaredd a gwasanaeth yr
Eglwys. Wrth i Carol gerdded llwybr troellog, caregog adferiad
roedd pobl yr Eglwys yno, yn y cefndir, yn cynnal breichiau, yn
ymarferol ofalus, yn adnabod bywydau. A ninnau newydd ddathlu’r
Pentecost, onid dyna’r her i ni fel eglwys, yr her i adnabod a derbyn
bywydau. Rhy aml o lawer mi rydan ni’n methu a hynny efallai
oherwydd bod gennym ormod o gonsyrn am yr hunan, yn bobl ac yn
drefniadaeth, neu weithiau oherwydd ein bod yn swil o fywydau
eraill. Ond o feddu’r gallu i adnabod a thrugarhau, yna rydan ni’n
sylweddoli gwir werth yr Eglwys, yn gymuned o bobl â chariad yn
galon eu bywydau, yn un mewn addoliad ac yn un mewn gwasanaeth. Myth mawr ein cyfnod yw y dweud yma nad ydym angen ein
gilydd fel Cristnogion; gogoniant ein bywydau yw ein dibyniad ar
ein gilydd a dim yn fwy na gyda’r ddealltwriaeth o Gorff Crist ac
undod yr Ysbryd. Sôn am deulu wnaeth Paul, a’ch gwaith chi a fi yw
adnabod y teulu estynedig hwnnw a byw yn ysbryd yr adnabyddiaeth
hynny. Bryd hynny y byddwn yn deall beth yw gwir ystyr eglwys!
Mae’r Haf ar y gorwel, mwynhewch y dyddiau hir!
Eifion
Cymorth Cristnogol yn Aberystwyth
Diolch i bawb a gyfrannodd at waith
Cymorth Cristnogol yn y dre yn ystod
mis Mai, yn arbennig y rheini a fu'n
casglu o ddrws i ddrws neu'n
mynychu'r cinio bara a chaws neu'r
bore a'r noson goffi. Bu nifer yn
cefnogi'r siop yn Seion drwy gyfrannu
i'r stondin gacennau a gweithio am
ychydig oriau yno. Bu'r ymdrech yn
werth chweil eleni eto!
3
NEWYDDION
Anfonwn ein dymuniadau gorau a’n cofion at…
 Sandra Jones a fu yn yr ysbyty yn ddiweddar, hefyd ein haelodau
sydd mewn cartrefi preswyl neu yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu
hunain.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i ..
 Emyr Rees Griffiths a Lauren Davies ar eu priodas ddydd
Sadwrn 6 Mehefin yng Nghapel y Morfa;
 hefyd i Ann Jones (Stryd y Cae Glas) ac Andrew Roberts ar eu
priodas yn Llandeilo ddydd Mawrth, 26 Mai;
 Lisa a Meirion Roberts ar enedigaeth mab – Seth Fenton
Roberts, brawd i Theo a gorwyr i Dilys Stephens. Dymunwn yn
dda iddynt fel teulu yn eu cartref yn Cul-ffordd, Llangawsai;
 hefyd i Beryl Davies ar enedigaeth ei thrydedd orwyres, Nel,
merch i Gwawr a Dan Edwards Phillips.
Cydymdeimlwn yn ddwys ag …
 Awel Jones, Ffion a Sioned a’r teulu ar farwolaeth Anthony –
mab i Mrs Mary Jones a brawd i Valerie Jones;
 Elfed Parry ar farwolaeth ei chwaer, sef Mrs Megan Groutage,
Birmingham;
 William Griffiths ar farwolaeth ei frawd, sef Mr Lewis Griffiths
Rhydyfelin, hefyd â Margaret ei briod a Nia a Ceri a’u
teuluoedd;
 Celia Jones ar farwolaeth ei chwaer yng nghyfraith, Mrs Eluned
Whitfield, Y Barri;
 hefyd â Hefin Jones, Ffordd Ddewi, ar farwolaeth ei fam-gu,
Mrs. Annie Thomas, Llambed.
Llongyfarchiadau i …
 Dr. Brynley Roberts ar ddathlu hanner can mlynedd fel blaenor.
Cafodd ei longyfarch yn y Sasiwn yng Nghapel y Morfa;
 Erin Gruffudd ar ennill yr ail wobr am ryddiaith Blwyddyn 10 ac
11 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili;
 Gwen Down ar ennill yr ail wobr am ysgrifennu barddoniaeth
Blwyddyn 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili;
4
 hefyd i’r plant a’r ieuenctid sydd wedi bod yn llwyddiannus yn
Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid, Eisteddfod Morlan
ac eisteddfodau lleol eraill.
Dymunwn yn dda i’r ieuenctid sydd yn sefyll arholiadau gan
ddymuno’n gorau iddynt yn y dyfodol.
Dathlu Pen Blwydd Priodas

Mr a Mrs William
Williams, Ger-ywenallt, Waunfawr
yn dathlu 72
mlynedd o briodas.
Yn y llun hefyd mae
eu cyfeillion, Mrs
Bet Jones a Mrs
Eirwen Parry Jones,
ynghyd â’r
gweinidog.

CASGLIAD NEPAL
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd mor hael at y casgliad at Gronfa
Argyfwng Nepal ar Suliau yn ystod mis Mai. Llwyddwyd i godi’r
swm anrhydeddus o £745.85.
5
DATHLIADAU’R MORLAN
Roedd penwythnos olaf mis Ebrill yn benwythnos pwysig iawn yng
Nghanolfan Morlan, a’r Ganolfan yn dathlu ei degfed pen blwydd.
Fel y gwyddom i
gyd, mae’r 10
mlynedd
ddiwethaf wedi bod yn
fwrlwm anhygoel
o weithgareddau
yn y Ganolfan, yn
gyngherddau
a
dramâu, yn wersi
dawnsio a chadw
yn
heini,
yn
oedfaon a thrafodaethau, yn weithgareddau i blant a
phobol ifanc, ac
yn lleoliad ar
gyfer ei logi gan
ddegau o fudiadau
a sefydliadau lleol
a chenedlaethol. Ac yn ystod y Ffair Ddathlu ddydd Sadwrn 25
Ebrill, cafwyd blas o’r gweithgareddau sy’n digwydd yno wrth i
nifer o’r llogwyr gyfrannu at y dathliadau.
6
Ar y bore Sul, cafwyd oedfa ddathlu arbennig yn y Morlan, dan
arweiniad Eifion a’r Parch Glyn Tudwal Jones, Gaerdydd. Hyfryd
oedd gweld y neuadd yn llawn i ddiolch ac i ddathlu’r Morlan, a bu’r
plant yn brysur yn cyfleu eu gwerthfawrogiad hwy o’r hyn a olyga’r
Morlan. Aeth rhai ohonynt ati i wneud casgliad bach tuag at waith y
Morlan – diolch o galon iddyn nhw. A diolch i bawb sydd wedi
gweithio mor galed ac mor gyson dros y ddegawd ddiwethaf i
sicrhau llwyddiant a dyfodol i’r ganolfan arbennig hon.
Penwythnos yng Ngholeg y Bala
Mehefin 19–21
i blant 8-11 oed Gogledd Ceredigion
Enwau gyda blaendal o £10 i Eifion neu Eleri
erbyn 3 Mehefin os gwelwch yn dda
7
PENNAETH NEWYDD CYMORTH
CRISTNOGOL YNG NGHYMRU
Mae’n braf iawn gallu nodi
llongyfarchiadau
Capel
y
Morfa i Huw Thomas, sydd
newydd ei benodi yn Bennaeth
Cymorth
Cristnogol
yng
Nghymru. Mae nifer ohonom
yn yr ardal hon yn gyfarwydd
iawn â Huw ac wedi dilyn ei
hanes a’i lwyddiannau ers yn
fachgen ifanc iawn. Wedi
mynychu Ysgol Gymraeg
Aberystwyth ac Ysgol Gyfun
Penweddig, bu Huw yn astudio
Cerddoriaeth ym Mhrifysgol
Rhydychen cyn dychwelyd i
wneud gradd Feistr mewn
Cysylltiadau Rhyngwladol ym
Mhrifysgol Aberystwyth. Ers
hynny, bu’n gweithio gyda
chwmni Airbus yng Nghasnewydd ac yn Rheolwr Prosiect
gyda Sustrans yng Nghaerdydd; mae hefyd yn Gynghorydd Llafur ar Gyngor Caerdydd, bu’n
aelod cabinet yno, ac yn ddiweddar fel y gwyddom, ef oedd
ymgeisydd Llafur Ceredigion ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Ynghanol prysurdeb ei ddyddiau cyntaf yn ei swydd newydd, bu’n
ddigon caredig i ateb rhai o gwestiynau Perthyn.
Perthyn: Huw, llongyfarchiadau calonnog i ti ar dy benodi i’r swydd
bwysig hon gyda Chymorth Cristnogol yng Nghymru. Ond wedi
cyfnod gydag Airbus ac yna Sustrans, pam nawr troi at fudiad fel
Cymorth Cristnogol – beth a’th ddenodd at y swydd hon?
Huw: Ar yr olwg gyntaf, mae fy ngyrfa i yn sicr yn ymddangos yn
un go eclectig! Ond rhywbeth sydd wastad wedi ngyrru i yw’r
sefyllfa o anghyfartaledd ac anghydraddoldeb sy’n bodoli, boed yn
ein gwlad ni, neu yn fyd eang. Dyna apeliodd gyda’r swydd hon –
8
cyfle i fod yn rhan o’r gwaith arbennig mae Cymorth Cristnogol
wedi ei gyflawni yn mynd i’r afael â thlodi, a’r cyfle i barhau a
chryfhau’r gwaith hwnnw, a sicrhau bod Cymru yn gwneud
cyfraniad nodedig i’r frwydr yn erbyn anghydraddoldeb.
Perthyn: Fyddet ti’n fodlon rhannu rhywfaint ynglŷn â’th daith
ysbrydol a’th ffydd di dy hun?
Huw: Fe ges i fagwraeth ar aelwyd lle roedd y ffydd Gristnogol yn
hynod bwysig, gyda Mam yn chwarae’r organ yn eglwys Llanbadarn
Fawr, a Dad yn cymryd yr ysgol Sul. Wrth i fi gwestiynu pawb a
phopeth yn fy arddegau,fodd bynnag, gwanhaodd fy ffydd, yn sicr i’r
pwynt o ddisgrifio fy hun yn agnostig. Yn Rhydychen yr ailddarganfyddais fy ffydd, gyda chymorth ffrindiau a helpodd fi i ateb rhai
o ’nghwestiynau fy hunan. Rwy’n cofio’n glir y geiriau yn un o
ffenestri Capel y Coleg – “Be of good courage; I have overcome the
world.” Bu’r neges honno yn gefn mawr i mi yn y dyddiau hynny, ac
mae wedi parhau felly hyd heddiw. Mae yna ddimensiwn diwylliannol hefyd i addoli yng Nghymru dwi’n teimlo – y canu emynau, y
cymdeithasu – sy’n bwysig iawn i mi. Byddai’n golled fawr i’n
diwylliant ni petai’r traddodiad hwnnw yn cael ei golli.
Perthyn: Rydym newydd nodi Wythnos Cymorth Cristnogol 2015
gyda’r digwyddiadau arferol megis casglu o ddrws i ddrws a
chynnal siop yn y dref am wythnos. Beth yw’r her neu’r heriau
mwyaf wyt ti’n eu gweld ar hyn o bryd i elusen fel Cymorth
Cristnogol?
Huw: Un o’r prif heriau yw cyrraedd cynulleidfa newydd. Mae’n
rhaid i ni gydnabod fod niferoedd sy’n mynychu addoldai ar y Sul
dan wasgfa. Dwi’n credu fod gan Cymorth Cristnogol rôl bwysig yn
ceisio gwyrdroi hynny, ac mae angen i ni rywsut gael strategaeth i
gyrraedd pobl sydd ddim eto wedi clywed ein neges ni. Mae twf tlodi
hefyd yn her - tra bod hanner poblogaeth y byd yn byw ar lai na $2 y
dydd, mae tlodi hefyd ar gynnydd yng Nghymru yn sgil y sefyllfa
economaidd. Mae elusennau yn wynebu mwy o gystadleuaeth felly
am adnoddau a chefnogaeth, ac mae’n rhaid i ni dangos pam fod
gwaith Cymorth Cristnogol yn berthnasol o hyd.
Perthyn: Oes gen ti rai syniadau penodol ynglŷn â datblygu’r elusen
yn y dyfodol agos neu’r hir-dymor? Beth yw dy weledigaeth di ar
gyfer y blynyddoedd nesaf yma?
Huw: Dwi am dreulio’r wythnosau cyntaf yn gwrando ar y cefnogwyr a’n staff, i lunio llun clir o’r hyn sy’n gweithio’n dda, a beth
9
sydd angen ei wella. Yn y tymor hir, fy ngobaith yw gallu ehangu
gwaith presennol Cymorth Cristnogol i gyrraedd cynulleidfa fwy yng
Nghymru, ac yn sgil hynny gwneud cyfraniad pellach i ddileu tlodi.
Dwi hefyd am sicrhau fod Cymorth Cristnogol, a’n cefnogwyr, yn
gallu dylanwadu’n bositif ar bolisïau’r llywodraeth, er enghraifft ym
meysydd newid hinsawdd a threthi teg. Mae yna lawer i’w gyflawni,
ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynd ati.
Diolch yn fawr i ti Huw am gytuno i ateb ambell gwestiwn a hynny
yn ystod dy ddyddiau cyntaf yn dy swydd newydd. Pob dymuniad da
a bendith i ti yn y gwaith, a gobeithio’n fawr y gallwn dy groesawu
atom i’r Morfa yn rhinwedd dy swydd cyn bo hir iawn.
CYMRU A PHATAGONIA:
150 o flynyddoedd o etifeddiaeth
6 Mehefin, 2015, 9.15–4.00
Prifysgol Aberystwyth
Neuadd Fawr, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Penglais)
Cynhadledd yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:



Sut mae’r Cymry a’u disgynyddion wedi llunio cymdeithas a
thirwedd Patagonia?
Sut wnaeth y Wladfa gyfrannu at hunaniaeth Gymreig?
Beth yw arwyddocâd y Wladfa Gymreig heddiw?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Dr Hywel Griffiths 01970 622 674; [email protected]
neu Dr Lucy Taylor 01970 622 701 [email protected]
10
Mae’r capel bach wedi cael cot o baent i’w harddu ar gyfer y
gwanwyn ac i groesawu’r aelodau a’r ffrindiau ffyddlon sy’n
mynychu’r oedfaon bob Sul. Cafwyd gwasanaethau bendithiol yn
ystod y mis; Eifion, ein gweinidog oedd yn yr oedfa gymun, a braf
oed cael cwmni a gwasanaeth y Parchgn Dafydd Andrew Jones,
Glyn Tudwal Jones a Meirion Morris o Gaerdydd. Diolch yn fawr
iddynt oll.
Mae hi bron a bod yn flwyddyn ers i Rhiannon, ein horganyddes, gael y ddamwain. Mawr yw ein diolch i Mary Jones Morris
am drefnu fod organyddion o’r Morfa yn gwasanaethu yn eu tro.
Hefyd, diolchwn fod cludiant i ddwy o’n haelodau o Drefechan i’r
oedfaon. Mae pawb yn gwerthfawrogi’r trefniant yn fawr iawn.
Diolch hefyd i’r porthorion sydd yn ymgymryd â’r gwaith o
agor a chau’r drws, paratoi’r elfennau’r cymun a gofalu am restr y
blodau o Sul i Sul.
Dymuna Megan Evans ddiolch o galon i’r chwiorydd hynny
sydd wedi cyfrannu yn hael eleni eto yn eu blychau cenhadol. Gyda
rhodd hael gan ein ffrind, Mrs Margaret Jones o Danycoed, mae’r
casgliad o £160 wedi ei anfon at Drysorydd yr Henaduriaeth erbyn y
Sasiwn eleni a gafodd ei chynnal yn Aberteifi ar yr 21ain o Fai.
Diolch i Kirsty, a fu yn aelod ffyddlon o’r Ysgol Sul yma, am ei help
yn cyfrif yr arian a’i fancio! “Mewn llafur mae elw”.
Roedd Mrs Catherine Jones, y Gelli, yn disgwyl mynd am
brofion meddygol i Ysbyty’r Waun yn ystod y mis. Ond yn y cyfamser, cafodd damwain drwy syrthio ar y grisiau ac anafu ei braich
yn ddrwg. Felly mae’r ymweliad â Chaerdydd wedi’i ohirio am y tro.
Dymunwn wellhad buan iddi a chofiwn yn gynnes ati.
11
Y GYMDEITHAS: Y DAITH GERDDED
Nos Wener, 14 Mai cerddodd dau ddwsin o’r aelodau o’r Morlan,
drwy Blascrug, ar hyd Afon Rheidol i ardal Blaendolau. Er gwaethaf
rhagolygon anffafriol y tywydd, llwyddwyd i gwblhau y rhan fwyaf
o’r daith cyn i’r glaw gyrraedd, ac ni amharwyd ar y trefniadau.
Erbyn diwedd y daith roedd pawb yn barod am y prydiau blasus a
ddarparwyd yn Llety Parc a mwynhawyd y cyfle pellach i gymdeithasu yno. Cyflwynwyd diolchiadau i Rhys a Trish am yr holl
baratoadau eleni eto.
Cymdeithas y Morfa, 2014–15
Bu’r Gymdeithas dan lywyddiaeth Huw Owen
Yn amrywiol, diddorol a llawen,
Pan ddaw’r trip ym Mehefin
A’r swper i ddilyn,
Fe gaiff pobun ei ddewis o’r fwydlen.
Bu Mary yn ysgrifennydd ardderchog
Ac Ifor yn ofalus o’r geiniog,
Gyda phrofiad y tri
’Doedd rhyfedd gen i
Iddi ’leni fod mor odidog.
Megan Evans
12
STOMP LYFRAU
Er mwyn dathlu’r degawd drwy’r flwyddyn mae’r Morlan wedi
trefnu 10 o ddigwyddiadau amrywiol er mwyn
parhau’r dathliadau. Yr ail o’r rhain oedd y
Stomp Lyfrau a gynhaliwyd nos Fercher 20
Mai, a chafwyd digwyddiad difyr dros ben.
Gofynnwyd i 10 o unigolion i ddewis hoff lyfr
y ddegawd, a rhoddwyd 3 munud yr un iddynt
berswadio’r gynulleidfa mai eu cyfrol hwy
ddylai dderbyn y bleidlais.
Dyma’r 10 unigolyn a’u dewis o lyfr:
Aled Morgan Hughes – Lladd Duw, Dewi Prysor
Gwen Davies – One Moonlit Night, Caradog Prichard
Dilwyn Roberts-Young – John Preis, Geraint Jones
Elin Hefin – O Ran, Mererid Hopwood
Enid Morgan – Bydoedd, Ned Thomas
Jacob Elis – Not Quite White, Simon Thirsk
Jane Aaron – A Hospital Odyssey, Gwyneth Lewis
John Roberts – The Last Hundred Days, Patrick McGuinness
Marion Löffler – Blasu, Manon Steffan Ros
Sarah Down Roberts – Ffarwel i Freiburg, Angharad Price
Wedi’r cyflwyniadau, cafodd pob aelod o’r gynulleidfa gyfle i fwrw
pleidlais a dewiswyd y 4 cyflwynydd/cyfrol orau i fynd ymlaen i’r
ail rownd. Dyma’r cyfrolau a gyrhaeddodd y rhestr fer:
Enid Morgan – Bydoedd, Ned Thomas
Jacob Elis – Not Quite White, Simon Thirsk
Jane Aaron – A Hospital Odyssey, Gwyneth Lewis
Marion Löffler – Blasu, Manon Steffan Ros
Roedd cyfle i’r pedwar uchod ddarllen darn o’r gyfrol ac ateb
cwestiynau gan y gynulleidfa ar eu dewis, cyn i bawb bleidleisio eto. A’r gyfrol/cyflwynydd buddugol y tro hwn? Wel,
llongyfarchiadau calonnog i Enid Morgan a’i chyflwyniad o
Bydoedd gan Ned Thomas.
13
Diolch yn fawr i’r
holl gyfrannwyr yn y
noson arbennig hon, ac i
Deian am lywio’r cyfan
gyda’i gadernid a’i
ffraethineb arferol!
Cofiwch nawr am
ddigwyddiad nesaf y
Deg dros Ddeg, sef Ar
Dramp yn Dre, taith
gerdded Morlan. Cynhelir hon eleni nos
Fercher, 17 Mehefin, i gychwyn am 6 o’r gloch. Bydd William
Troughton a Gareth Lewis yn arwain y daith i ddeg lle o
ddiddordeb yn Aberystwyth. Croeso i bawb!
Gwyl a Barbeciw Ysgolion Sul
Gogledd Ceredigion

Bore Sul, 28 Mehefin
11.15 tan 1.00
yn y Morlan

Hwyl yng nghwmni Zoe Glynne Jones
Ni fydd Ysgol Sul y bore hwn er mwyn cefnogi’r ŵyl
14
SASIWN Y MORFA
Daeth rhyw 60–70 o bobl ynghyd i gyfarfodydd Sasiwn y De yn y
Morfa 12–13 Mai. Ar ysgwyddau Eifion y disgynnodd y baich o
wneud llawer o’r trefniadau lleol a rhaid diolch iddo am wneud y
cyfan mewn modd mor effeithiol. Mae cartrefu Sasiwn am ddeuddydd yn dipyn o ymgymeriad ac yr oedd pawb a fu yno yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl y Morfa i sicrhau fod popeth yn rhedeg mor
esmwyth. Diolch i Richard a Jane (y Richmond) am bob
cydweithrediad; ac yn arbennig diolch i Jean a’i thimoedd o gynorthwywyr yn y gegin ac wrth y byrddau yn darparu te a choffi yn hael,
ac wrth gwrs y te croeso llawn danteithion. Diolch ichi i gyd.
Ond beth yw Sasiwn y De?, meddech chi. Yn syml, eglwysi’r
enwad yn y De (heb anghofio Llundain) yn dod at ei gilydd i ystyried
eu bywyd, eu hadnoddau a’u tystiolaeth, a hynny trwy wrando a
thrafod adroddiadau byrddau a phwyllgorau. Boring? Wel ydy,
weithiau, hyd nes inni sylweddoli ein bod yn trafod sut y gallwn
barhau i wneud ein gwaith: beth yw gofynion ariannol cynnal y
weinidogaeth a’r genhadaeth gartref (a dysgu hefyd beth yw’r
gweithgarwch hwnnw heddiw)? Os na fydd digon o gyllid, onid oes
galw arnom i feddwl am ffyrdd newydd o weithio? Diddorol oedd
gweld fod un cynllun strategol (un o buzz words enwadol ein cyfnod)
wedi ei wrthod am ei fod yn canolbwyntio gormod ar adeiladau a rhy
ychydig ar weithgarwch.
Mae’n rhyfedd fel y bydd ambell Sasiwn â naws neu awyrgylch
arbennig yn ei nodweddu heb fod neb yn trefnu hynny; rhywbeth
sy’n digwydd ydyw. Yn y Morfa daeth yn amlwg yn gynnar fod un
thema i’w chlywed yn gyson mewn adroddiadau amrywiol a oedd yn
codi calon y cynrychiolwyr. Dechreuodd gydag adroddiad am y
cynnydd yn y gweithgarwch mewn un henaduriaeth gyda phlant ac
ieuenctid, cynnydd a oedd i’w briodoli, fe gredent, i le canolog
gweddi yn y paratoi ac yn y gwaith; yna adroddiad arall am glybiau
plant a’r symud ymlaen i sefydlu clybiau ieuenctid, fod y plant yn
ymateb yn frwd a bod ar gael niferoedd o wirfoddolwyr i
gynorthwyo; ac yma eto yr oedd gweddi yn fan cychwyn pob
cynllun; wedyn cafwyd hanes eglwysi ac ysbytai Jowai a Shillong, a
lle canolog gweddi ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd. Rywsut
fe gydiodd hyn oll yn ysbryd y Sasiwn, a phenderfynwyd mai
cyfarfod gweddi fyddai gwasanaeth cloi’r Sasiwn. Eifion oedd y
Llywydd erbyn hyn. Darllenodd o bennod gyntaf ail lythyr Paul at
Timotheus a’n hannog i fynd ag adnod 14 gartref gyda ni. Yna,
15
gadawodd y cyfarfod yn agored i weddi a chawsom tua hanner awr o
dawelwch myfyrgar heb i neb dorri gair yn gyhoeddus ond bod pawb
yn ymwybodol fod yna weddïo dwys. Diolchwn i Eifion am osod
cyweirnod i’r Sasiwn ac i’w lywyddiaeth.
Dymunwn yn dda iddo yn ei dymor fel llywydd. Mae’n gofyn
am ein cefnogaeth ac am ein gweddïau ninnau.
Oedfa nos Fawrth, 12 Mai, yng Nghapel y Morfa, lle dechreuodd Eifion ar
ei flwyddyn o Lywyddiaeth Sasiwn y De
SASIWN GENHADOL Y CHWIORYDD
Ddydd Iau, 21 Mai, cynhaliwyd y Sasiwn Genhadol yng Nghapel y
Tabernacl, Aberteifi, ac estynnwyd croeso cynnes iawn i bawb gan
eglwysi’r Ofalaeth sydd o dan ofal Y Parch. Llunos Gordon.
Yng nghyfarfod y prynhawn cyflwynwyd siec o £9,500 gan
Margaret Griffiths ar ran eglwysi tair Henaduriaeth y de i Nan
Powell-Davies at waith y genhadaeth. Bydd hanner y casgliad yn
mynd dramor i gynorthwyo Ysbyty Gordon Roberts yn Shillong yn
yr India a’r hanner arall i hybu’r gwaith yma yng Nghymru trwy
gyfrwng y gweithwyr plant ac ieuenctid, y gweithwyr cenhadol a’r
canolfannau megis Coleg y Bala. Mae’r Morlan wedi derbyn arian o
16
gronfa Bwrdd y Genhadaeth yn y gorffennol. Wrth ddiolch am y
cyfraniad hael eto eleni, adroddodd Nan eu bod fel adran eisoes wedi
anfon £4000 o’r gronfa argyfwng tuag at apêl argyfwng Nepal.
Y siaradwr yng nghyfarfod y prynhawn oedd Steffan Morris
sydd wedi treulio cyfnod fel gweithiwr cenhadol yn Nyffryn Conwy
ac sydd yn treulio blwyddyn eleni o dan hyfforddiant bugeiliol yn
ardal Y Bala gyda’r Parch Hywel Edwards. I agor ei anerchiad,
cyfeiriodd Steffan at yr adnod o’r drydedd bennod o Efengyl Ioan
sydd yn sail i waith y genhadaeth eleni: “Canys Felly y carodd Duw
y Byd….” Bu Steffan a’i wraig Gwenno yn cynnal y cwrs ieuenctid
“Dilyn Fi” yn Y Bala a gwelwyd ffilm o’r gweithgareddau a’r
bwrlwm a fu ar y cwrs hwnnw. Rhannodd Steffan ei dystiolaeth a
disgrifiodd y modd y gwnaeth astudiaeth o fywyd Jona ei arwain at
ei alwad ef i’r weinidogaeth a’r modd y mae cariad y Duw graslon a
thrugarog yn ei gynnal yn y gwaith. Llywyddwyd y cyfarfod gan Y
Parch Llunos Gordon.
Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan Margaret Jones, Port Talbot
a throsglwyddodd y llywyddiaeth am y tair blynedd nesaf i Ina
Tudno Williams. Cafwyd gair o ddiolch a gwerthfawrogiad o’r
gwaith ar ran Sasiwn y De gan y llywydd newydd, Y Parch Eifion
Roberts.
Gwahoddwyd Carol Hardy i sôn am ei gwaith yn y Stafell Fyw
yng Nghaerdydd. Yn onest ac yn agored rhannodd Carol ei phrofiad
fel alcoholig a’r modd y derbyniodd iachad trwy ras Duw.
Cyfeiriodd at y modd y gwnaeth aelodau o eglwys y Tabernacl, Efail
Isaf, ei chynnal a’i chynorthwyo yn ei hadferiad ac i ail-adeiladu ei
bywyd. Daeth cyfle iddi gynorthwyo’r rhai sydd yn dioddef o bob
math o ddibyniaeth trwy ymgeisio am swydd fel cydlynydd prosiect
Estyn Llaw a Hyfforddwr Adferiad Stafell Fyw. Cawsom ein
cyffwrdd, cawsom ein herio a’n cadarnhau fod ystyr y gair
cenhadaeth yn eang, yn ymateb i anghenion ac yn gwireddu’r geiriau
ar daflen wybodaeth Estyn Llaw – ‘O ddeall poen ein hunain, deuwn
i ddeall poen y byd’, gwedd arall ar yr adnod “Canys felly y carodd
Duw y byd”
Diolch i aelodau Capel y Morfa ac Ebeneser am gyfrannu’n hael
tuag at gyfraniad y genhadaeth eleni eto trwy gyfrwng y blychau
cenhadol, cyfraniadau unigol a chyfraniadau’r Gymdeithas a’r
Eglwys.
Eleri Davies
17
Y Weddi Alzheimers
Helpa fy ymwelwyr i fod yn oddefgar o’m dryswch ac i faddau fy
afresymoldeb.
Rho’r cryfder iddyn nhw gerdded gyda
mi trwy niwl atgofion sydd bellach yn fyd
i mi.
Helpa nhw os gweli’n dda i ddal fy llaw
ac aros am ychydig gyda mi, hyd yn oed os
wy’n ymddangos fel petawn heb wybod eu
bod yno.
Helpa nhw i deimlo y bydd eu cryfder,
eu cariad a’u gofal yn treiddio’n araf ac yn rhoi cysur i mi yn
y dyddiau a ddaw, yn union pan fydd ei angen arnaf fwyaf.
Gad iddyn nhw wybod, pan mae’n ymddangos mod i ddim yn eu
hadnabod nhw, y gwnaf i.
Fe geisiaf gadw eu calonnau’n rhydd o dristwch drosof,
oherwydd dim ond am foment mae fy nhristwch i yn para ac
yna mae’n cilio.
Ac yn olaf O Dduw, gad iddyn nhw wybod mor bwysig yw eu
hymweliadau i mi. Hyd yn oed drwy’r dryswch di-drugaredd
hwn, mae eu cariad yn fy nghynnal.
Cyfieithiad o’r Saesneg, Suzanne Rouke
Diolch yn fawr i Elin Royles am y cyfieithiad o’r weddi arbennig
uchod. Fe’i gwelodd hi wrth ymweld â pherthynas sydd mewn cartref
bellach oherwydd ei bod yn dioddef o’r clefyd Alzheimers. Ein
dymuniad yw y bydd y geiriau yn gymorth i eraill sy’n gweld teulu
neu gydnabod yn dioddef yn yr un modd.
Noson Goffi
Adloniant a Stondin Gacennau
Festri’r Morfa, nos Wener, 26 Mehefin
6.30–8.00
Trefnir gan Yr Ysgol Sul
Elw at Apêl Ysbyty Shillong yn yr India
18
SWYDDOGAETHAU MEHEFIN 2015
Blaenor y Mis Eleri Davies
Porthorion Arwel Jones, Mary C. Jones
Rhys Jones, Hefina Davies-Wright
Blodau'r Cysegr – Y Morfa
7
14
21
28
Rhys a Jenny Jones
Eifion ac Alwen Roberts
Carys Davies
Nancy Lovatt
Blodau Ebeneser
7
14
21
28
Megan Evans
Catherine Jones
Megan Morris
Denise Morgan
Cynorthwywyr Llestri Cymun
7
Dilys Lloyd, Trish Huws, Mattie Jones, Enid Jones, Elsbeth
Jones
Cynorthwywyr Ariannol
7
14
21
28
Hywel Lloyd, Huw Chambers
Hefina Davies-Wright a Wynford Evans
Menna Evans ac Elvey MacDonald
William a Mair Griffiths
Tregerddan
28
Dan ofal Geraint Lewis Jones, Gwerfyl Pierce Jones, Brian
Thomas
Golygyddion y mis hwn yw Gwenan Creunant ac Ann Hawke.
Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Gorffennaf / Awst o PERTHYN at
Gwenan ([email protected]) neu Ann ([email protected]) erbyn
dydd Gwener, 19 Mehefin os gwelwch yn dda.
Gwae inni wybod y geiriau heb adnabod y Gair
A gwerthu ein henaid am doffi a chonffeti ffair.
Gwenallt
19
DYDDIADUR MEHEFIN 2015
GWASANAETHAU’R SUL 10.00 a 6.00 yn y Morfa /
Seion / Bethel; 2.15pm yn Ebeneser
7
14
21
28
Bugail (cymun yn y nos)
Bugail
Parch R Alun Evans (bore a phrynhawn);
Parch Raymond Jones (nos)
Parch Cynwil Williams
CYFARFODYDD WYTHNOSOL – nos Iau am 7.00 pm
CYLCH GWEDDI A CHOFFI – bore Mawrth am 10.30
CINIO BARA A CHAWS – 1 Mehefin, Canolfan y Waun,
Waunfawr
TRIP Y GYMDEITHAS – 3 Mehefin, i ardal Talgarth a Choleg
Trefeca. Os hoffech fynd ar y trip, rhowch eich enwau cyn
gynted ag sydd bosibl i Hefin Jones os gwelwch yn dda.
20

Similar documents

Perthyn Mai 2014

Perthyn Mai 2014 gymorth hwn felly y gallwn fyw bywyd glân a phur. Sut mae derbyn nerth yr Ysbryd Glân? Yn yr un ffordd ag y derbyniodd y disgyblion Ef ar Ddydd y Pentecost, sef (a) drwy ddisgwyl amdano, (b) bod yn...

More information

Rhifyn Haf 2009 - UKunitarians.org.uk

Rhifyn Haf 2009 - UKunitarians.org.uk “O leia’ mae’r larwm yn gweithio, ac yn gwneud ei waith,” meddai Lewis Rees. “Dwi ddim yn credu bod gan y bobol yma sy’n ceisio torri mewn i’r capel ddim byd yn ein herbyn ni fel cynulleidfa na Und...

More information