Perthyn Mai 2014

Transcription

Perthyn Mai 2014
Mai 2014
Rhifyn 226
Dyma Rojan Wahid, merch pymtheg oed o Irac, yn dal
pysgodyn a ddaliodd o'r gronfa ddŵr a helpodd REACH
(partner i Gymorth Cristnogol) i'w chymuned ei hadeiladu.
Mae'r gronfa ddŵr yn caniatáu i bobl gael bwyd maethlon
drwy'r flwyddyn.
Llun gan Cymorth Cristnogol / Sarah Malian
Mae rhyfel yn rhwygo bywydau
Gall cariad helpu eu dwyn
ynghyd unwaith eto
Mae Capel y Morfa yn bump ar hugain oed eleni a
byddem yn croesawu pytiau byr gan aelodau i gofnodi’r
garreg filltir nodedig hon yn ein hanes fel eglwys.
Beth mae’r capel yn ei olygu i mi?
Fel un o aelodau newydd y Morfa yr argraff mwyaf trawiadol a gefais
wrth fynychu oedfa am y tro cyntaf oedd y croeso cynnes gan y
gweinidog, swyddogion a llu o aelodau. Braf oedd gweld cynifer o
deuluoedd ifanc yn oedfa'r bore ac Ysgol Sul lwyddiannus dan
arweiniad athrawon brwdfrydig. Syndod oedd gweld y nifer o
weithgareddau wythnosol, y gofal am gyd-aelodau a phawb yn cydweithio'n hapus dan arweiniad swyddogion a blaenoriaid gweithgar.
Diolch am y tȋm o gyfeilyddion medrus. Hyn oll er mwyn creu
awyrgylch o addoliad ac er clod i Dduw.
Huw Evans
Dwy'n meddwl taw Hywel Owen wnaeth ein gwahodd i'r Morfa am y
tro cyntaf dros baned yn y Cabin. Yr huawdl Adrian Morgan oedd yn
pregethu. Rhaid cyfadde nad o ni wedi bod i gapel arwahan i ambell i
briodas ac angladd ers tro byd. Mae'r naws anffuriol, yr hiwmor, safon
y pregethu a'r croeso cynnes yn parhau i daro deuddeg. Fel mewn pob
lle o addoliad mae'n braf ambell waith cael cyfle i gau'r drws ar ruthr
y byd modern i gael meddwl am bethau uwch a chael diolch a chyfrif
bendithion.
Garmon a Hannah Gruffudd
Wel tybed a oes yna aelod arall wedi priodi ddwy waith yng Nghapel
y Morfa? Fel ag a wyddoch mi briodais gynta ym Mai 2007 a hynny
gyda Henry Down – gwasanaeth tawel oedd hwnnw oherwydd
afiechyd Henry. Mor falch oeddwn dwi’n cofio ei fod wedi llwyddo i
gyrraedd y capel ac yntau ar y pryd yn yr ysbyty – cawsom wasanaeth
hyfryd yng nghwmni Mima Morse, a Phryderi oedd y cofrestrydd – pa
2
well cyfuniad? Priodi wedyn ym Mehefin 2012 – awyrgylch tipyn yn
wahanol y tro hwn – Gwen yn hŷn ac yn llawn ffws a braf oedd
croesawu teulu a ffrindiau. Mi gwrddais â John gyda llaw am ei fod
wedi dod i bregethu i’r Morfa!
Ar ôl cyrraedd Aberystwyth yn 2006 fy mwriad oedd mynd i sawl
capel – nid wyf yn berson caeth i enwad – a gweld pa un fyddai’n
plesio orau. Capel y Morfa oedd ein stop cyntaf am mai hwnnw oedd
agosaf at y tŷ – ac afraid dweud nad aethom ymhellach ein tri! Mawr
oedd y croeso – Gwen yn cael croeso mawr yn yr Ysgol Sul a Henry
yn falch o weld hen ffrindiau o ysgol Tregaron, y Brifysgol a’r clwb
rygbi! Yn ystod yr wythnos fe alwodd Pryderi ac fe gawsom sawl
neges yn ein croesawu - doedd dim dianc wedyn! Mae’r cynhesrwydd
cyntaf hwnnw wedi parhau mewn cyfnodau llon a lleddf – diolchaf
am y gymdeithas a’r syniad o berthyn sy’n rhan annatod o’r capel.
Sarah Down-Roberts
Ers dod yn aelod tua hanner can mlynedd yn ôl, mae'r enwad yn
Aberystwyth wedi newid llawer. Dros y chwarter canrif diwethaf,
rwyf wedi gweld gwahaniaeth mawr- gynt roedd y capeli'n gwanhau
ond heddiw gwelaf un Eglwys lewyrchus a llwyddianus. Rwy'n
ddiolchgar am ddoethineb, gweledigaeth a dyfal-barhad ein
harweinwyr a wnaeth hyn yn bosibl.
Rwy'n teimlo fy mod yn perthyn i gymdeithas gyfeillgar a chynhaliol
sy'n effro ac yn agored i fentro 'mlaen. O weld cynnydd yn yr Ysgol
Sul, rwy'n llawn gobaith y bydd y tô ifanc yn hyderus i gymryd yr
awennau ac adeiladu ymhellach i'r dyfodol.
Celia Jones
3
Gair gan y Gweinidog
Daw’r geiriau hyn i fod ychydig oriau wedi’r Pasg a’r cyfan yn
arwyddo diwedd cyfnod y Grawys ac yn hynny’r Ŵyl. Unwaith yn
rhagor bu’r wythnosau yn wythnosau o gyfleon pryd y gwelwyd pobl
ffydd yn myfyrio ar ddioddefaint a gwewyr yr Iesu a ddaeth i binacl
yn ei croeshoeliad a’i farwolaeth. Y mae’r bedair Efengyl yn gwneud
pwynt o gofnodi bod yr Iesu wedi ei groeshoelio ac yn hynny wedi
marw. Y mae’n gwanychu, yn dirywio ac yn marw, yn hollol
naturiol, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Ac mor hawdd fyddai
i’r hanes fod wedi aros yn y fan hynny. Fe fu’r misoedd diwethaf yn
fisoedd o gofio un o wŷr mawr ein hoes sef Nelson Mandela gyda
sylw arbennig i’w gyfraniad ond yn fwy felly ei gymeriad. Fe
anwylodd ei hunan i gymaint o bobl ac i ninnau hefyd er na fu i’r un
ohonom ei gyfarfod. Yng nghyd destun ei garchariad, yr oedd yn
esiampl o berson a ddioddefodd o ganlyniad i’w argyhoeddiad gan
ddwyn i ganol bywyd gwleidyddol a chymdeithasol y ddealltwriaeth
o aberth a dyfalbarhad. Yn hanes ei genedl a thu hwnt fe erys ei
etifeddiaeth a’i esiampl, esiampl fydd yn symbylu unigolion i geisio
a gweithredu yr un egwyddorion.
Gwir fyddai dweud mai yn yr un mowld y mae gymaint wedi gweld
yr Iesu ar hyd y canrifoedd, gan ganolbwyntio ar ei ddyndod ac yn
hynny edmygu ac efelychu ei eiriau a’i weithredoedd. Mewn geiriau
eraill, aros gyda’i farwolaeth gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n
ddealladwy ac yn synhwyrol. Cam naturiol o hynny yw diffinio y
grefydd Gristnogol yn yr union dermau gyda phwyslais arbennig ar
esiampl foesol a chymdeithasol. O fod felly mae yna wastad y perygl
o rhoi bod i rhywbeth nad oes iddo rym nag effaith. Y mae’r ffydd
Gristnogol wedi ei diffinio ar hyd y canrifoedd nid fel canllawiau ar
gyfer bywyd yn unig ond yn hytrach y profiad real yna o Dduw yn ein
calonnau a’n meddyliau. Dyna pam nad yw hanes y Pasg yn aros
4
gyda’i farwolaeth. Yn dilyn ei ddioddefaint ceir clytwaith o hanesion
yn sôn am atgyfodiad a phrofiad unigolion o’r Crist byw. Crist sydd
yn sôn am faddeuant ac adferiad. Ac yno yr ydan ni’n darganfod ein
hunan yn ceisio gwneud synnwyr, nid yn unig o ddyndod yr Iesu ond
hefyd ei ddwyfoldeb a’r honiad sydd wedi bod yn galon y ffydd
Gristnogol ar hyd y canrifoedd sef ‘Crist mab Duw’. A ceisio deall
hynny ydach chi a fi ond yn fwy felly yn ceisio byw y ddealltwriaeth
gan agor ein hunain i ddylanwadau Duw yn ein bywydau. Ac mae
hynny yn golygu llawer mwy na byw yn ôl esiampl.
Ymhen amser fe fydd hi’n Bentecost, a
ninnau’n dathlu dylanwad dwyfol ar
galon a meddwl, boed i ni mewn gweddi
ac mewn ymdrech yn ein bywydau
personol a chymdeithas yr Eglwys
geisio y dylanwadu hynny sy’n fywyd
ac yn lawenydd.
Diolch am lawenydd y Pasg, llawenydd
oedd mor amlwg yn ein hoedfa bore
ddoe. Fe fydd y darlun yna o gynulleidfa
fawr a bwrlwm plant a hyfrydwch
gweithred addoliad yn un fydd yn aros
yn y cof am amser.
Bendith a diolch am gael bod yn deulu.
Eifion.
Bydd teyrnged i Mrs Auriel Fenton yn
ymddangos yn y rhifyn nesaf o Perthyn
5
Wythnos Cymorth Cristnogol 11-17 Mai 2014:
“Rhowch ddyfodol heb ofn i bobl”
Dyma ddatganiad Cymorth Cristnogol eleni“I nifer cynyddol o bobl ar draws y byd, mae erchyllterau rhyfel yn
rhan o fywyd bob dydd. Mae rhyfel yn chwalu bywydau. Eleni, mae
ymgyrch Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar greu dyfodol heb
ofn i bobl. Gellir gwneud newidiadau gwirioneddol i'w bywydau wrth
i unigolion, cymunedau ac eglwysi gymryd rhan yn Wythnos Cymorth
Cristnogol.
Llynedd, unodd 20,000 o eglwysi ar draws Prydain ac Iwerddon i
helpu codi £12m tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol. Diolch i’r
ymdrechion hyn, ac i bartneriaid Cymorth Cristnogol yn y trydydd
byd, gall llawer mwy o bobl edrych ymlaen at ddyfodol yn rhydd o
ofn a thlodi.”
Yn y cyntedd y mis hwn fe welwch daflenni am weithgarwch
Cymorth Cristnogol yn ein hardal ni.
•
Cynhelir casgliad o ddrws i ddrws yn Aberystwyth yn
ystod wythnos 11-17 Mai. Bydd Capel y Morfa yn casglu mewn
pump o strydoedd ynghanol y dre. Rydym yn apelio am rhagor
o gasglwyr i wneud y gwaith. Os allwch chi helpu, arwyddwch
y daflen yn y cyntedd mor fuan â phosibl. Diolch yn fawr!
•
Bydd cinio bara a chaws yn Seion ar y 12fed.
6
•
Yn ystod yr wythnos sy’n dilyn, (19-24 Mai) cynhelir siop yn
Festri Bethel, er budd Cymorth Cristnogol. Derbynnir nwyddau (dim
dillad nag offer trydanol) ar y dydd Llun, 19eg. Bydd angen
gwirfoddolwyr i weithio yn y siop a gallwch arwyddo amserlen yn
ystod y cinio bara a chaws yn Seion ar y 12fed neu yn ystod dydd Llun,
19eg. Bydd stondin gacennau bob dydd. Dydd Mercher yw dydd
arbennig Capel y Morfa ar gyfer cacennau a bwydydd cartref. Os allwch
gyfrannu cacen, gofynnir yn garedig i chi lapio’ch cacen ac i beidio â
chynnwys hufen ynddi. Llynedd codwyd £1,000 yn siop Cymorth
Cristnogol yn y dre. Gobeithio y gallwn ymateb i’r her eleni eto drwy
gyfrannu a phrynu - a gweddȉo dros y rhai mewn angen.
Yn gymaint ag i chwi ei wneud i un o’r lleiaf o'r
rhain, i mi y gwnaethoch - Mathew 25
7
Newyddion
Anfonwn ein dymuniadau gorau a’n cofion ….
- at Miriam Lloyd Evans ac Anwen Morgan Jones a fu yn yr ysbyty yn
ddiweddar
- hefyd at ein haelodau sydd mewn cartrefi preswyl neu yn derbyn
gofal yn eu cartrefi eu hunain.
Cydymdeimlwn yn ddwys ….
- â Rhys, Marc. Lisa a Mari a’u teuluoedd ar farwolaeth eu mam, sef
Auriel Fenton, Cul- Ffordd. Llangawsai ac â Dilys Stephens,
Brynmarian, sydd wedi colli ei merch Auriel.
- â Joyce Knight sydd wedi colli ei brawd –yng-nghyfraith sef Mr
Michael Knight, Trefeglwys.
- hefyd â Siân Eleri Davies a Deian Creunant ar farwolaeth tad Siân
Eleri, Mr Ceredig Davies, Llandwrog.
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau ….
i Mr. David Richards, Cartref Cwmcynfelin ar ddathlu ei benblwydd
yn 90 oed yn ddiweddar
i Mair Jones, Cysgod y Coed, Llanilar sydd wedi dathlu ei phenblwydd
yn 90 oed yn ddiweddar.
8
Priodas
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau …
i Alan ac Andrea Lovatt a briodwyd yn Aberystwyth yn ddiweddar.
Mae Alan yn fab i Nancy Lovatt.
hefyd i Richard ac Emma Lucas ar eu priodas yn Sir Benfro. Mae
Richard yn ŵyr i Gwen Jones.
Llongyfarchiadau i’r plant a’r ieuenctid a fu’n cystadlu yn yr
eisteddfodau lleol yn ddiweddar ac yn Eisteddfodau Sir yr Urdd gan
ddymuno’n dda i’r rhai a fydd yn mynd ymlaen i Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala.
Cymanfa Ganu Gogledd Ceredigion
Dydd Sul, 11 Mai, yng Nghapel Bethel, Stryd y Popty
10 o’r gloch – Gwasanaeth Plant a Ieuenctid
5.30. yr hwyr - Y Gymanfa Ganu
Arweinydd: Mrs Margaret Daniel
Organydd: Rhidian Griffiths
Nos Fercher, 7 Mai am 7 o’r gloch: Ymarfer yng Nghapel Bethel
9
Mai 18: Thema gwasanaeth y bore fydd Duw cariad yw. Bydd
gweithgareddau crefft yn y festri yn ystod y gwasanaeth yn Yr
Ysgol Sul (Sul Stomp). Os oes rhywun yn dymuno cynorthwyo
gyda’r gweithgareddau rhowch wybod i Sioned neu un o
athrawon Yr Ysgol Sul os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith yn addurno’r wyau ac
yn eu gwnio i greu’r bunting.
Y plant yn derbyn wyau Pasg, gweler y bunting yn y pulpud.
Diolch i Amelia am y llun
Gwaith manwl ar yr wŷau
10
Bunting y Pasg
Diolch i Sioned Williams am y syniad o greu bunting o wyau Pasg i
addurno'n capel ar gyfer Sul y Pasg. Fe wnaeth Sioned baratoi pentwr
o siapiau wyau mewn ffelt o wahanol liwiau a'u dosbarthu i blant yr
Ysgol Sul a rhai aelodau o'r capel er mwyn iddynt eu haddurno
mewn ffordd greadigol ar gyfer yr Ŵyl. Bu nifer yn gwnȉo'r wŷau i
greu'r bunting. Dyma ffrwyth eu llafur isod!
11
Oedfa bore'r Pasg
addasiad o adroddiad ar wefan Capel y Morfa,
http://www.capelymorfa.org, gan John Roberts
Oedfa deulu oedd oedfa Sul y Pasg yng Nghapel y Morfa. Roedd y lle
yn llawn bwrlwm a bywyd wrth i leisiau'r plant a'r oedolion
groesawu’r atgyfodiad. Cafwyd darlleniadau pwrpasol oedd yn ein
cario o’r groes, at y bedd gwag ac i ganol her byw fel pobl yr
atgyfodiad. Roedd Lowri a Tomos wedi dod ag oen bach i’r oedfa, a
gafodd ddigon o sylw wedyn yn y festri ac ambell oedolyn yn ogystal
â’r plant yn mwynhau mwytho’r creadur bach! Bu Eifion yn atgoffa’r
plant am anifeiliaid oedd yn adrodd rhywfaint o stori fawr yr
atgyfodiad. Y pili pala a’i drawsnewidiad syfrdanol, y paun a’i blu
newydd, y cyw yn cynrychioli bywyd newydd, y gwningen fel
arwydd bywyd, y pelican am ei fod yn fodlon aberthu ei hun er mwyn
y cywion, a’r oen wrth gwrs am mai Iesu yw Oen Duw. Roedd y
capel heddiw yn harddach nag arfer wrth i ‘bunting’ oedd yn
arddangos wyau wedi’u gwnïo ymestyn ar hyd y muriau – pob un yn
wahanol ac yn brydferth ac yn arwydd o ysbryd cymunedol y capel.
Cafwyd myfyrdod ar ffurf lluniau a chân oedd yn ein tywys drwy
ddioddefaint at orfoledd. Yna tynnodd Eifion ein sylw at ddwy
ddelwedd benodol sef y cerflun o Iesu ar y groes. Nid cerflun o’r
Crist yn dioddef yn dawel mohono ond Crist gwyllt yn sgrechian ar
groes. Yna yr oedd darlun arall o dwy fam o Iran yn cofleidio’i
gilydd. Lladdwyd mab un o'r mamau gan fab y fam arall. Fel mae'r
hawl gan deulu y dioddefwr yn Iran rhwystrodd mam y bachgen a
laddwyd ddienyddiad y llall. Roedd yn stori o faddeuant a dechrau
newydd, a dyna’r her i ninnau ar Sul y Pasg. Byw y cyfle newydd a
roddir i ni yn atgyfodiad Iesu Grist, a byw fel cymuned gariadus, y
gymuned yr oedd y bunting yn symbol ohono.
12
Cymdeithas y Morfa
Ar ddechrau’r cyfarfod ar 14 Ebrill, cafwyd adroddiad am gyfarfodydd
amrywiol y flwyddyn ers Medi 2013 gan y Cadeirydd, Dilys Lloyd.
Cyflwynodd y trysorydd, Ifor Davies, mantolen y Gymdeithas a
phenderfynwyd rhoi cyfraniadau i Glwb Clex, Clwb Hwyl Hwyr, y
Genhadaeth ac elusen Clefyd Parkinson. Anfonwyd cyfraniad eisoes at
drychineb y Philipines a bydd y Gymdeithas yn cyfrannu at Prosiect dŵr
Ethiopia yn ystod yr haf.
Huw a Mary Owen yw’r swyddogion am y
flwyddyn nesa a derbyniwyd awgrymiadau i’w hystyried ar gyfer y rhaglen.
Bydd Ifor yn parhau fel trysorydd y Gymdeithas. Roedd pawb o’r farn fod
dathlu Gŵyl Ddewi yng Ngwesty’r Marine wedi bod yn llwyddiant.
Yn ddiweddarach daeth Eleri Roberts a’i chyfeillion i gyflwyno noson
gerddorol. Mae’r canwr profiadol, Trefor Pugh, yn wyneb cyfarwydd a
chawsom sawl unawd ganddo yn ystod y noson yn ogystal â deuawdau gydag
Eleri a’i gitâr. Roedd pawb wedi dotio ar y ddau frawd ifanc, Harri a Steffan
Mason Jones o Bonterwyd. Bu’r ddau yn canu unawdau ac yn adrodd darnau
digri fel “Just digwydd bod yno...” a “Fy ystafell wely”. Gwerthfawrogwyd y
cyfraniadau cyfarwydd a’r llai cyfarwydd yn fawr gan y gynulleidfa a roedd y
ddau frawd wrth eu bodd gyda’r wyau Pasg siocled!
Cawsom wledd o
adloniant gan
Trefor, Eleri,
Steffan a Harri
13
Prosiect Pasg Clwb Clex
Fel y gwelwch, rhoddwyd llawer o gyfraniadau o duniau,
jariau a phacedi o fwydydd yn y bwni bwyd yn ystod yr
wythnosau diwethaf. Mae aelodau Clwb Clex yn ddiolchgar
iawn i bawb a roddodd fwyd i'r bwni ac yn ystod yr
wythnosau nesaf bydd y cyfraniadau yn mynd i Jiwbili House
ym Mhenparcau iddyn nhw ei ddosbarthu i'r rhai sydd mewn
angen.
Bydd modd cyfrannu i'r bocs bwyd yn y cyntedd mis nesa eto. Mae angen
tuniau o gig a ffrwythau yn arbennig.
14
Joio @ Morlan
Dyma luniau o rhai o weithgareddau'r criw yn y Morlan ar 15 Ebrill.
Diolch i Zoe Jones am dynnu'r lluniau.
15
Gweddi
Heddiw, Arglwydd
bydd pobl yn cael eu geni a bydd pobl yn marw;
bydd pobl yn priodi, yn gadael cartref
ac yn sefydlu eu haelwydydd eu hunain;
bydd pobl yn gwledda, yn newynu,
yn gwneud arian, yn dwyn arian,
yn rhannu arian ag eraill;
bydd pobl yn llwyddo ac yn methu;
bydd rhai yn lladd a rhai yn caru a thosturio.
Dyma dy deulu di, Arglwydd,
ac y mae’n deulu mawr
a thu hwnt i’n dirnadaeth ni,
ac eto fe wyddom ein bod yn rhan ohono.
Tyn ni’n agosach at ein gilydd fel plant i ti;
dysg ni i ofalu am ein gilydd fel plant i ti;
dysg i ni ofalu am ein gilydd,
a gofidio am ein gilydd,
nid mewn gweddi achlysurol,
ond yn y ffordd y gwariwn ein harian,
a threulio’n hamser,
a bwrw pleidlais a magu’n plant.
Adnewydda’r teimlad yng nghalon pawb ohonom
ein bod yn perthyn i’n gilydd,
a boed i’r syniad o deulu fod yn real
yn ein meddwl ac yn ein bywyd,
fel y gallwn ofyn hyn yn enw’r Iesu,
a’n dysgodd ni i’th alw di yn ‘Dad’.
AMEN
Meurwyn Williams o Amser i Dduw, Gol. Elfed ap Nefydd Roberts.
16
Sasiwn Genhadol Chwiorydd y De
Eglwys y Crwys, Caerdydd
Dydd Mawrth Mai 20fed
Siaradwyr: Cyfarfod y prynhawn am 2 o’r gloch
Mrs Dianne Bartholomew: Banc Bwyd Caerdydd
Cyfarfod yr hwyr am 5 o’r gloch
Mrs. Gwenda Jenkins : beibl.net
Os ydych yn dymuno teithio ar y bws o Aberystwyth a
wnewch chi roi eich enw i Eleri Davies erbyn Mai 1af os
gwelwch yn dda
22 Ebrill: PIMS (Pobl Ifanc Minny Street) yn festri Capel y Morfa.
Cewch yr hanes yn y rhifyn nesaf o Perthyn.
Diolch i Amelia am y llun.
17
Derbyniwyd y neges yma ar e-bost drwy law Bwrdd Eglwys a
Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Daw oddi wrth
Joanna Blake, sy’n egluro ei bod yn gweithio ar brosiect
arbennig ar ran Llywodraeth Cymru.
Annwyl Bawb
Rwy’n fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn
cynnal ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru i safbwyntiau
Cristnogion sy’n byw yng Nghymru ynghylch rhoi organau.
Rwy’n atodi dolen i arolwg ar-lein a ddylai gymryd 5 i 10
munud i’w lenwi.
Bydd y canfyddiadau’n helpu Llywodraeth Cymru i gael
dealltwriaeth well o safbwyntiau Cristnogion sy’n byw yng
Nghymru, ac mae’n ategu ymchwil sy’n cael ei chynnal gyda
grwpiau ffydd eraill.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r neges hon gyda
chynifer â phosibl o’ch cynulleidfaoedd (p’un ai drwy
gylchlythyron plwyf neu drwy e-bost). Gallwch lenwi’r arolwg
yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob ymateb yn cael ei
gadw’n gyfrinachol ac ni fydd modd adnabod unigolion yng
nghanfyddiadau’r arolwg.
Os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi
([email protected]) neu dîm deddfwriaeth rhoi
organau Llywodraeth Cymru
([email protected]).
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws
yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw
ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn
awtomatig am resymau cyfreithiol
18
Y SULGWYN
‘
Hwy a lefarasant air Duw yn hyderus’
Un o wyliau pwysicaf yr Eglwys yw’r Sulgwyn Ar y Sulgwyn cyntaf
disgynnodd yr Ysbryd Glân ar ddilynwyr yr Iesu yn yr oruwch
ystafell yn Jerwsalem. A dyna ddydd geni’r Eglwys. Beth oedd y
canlyniad?
1 . Gwnaeth yr Ysbryd Glân yr Eglwys yn allu buddugoliaethus.
Drwy’r nerth newydd a gafodd dilynwyr Crist, ychwanegwyd atynt y
dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau. Ac aeth Eglwys Crist
rhagddi’n fuddugoliaethus drwy’r oesau.
2. Gwnaeth yr Ysbryd Glân yr Eglwys yn llawen. Hwy a gymerasant
eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon. Yn wyneb pob caledi
ac erlidigaeth daliodd yr Eglwys yn llawen. Cawn hanes Paul a Silas
yn canu mewn carchar. Oni ddywedodd yr Iesu ei hun : ‘A’ch
19
llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch’
3. Gwnaeth yr Ysbryd Glân yr Eglwys yn bur. Priod waith yr Ysbryd
yw sancteiddio, ac ystyr y gair yw gwneud yn lân neu yn bur. Trwy
gymorth hwn felly y gallwn fyw bywyd glân a phur.
Sut mae derbyn nerth yr Ysbryd Glân? Yn yr un ffordd ag y
derbyniodd y disgyblion Ef ar Ddydd y Pentecost, sef (a) drwy
ddisgwyl amdano, (b) bod yn barod i’w dderbyn pan ddaw, (c) ei
ddefnyddio yn ngwasanaeth Crist a’i Deyrnas pan ddaw.
Pan ddaw yr Ysbryd Sanctaidd, fe ddaw fel nerthol wynt
Yn rhwygo drwy’r fforestydd ac yn rhuo ar ei hynt,
Ac os byddi yn y Corwynt, pan fo’r coed fel tonnau’r môr
Cura d’enaid megis pennwn o flaen anadliadau’r Iôr.
Cynan
Braf yw gweld yr haul yn tywynnu a chael edrych ymlaen i deimlo ei
wres cyn bo hir. Gobeithio fod y rhai o’n plith sydd heb fod yn
teimlo’n rhy dda yn ddiweddar yn gwella ac edrychwn ymlaen at ei
gweld yn yr oedfa yn fuan.
Da deall bod Joyce Knight yn gwella ar ol bod yn Ysbyty Bronglais
yn ddiweddar. Estynnwn iddi hi a’r teulu ein cydymdeimlad dwysaf
yn y brofedigaeth o golli ei brawd-yng-nghyfraith oedd yn byw yng
Nghaersws.. Mae Gareth Harri hefyd yn reit gyfforddus yn Hafan y
Waun. Mae’n chwith heb ei gwmni yn set gefn y capel bach.
Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau hefyd at Ieuan a
20
Catherine Jones, Y Gelli, ac at unrhyw arall o’n plith sydd heb fod yn
rhy dda yn ddiweddar. Gadewch i ni gyd godi ein calon a rhoi diolch
i Dduw am ei ofal drosom o ddydd i ddydd.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol 2014 yn prysur gyrraedd, pryd y
cawn – saith niwrnod rhyfeddol o godi arian, gweddio a gweithredu
ar ran pobl dlotaf y byd.
Nodyn Pwysig: Nos Iau, 15 Mai rhwng 6 30 a 8 00 o’r gloch yn
Neuadd Eglwys Santes Anne cynhelir Noson Goffi a Stondin Moes
a Phryn, yr elw tuag at waith Cymorth Cristnogol.
Rho imi nerth i wneud fy rhan
I gario baich fy mrawd;
I weini’n dirion ar y gwan.
A chynorthwyo’r tlawd
21
Y Parchg Dr Elwyn Richards yn siarad gyda'r plant yng
ngwasanaeth bore Sul y Blodau
Joio @ Morlan
22
DYDDIADUR MAI 2014
Capel y Morfa ac Ebeneser
GWASANAETHAU'R SUL
10.00 a 6.00 yn y Morfa; 2.15pm yn Ebeneser
4
11
18
25
Bugail (Cymun yn yr hwyr)
Sul y Gymanfa Ganu ym Methel
Bugail
Cynwil Williams
Ysgolion Sul
Plant: bore am 10.00
Cyfarfodydd wythnosol
Cylch gweddi a choffi: bore Mawrth am 10.30 am.
Nos Iau am 7.00 p.m.
Cinio Bara Chaws
12 Mai : Seion, Stryd y Popty
Golygyddion y rhifyn hwn yw Hywel Lloyd a Laurie Wright.
Cyfraniadau ar gyfer rhifyn Mehefin o Perthyn,
os gwelwch yn dda i Laurie ([email protected])
erbyn dydd Gwener, 16 o Fai.
23
SWYDDOGAETHAU MAI 2014
Blaenor y Mis David Alun Jones
Porthorion Eleri Davies, Dafydd Morgan Evans,
Brian Thomas, Mary Thomas.
Ebeneser Joyce Knight
Blodau'r Cysegr – Y Morfa
4 Hefin Jones
11 Sul y Gymanfa – Bethel
18 Mair Griffiths
25 Elfed ac Elsbeth Jones
Blodau Ebeneser
4 Marian Weston
11 Jeanie Jones
18 Ann Skitt
26 Betty Bailey
Cynorthwywyr Llestri Cymun
4 Dilys Lloyd, Menna Evans, Ann Jones, Mary Turner
Cynorthwywyr Ariannol
4 Brian Thomas a Dafydd Morgan Evans
11 Menna Evans a Hefin Jones
18 Megan Hughes a Catrin Griffiths
25 D. Meirion Jones a Beti Roberts
Tregerddan
25 Dan ofal David Alun Jones a D. Brian Thomas
24

Similar documents

Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau

Plant yr Ysgol Sul yn cyfrannu at ddathliadau cyfle i fod yn rhan o’r gwaith arbennig mae Cymorth Cristnogol wedi ei gyflawni yn mynd i’r afael â thlodi, a’r cyfle i barhau a chryfhau’r gwaith hwnnw, a sicrhau bod Cymru yn gwneud cyfraniad no...

More information

Y Tincer 351a Medi 2012

Y Tincer 351a Medi 2012 (Tŷ Cerrig, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8ET): 5ed Hydref Os oes unrhyw un â diddordeb cystadlu fel unigolyn neu mewn sgets / dialog rhowch wybod i ysgrifennydd y Tincer (Anwen Pierce) cyn ...

More information

Clonc 276

Clonc 276 Mae Betws yn enw ar adeilad eglwysig hefyd. Mae’n air benthyg – wedi’i fenthyca o’r Saesneg ‘Bead-house’. Erbyn hyn mae ‘bead’ gan amlaf yn dynodi gleiniau, gleiniau sy’n gymorth i weddïo, ond yn w...

More information

Londis Bethesda

Londis Bethesda wahanol. Er mai Gwlad o Gofebau yw teitl y gyfrol arfaethedig ar hyn o bryd, nid y cofebau eu hunain sy’n bwysig, ond y rhai a enwir arnynt. Pwy oedd y miloedd hyn o fechgyn a enwir ar y cofebau? A...

More information