Bwyta`n iach - British Heart Foundation
Transcription
Bwyta`n iach - British Heart Foundation
Bwyta’n iach Gwneud bwyd yn hwyl ac yn lles i’r galon Y British Heart Foundation a bwyta’n iach Mae sawl rheswm da pam y dylech chi a’ch teulu fwyta’n iach. Mae deiet da, a digon o weithgarwch corfforol, yn help mawr i chi gadw’n iach ac i sicrhau bod plant yn tyfu’n iawn. Gall eich helpu i gadw’ch pwysau o fewn terfynau iachus a chadw lefelau colesterol a phwysedd y gwaed rhag codi’n rhy uchel. Yn y tymor hir, gall hyn leihau’r risg o gael clefyd coronaidd y galon, strôc, rhai mathau o ganser a diabetes. Bwyta’n iach Ym marn y British Heart Foundation (BHF), yn ogystal â bod yn ‘lles i chi’, dylai bwyta’n iach fod yn brofiad i’w fwynhau. Os ydych yn ei fwynhau, rydych yn fwy tebygol o barhau i fwyta’n iach. Os cewch ddigon o amrywiaeth o fwyd, wnewch chi ddim diflasu, gan y byddwch yn gallu mwynhau bwyd â llawer o wahanol flasau ac ansoddau ac efallai y cewch brofi bwydydd newydd hefyd. Mae bwyta’n iach yn syniad da i bawb o bob oed. Gorau oll os gall plant ddechrau bwyta’n iach o’r cychwyn, ond dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau. Mae ceisio cael y teulu cyfan i fwyta’n iach yn dipyn o her ond, wrth ei wneud gyda’ch gilydd, gallwch gefnogi’r naill a’r llall wrth wneud newidiadau parhaol. Mae’r BHF yn awyddus i’ch helpu i ddewis y mathau gorau o fwydydd i chi a’ch teulu ac i gyfuno’r rhain mewn deiet cytbwys. Bydd y llyfryn hwn yn rhoi’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen, gyda syniadau ymarferol ar gyfer rhoi’r wybodaeth ar waith. Mae Bwyta’n iach yn addas i bawb sy’n dymuno gofalu am eu hiechyd, bwyta’n iachach a bod yn llai tebygol o gael clefyd y galon. Felly – p’un bynnag a ydych yn bwyta gartref neu’n mynd allan am bryd, yn cael diwrnod diog neu’n brysur ac yn fywiog – rydyn ni yma i’ch helpu i ddewis bwydydd iachach... ac i fwynhau gwneud hynny! Nid yw’r canllaw hwn yn cymryd lle cyngor a gewch gan weithwyr iechyd proffesiynol ar sail yr hyn y maen nhw’n ei wybod am eich cyflwr. Cynnwys Beth yw clefyd y galon? 2 Beth yw bwyta’n iach? 5 Bwydo’r teulu 29 Sut mae gwybod pa newidiadau y dylwn i eu gwneud? 35 Anelu tua’r nod! 39 Mynd i siopa 45 Rheoli pwysau – dros bwysau a than bwysau 53 Sut olwg sydd ar ddeiet iachus? 57 Cynllunio prydau 63 Mae newidiadau bach yn help! 73 Mynd am bryd 79 Dal ati 82 Coginio creadigol 84 Sut y gall y British Heart Foundation eich helpu chi 100 Mynegai 105 Cynnwys 1 Beth yw clefyd y galon? Clefyd coronaidd y galon yw’r math mwyaf cyffredin o glefyd y galon ymhlith oedolion. Mae’n digwydd pan fydd rhydwelïau’r galon – y rhydwelïau sy’n dod â gwaed llawn ocsigen i’r galon – yn blocio neu’n culhau gan fod deunydd brasterog o’r enw atheroma yn crynhoi ynddynt. Mae angina yn boen neu’n deimlad anghyfforddus yn y frest a all ddigwydd pan nad yw’r galon yn cael digon o waed ac ocsigen gan fod rhydwelïau’r galon wedi mynd yn gul. Gall gweithgarwch corfforol neu straen emosiynol achosi pwl o angina, neu gall ddigwydd weithiau pan fyddwch yn gorffwys. Os bydd darn o atheroma’n torri’n rhydd, gall wneud i glot gwaed ffurfio. Gall y clot flocio rhydweli’r galon. Bydd hyn yn golygu nad yw’r gwaed sy’n cario’r ocsigen yn cyrraedd rhyw ran o’r galon a gallai hyn wneud niwed parhaol. Dyma beth yw trawiad ar y galon. Beth sy’n gwneud clefyd y galon yn fwy tebygol? Rydych yn fwy tebygol o gael clefyd coronaidd y galon os oes gennych rai ffactorau risg. (Mae ffactor risg yn rhywbeth sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y cewch ryw glefyd). Prif ffactorau risg clefyd coronaidd y galon yw: ● ● ● ● ● ● ● smygu pwysedd gwaed uchel lefel uchel o golesterol yn y gwaed dim digon o weithgarwch corfforol bod dros eich pwysau diabetes, a hanes o glefyd coronaidd y galon yn y teulu. Gall lefel uchel o golesterol yn y gwaed gynyddu’r risg y cewch glefyd coronaidd y galon. Y peth mwyaf cyffredin sy’n codi lefel y colesterol yn y gwaed yw gormod o fraster yn y deiet, yn enwedig braster dirlawn (saturated fat). Weithiau, mae pobl yn etifeddu cyflwr sy’n golygu bod ganddynt lawer o golesterol yn y gwaed. Mae proteinau’n cario colesterol o gwmpas y corff. Yr enw ar y cyfuniadau hyn o golesterol a phroteinau yw lipoproteinau. Mae dau brif fath: LDL (lipoproteinau dwysedd isel) yw’r math niweidiol o golesterol. Weithiau, caiff hwn ei alw’n golesterol LDL. Mae HDL (lipoproteinau dwysedd uchel) yn fath o golesterol sy’n gwarchod. Weithiau, caiff hwn ei alw’n golesterol HDL. Gall pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd gwaed) eich gwneud yn fwy tebygol o gael clefyd coronaidd y galon, a strôc. Gall y pethau hyn i gyd eich gwneud yn fwy tebygol o gael pwysedd gwaed uchel: bod dros eich pwysau, bwyta gormod o halen, yfed gormod o alcohol, a dim digon o weithgarwch corfforol. Beth yw clefyd y galon? 3 Bara, reis, tatws, pasta Ffrwythau a llysiau a bwydydd eraill â starts Cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein nad ydynt yn gynnyrch llaeth Llaeth a bwydydd cynnyrch llaeth Bwydydd a diodydd â llawer o fraster a/neu siwgr Mae’r Plât Bwyta’n Iach* yn dangos faint o’ch bwyd ddylai ddod o’r gwahanol grwpiau bwyd. Mae hyn yn cynnwys popeth rydych chi’n ei fwyta yn ystod y dydd, yn cynnwys byrbrydau. Felly, ceisiwch fwyta: digon o ffrwythau a llysiau digon o fara, reis, tatws, pasta a bwydydd eraill â startsh – dewiswch fathau grawn cyflawn os oes modd tipyn o laeth a chynnyrch llaeth tipyn o gig, pysgod, wyau, ffa a a bwydydd protein eraill nad ydynt yn gynnyrch llaeth dim ond ychydig o fwydydd a diodydd sy’n cynnwys llawer o fraster a/neu siwgr Edrychwch ar y Plât Bwyta’n Iach i weld faint o’ch bwyd ddylai ddod o’r gwahanol grwpiau bwyd. Does dim rhaid i chi gael y cydbwysedd cywir ym mhob pryd, ond ceisiwch gael cydbwysedd da dros gyfnod fel diwrnod neu wythnos gyfan. Ceisiwch ddewis bwydydd â dim ond ychydig o fraster, halen a siwgr os gallwch. Beth yw bwyta’n iach? Nid oes un math neilltuol o fwyd y dylech ei fwyta na bwydlen benodol y mae’n rhaid i chi ei dilyn i fwyta’n iach. Gall pob math o fwydydd gael eu cynnwys mewn deiet iachus a chytbwys. Cael y cydbwysedd iawn sy’n bwysig. Y ffordd orau i ddeall hyn yw meddwl am fwydydd mewn grwpiau. Mae arnom angen llawer o fwydydd o rai grwpiau bwyd a llai o fwydydd o grwpiau eraill. Mae’r plât bwyta’n iach uchod yn dangos sut i gydbwyso bwydydd o’r gwahanol grwpiau i gael deiet cytbwys ac iachus. *Cawn ddangos y Plât bwyta’n iach diolch i’r Asiantaeth Safonau Bwyd. © Caiff deunydd sydd o dan hawlfraint y Goron ei atgynhyrchu gyda chaniatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi ac Argraffydd y Frenhines yn yr Alban. Beth yw bwyta’n iach? 5 Beth bynnag y mae pobl yn ei feddwl, does dim rhaid gwrthod unrhyw fath o fwyd yn llwyr er mwyn bwyta’n iach. Mae’n iawn bwyta pob math o wahanol fwydydd, dim ond i chi fwyta’r gyfran iawn ohonynt. Mae llawer o bobl yn dweud y cewch chi fwyta popeth yn gymedrol er mwyn bwyta’n iach ond dydi hynny ddim yn hollol wir. Mae angen i ni fwyta mwy o rai pethau a llai o bethau eraill. Felly, faint ddylen ni fwyta o’r gwahanol grwpiau bwyd bob dydd a pham? Beth yw bwyta’n iach? 7 Ffrwythau a llysiau Mae’n bwysig bwyta ffrwythau a llysiau achos mae gwaith ymchwil wedi dangos bod bwyta deiet sy’n cynnwys amrywiaeth dda o ffrwythau a llysiau yn lles i’r galon ac y gall helpu i leihau’r risg o ddatblygu clefyd coronaidd y galon. Mae’r bwydydd hyn yn rhoi fitaminau a mwynau i ni ac maent yn cynnwys llawer o ddŵr, sy’n golygu nad oes ynddynt lawer iawn o egni (calorïau). Gan eu bod yn cynnwys ffibr, maent yn ein llenwi ac yn helpu i gadw’n system dreulio yn iach. Ffrwythau a llysiau ddylai gyfrif am tua un rhan o dair o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta. Dylech geisio cael o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Hefyd, ceisiwch fwyta sawl gwahanol fath o ffrwythau a llysiau fel y gallwch elwa o’r gwahanol faetholion sydd ynddynt. Mae pum ffordd o gael pump y dydd – gallant fod yn ffres, wedi rhewi, mewn tun (mewn sudd neu ddŵr), wedi sychu neu ar ffurf sudd. Mae sudd yn cyfrif fel un ddogn y dydd. Gallwch gynnwys codlysiau (pulses) fel cidnabêns, gwygbys (chickpeas) a ffa gwynion (haricot beans) yn eich pump y dydd, ond fel dim ond un ddogn y dydd, faint bynnag a fwytwch. Beth yw bwyta’n iach? 9 Faint yw dogn? Mae dogn oedolyn yn 80g (tua 3 owns) o ffrwythau neu lysiau ffres, wedi rhewi neu mewn tun (neu swm cyfatebol o ffrwythau sych), neu 150ml (tua 30g, 1 owns) os ydych yn cael sudd. Mae rhai enghreifftiau o un ddogn i’w gweld yn y blwch isod. Neu, un ffordd dda o fesur yw meddwl am ddogn fel tua llond llaw. Dylai plant gael pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd hefyd, ond dylid addasu maint y ddogn ar gyfer y plentyn. Mae’r canllaw ‘llond llaw’ yn gweithio’n dda i blant hefyd. Defnyddiwch lond llaw eich plentyn i fesur maint dogn iddyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd maint y ddogn yn tyfu wrth iddyn nhw dyfu. Mae’n beth da i blant ddechrau arfer cael ffrwythau a llysiau bum gwaith y dydd pan fyddant yn fach. Faint yw dogn? Ffrwyth ffres Ffrwythau bach: 2 neu fwy – er enghraifft, dwy eirinen, dau satswma, dwy neu dair bricyllen (apricot), 7-8 mefusen neu 14 ceiriosen Ffrwyth canolig: 1 ffrwyth canolig – er enghraifft, 1 afal, banana, gellygen, oren neu nectarin Ffrwyth mawr – er enghraifft, hanner grawnffrwyth, 1 tafell o papaya, 1 tafell o felon (tafell dwy fodfedd), 1 tafell fawr o binafal, neu dwy dafell o fango (tafelli dwy fodfedd) Ffrwythau sych 1 llond llwy fwrdd o resins, cyrens, syltanas neu ffrwythau cymysg Dwy ffigysen sych Tair prŵn sych Ffrwythau neu lysiau tun neu wedi’u rhewi Tua’r un faint o ffrwythau neu lysiau ag y byddech yn eu bwyta fel dogn ffres – er enghraifft: Dwy hanner gellygen neu eirinen wlanog 8 darn o grawnffrwyth o dun Tair llond llwy fwrdd orlawn o foron, pys neu gorn melys Sudd Mae sudd yn cyfrif fel dim ond 1 dogn y dydd Gwydraid (150ml) o sudd 100% (sudd ffrwythau neu lysiau pur, heb ei felysu, neu smwddi*). Llysiau gwyrdd Dwy ffon brocoli 4 llond llwy fwrdd orlawn o fresych, dail gwyrdd y gwanwyn neu ffa gwyrdd Llysiau wedi’u coginio 3 llond llwy fwrdd orlawn o lysiau wedi’u coginio – er enghraifft, moron, pys neu gorn melys 3-8 blodigyn blodfresych Llysiau salad Darn dwy fodfedd o giwcymber 1 tomato canolig 7 tomato bach Codlysiau (pulses) a ffa Mae’r rhain yn cyfrif fel dim ond 1 dogn y dydd 3 llond llwy fwrdd orlawn o ffa pob, ffa gwynion (haricot), cidnabêns, ffa cannellini, ffa menyn neu wygbys (chickpeas) *Gellir cyfrif smwddis fel dwy ddogn y dydd ar yr amod bod dogn yn cynnwys 80g o ffrwythau cyfan a 150ml sudd. Beth yw bwyta’n iach? 11 Bara, reis, tatws, pasta a bwydydd eraill â startsh Dyma’r bwydydd y dylech seilio’ch prydau arnyn nhw. Yn ogystal â bara, reis, tatws a phasta, mae’r grŵp hwn o fwydydd yn cynnwys chapatis, naan, tatws melys, plantain a chwscws. Dewiswch fathau grawn cyflawn neu ffibr-uchel o’r bwydydd startshlyd hyn os gallwch. Mae bwydydd startshlyd yn eich llenwi’n dda, yn enwedig y rhai ffibr-uchel neu rawn cyflawn. Mae’r ffibr yn cadw’ch system dreulio’n iach. Mae’r bwydydd hyn yn rhoi ynni sy’n cael ei ryddhau’n araf. Felly, byddant yn eich cadw i fynd tan y pryd nesaf a byddwch yn llai tebygol o fwyta rhwng prydau. Yn aml, mae bwydydd yn y grŵp hwn yn cael enw drwg am eich gwneud yn dew ond yr unig bryd y mae hynny’n wir yw os ychwanegwch lawer o fraster atynt wrth eu coginio neu eu paratoi. Mae’n well pobi, berwi neu stêmio bwydydd startshlyd na’u ffrïo. Ceisiwch beidio ag ychwanegu braster ar ôl eu coginio – er enghraifft, peidiwch â rhoi menyn ar datws stwnsh neu chapatis, na sawsiau hufennog ar basta neu reis. Dylai tua un rhan o dair o’ch bwyd ddod o’r grŵp bwydydd hwn a dylech gynnwys rhai ohonynt gyda phob pryd. Mae’r union swm y dylech ei fwyta’n amrywio o berson i berson. Os ydych yn gwneud llawer o weithgarwch corfforol, bydd angen mwy ohonynt arnoch. “Mae’r plant yn gwrthod bwyta bara gwenith cyflawn.” Gall fod yn anodd, ond daliwch ati. Ceisiwch roi bwydydd grawn cyflawn iddynt mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn iddynt arfer â’r blas a’r teimlad. Mae grawnfwydydd, bara pita, parseli neu roliau grawn cyflawn yn ddewisiadau da. Rhowch gynnig ar frechdanau ‘hanner hanner’ gydag un dafell o fara gwyn ac un grawn cyflawn. Llaeth a chynnyrch llaeth Mae’r bwydydd hyn yn bwysig i gael protein a chalsiwm, a fitaminau A a B12. Ond mae rhai bwydydd yn y grŵp hwn yn gallu cynnwys llawer o fraster ac mae llawer o’r braster hwnnw’n fraster dirlawn (saturated fat). Os dewiswch fathau braster-isel – fel llaeth hanner sgim, llaeth 1% neu laeth sgim, a iogwrt braster-isel – fe gewch chi fanteision y protein, y calsiwm a’r maetholion eraill, ond gyda llai o fraster dirlawn neu bron ddim. Yn fras, dylai dwy neu dair dogn o laeth a chynnyrch llaeth y dydd roi digon o galsiwm i oedolyn arferol. Mae hyn yn cynnwys llaeth mewn diodydd poeth ac ar rawnfwyd, a llaeth i’w yfed, yn ogystal â iogwrt a chaws. Os nad ydych yn yfed llaeth nac yn bwyta cynnyrch llaeth, efallai y byddai’n werth defnyddio llaeth soya, llaeth reis neu laeth ceirch gyda chalsiwm ychwanegol. Ceisiwch ddewis rhai heb eu melysu. Beth yw bwyta’n iach? 13 Cig, pysgod, wyau, ffa a bwydydd protein eraill nad ydynt yn gynnyrch llaeth Mae’n bwysig cynnwys cig, pysgod, wyau a phethau cyfatebol di-gig yn eich deiet gan fod y rhain yn rhoi protein, fitaminau a mwynau sy’n cynnwys haearn i chi. Dylech gynnwys y bwydydd hyn ddwy neu dair gwaith y diwrnod. Gallwch gynnwys cig coch a chig gwyn mewn deiet cytbwys, ond dewiswch rai heb lawer o fraster a’u coginio heb ychwanegu braster os gallwch. Os ydych yn defnyddio mins, dewiswch un gydag ychydig iawn o fraster. Mae’n bwysig bwyta pysgod, yn enwedig pysgod olewog. Mae pysgod olewog yn cynnws eog, sardîns, brithyll a phenwaig Mair (pilchards). Ceisiwch gael un ddogn o bysgod olewog bob wythnos. Bydd angen mwy o bysgod olewog na hyn ar bobl sydd wedi cael trawiad ar y galon. Os ydych wedi cael trawiad ar y galon, cymerwch ddwy neu dair dogn o bysgod olewog yr wythnos. Os nad yw’ch teulu’n hoff iawn o bysgod, ceisiwch wneud cacennau pysgod neu bastai pysgod er mwyn iddynt ddod i arfer â’r blas a’r teimlad. Neu rhowch gynnig ar rysáit yr eog pob ar dudalen 97. Ceisiwch ddewis pysgod sydd wedi’u dal a’u ffermio mewn ffordd gynaliadwy. Gallwch wneud hyn trwy ddarllen y wybodaeth ar y pecyn neu ar wefan yr archfarchnad. Mae cigoedd wedi’u prosesu fel cnapiau (nuggets) cyw iâr, byrgers, peis, selsig, bysedd pysgod, a ham yn ddewisiadau poblogaidd. Mae’n iawn eu cynnwys mewn deiet amrywiol o bryd i’w gilydd ond gallant gynnwys llawer o fraster neu halen. Defnyddiwch y labeli goleuadau traffig ar y pecyn neu ddarllen y labeli gwybodaeth yn ofalus i gael gwybod faint o fraster a halen sydd ynddynt. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen 47 am yr hyn y dylech chwilio amdano ar labeli. Os ydych chi neu’ch teulu’n llysieuwyr, neu os byddwch yn cynnwys prydau llysieuol fel rhan o ddeiet cytbwys, mae’n bwysig cynnwys bwydydd o’r grŵp bwyd hwn – fel ffa a chodlysiau (pulses) – a pheidio â dibynnu gormod ar gynnyrch llaeth i gael protein. Bydd hyn yn eich helpu i gael digon o haearn a phrotein yn eich deiet ac i gael llai o fraster dirlawn. Gofalwch ddewis amrywiaeth o fwydydd fel ffa, corbys (lentils), tofu, microprotein fel Quorn, ac wyau a chnau. Faint o wyau gewch chi eu bwyta mewn wythnos? Does dim uchafswm ar faint o wyau y dylai pobl eu bwyta. Gallwch gynnwys wyau mewn deiet cytbwys, iachus, ond cofiwch ei bod yn syniad da bwyta deiet mor amrywiol ag y gallwch ac i goginio wyau mewn ffyrdd iachus. Ceisiwch eu berwi neu eu potsio yn hytrach na’u ffrïo a pheidio â rhoi menyn ar wyau wedi’u sgramblo. Ceisiwch fwyta amrywiaeth o fwydydd bob wythnos er mwyn cael yr holl faetholion y mae arnoch eu hangen. Beth yw bwyta’n iach? 15 Bwydydd a diodydd sy’n cynnwys llawer o fraster a/neu siwgr Yr adran leiaf ar y Plât Bwyta’n Iach ar dudalen 4 – ond un sy’n haeddu sylw mawr – yw bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a/neu siwgr. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys pethau fel cacennau, creision, melysion, siocled a diodydd pefriog, siwgrllyd. Yn aml, mae angen i ni fwyta llai o’r rhain neu newid y ffordd rydym yn eu bwyta, er mwyn bwyta’n iachach. Er eu bod yn flasus ac y gallwn eu cynnwys mewn deiet cytbwys, nid ydynt yn fwydydd hanfodol y dylem eu bwyta bob dydd. Ceisiwch fwyta ychydig yn unig o’r rhain. Gallwch ddefnyddio labeli bwyd i’ch helpu i ddewis fersiynau iachach o’r bwydydd hyn neu fwydydd tebyg iachach (gweler tudalen 47). Cofiwch, os cewch dipyn o’r bwydydd hyn ar rai diwrnodau o’r wythnos neu ar achlysuron arbennig, ceisiwch eu hosgoi’n llwyr ar ddyddiau eraill. Yn ogystal â bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgr, mae’r grŵp hwn yn cynnwys y braster a’r siwgr yr ydym yn eu hychwanegu at fwydydd. Mae hyn yn golygu’r olew a’r braster a ddefnyddiwn wrth goginio, y menyn a’r sbreds a daenwn ar fwyd neu eu defnyddio i goginio, ynghyd â’r siwgr, syrop, triog neu fêl a rown mewn bwydydd a diodydd. Ceisiwch fwyta llai o fraster trwy daenu menyn neu sbred yn denau ar fara neu dost a thrwy fesur olew â llwy neu ddefnyddio chwistrell olew. “Yn aml, mae cynnig arbennig ar y bisgedi rwy’n eu hoffi ac felly mae’n rhatach prynu tri phecyn gyda’i gilydd nag un ar y tro.” Mae hyn yn aml yn wir ond, os nad oes angen tri phecyn arnoch chi, gall olygu eich bod yn bwyta mwy na’r bwriad. Beth am eu rhannu gyda ffrind er mwyn manteisio ar y cynnig arbennig ond heb fwyta tair gwaith gymaint o fisgedi. Neu chwiliwch am fisgedi eraill sy’n cynnwys llai o fraster a siwgr. Beth yw bwyta’n iach? 17 Esbonio braster Yn ogystal â cheisio bwyta llai o fraster, mae dewis y math iawn o fraster yn bwysig er lles y galon. Mae esboniad o’r gwahanol fathau o fraster isod. Dylech fwyta cyn lleied ag y gallwch o fraster dirlawn, trwy osgoi pethau fel menyn, lard, ghee a dripin. Yn hytrach, dewiswch fraster annirlawn (unsaturated) fel olew a sbreds olewydd, hadau rêp, blodau haul, corn neu soia. Mae llawer o galorïau ym mhob math o fraster ac olew, felly dim ond ychydig ohonynt y dylech eu defnyddio. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig gwybod am y gwahanol fathau o fraster ac ym mha fwydydd y maent i’w cael. Brasterau dirlawn – Dylech osgoi’r rhain os gallwch. Mae llawer o fraster dirlawn (saturated fat) mewn pethau fel menyn, lard, ghee, olew palmwydd, olew cnau coco a dripin. Gall braster dirlawn godi lefel cyfanswm y colesterol a’r colesterol LDL niweidiol. (Mae colesterol LDL yn golygu bod haen o fraster yn fwy tebygol o grynhoi yn eich rhydwelïau.) Brasterau mono-annirlawn – Cewch dipyn bach o’r rhain. Fel rheol, byddwn yn cael y rhain mewn olew neu sbred olewydd a hadau rêp, yn ogystal â chig a rhai hadau a chnau. Gall brasterau mono-annirlawn (mono-unsaturated) helpu i ostwng lefel y colesterol LDL. Brasterau aml-annirlawn – Cewch dipyn bach o’r rhain. Ceir brasterau aml-annirlawn (polyunsaturated), er enghraifft, mewn olew a sbreds soia, blodau haul ac olew corn, ac mewn hadau a chnau a physgod olewog. Maent yn rhan bwysig o’r deiet gan eu bod yn rhoi asidau brasterog hanfodol i ni. Mae brasterau Omega-3 a geir mewn pysgod olewog yn fath arbennig o fraster aml-annirlawn a all helpu i warchod y galon. Ceisiwch gael o leiaf un ddogn o bysgod olewog bob wythnos. Neu, os ydych wedi cael trawiad ar y galon, bwytwch ddwy neu dair dogn yr wythnos. Traws-frasterau – Ceisiwch osgoi’r rhain os gallwch. Ceir ychydig o draws-frasterau (trans-fats) yn naturiol mewn cynnyrch llaeth a chig, ond caiff traws-frasterau eu cynhyrchu’n unigol pan gaiff olew ei brosesu a’i droi’n fraster soled trwy’r broses hydrogeneiddio. Mae effaith y traws-frasterau ar y corff yn wahanol i effaith yr olew gwreiddiol hylifol, ac yn debyg i effaith braster dirlawn. Mae’r brasterau hyn yn fwyaf tebygol o fod mewn bwydydd fel bisgedi, cacennau, tartenni a bwydydd wedi’u ffrïo’n ddwfn. Ond y newyddion da yw bod llawer o wneuthurwyr bwydydd yn tynnu’r traws-frasterau o’r brasterau a’r olew y maent yn eu defnyddio. Beth am fwydydd sydd â stanolau a sterolau planhigion wedi’u hychwanegu? Mae ‘stanolau’ a ‘sterolau’ planhigion yn sylweddau sy’n cael eu hychwanegu at rai bwydydd, yn cynnwys sbreds, cawsiau meddal ac iogwrt. Nid ydynt yn cael eu hargymell bob amser ond mae tystiolaeth y gall bwyta 2g o sterolau a stanolau planhigion y dydd yn gyson helpu i ostwng lefel colesterol. Mae astudiaethau ymchwil wedi awgrymu y gall bwyta cymaint â hyn yn rheolaidd arwain at ostyngiad o 10% - 15% yn lefelau colesterol LDL. Ond mae’r effaith yn amrywio o berson i berson. (Colesterol LDL yw’r math niweidiol o golesterol. Gweler tudalen 3.) Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio nad yw’n ddigon da cymryd stanolau a sterolau planhigion yn lle deiet iachus nac yn lle cyffuriau sy’n gostwng lefel colesterol. Os penderfynwch ddefnyddio’r rhain, dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar faint o’r bwyd mae arnoch ei angen mewn diwrnod er mwyn cael 2g o’r stanol neu sterol planhigion. Nid yw stanolau a sterolau planhigion yn cael eu hargymell ar gyfer plant dan 5 oed nac ar gyfer merched sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron. Beth yw bwyta’n iach? 19 Rhoi blas ar fwyd - Halen Gall bwyta gormod o halen helpu i achosi pwysedd gwaed uchel ond gall fod yn anodd torri’r arferiad gan ein bod yn dod yn gyfarwydd â bwyd eithaf hallt. Argymhellir na ddylai oedolion gael mwy na 6 gram y dydd – tua llond llwy de – ond, ar gyfartaledd, mae oedolion ym Mhrydain yn cael mwy na hynny ar hyn o bryd. Mae’n bwysig hefyd bod plant yn cael llai o halen rhag iddynt ddechrau cyfarwyddo â llawer o halen yn eu deiet. Os na fyddant yn arfer cael bwydydd hallt pan fyddant yn ifanc, mae’n debygol na fyddant yn dewis bwyta bwyd â llawer o halen pan fyddant yn hŷn. Ond nid yr halen yr ydym yn ei roi ar ein bwyd yw’r unig halen yn ein deiet. Efallai y synnwch o glywed bod y rhan fwyaf o’r halen a gawn yn dod o fwydydd wedi’u prosesu. Nid dim ond mewn prydau parod a phrydau sydyn y mae llawer o halen, ond mewn bwydydd bob dydd fel bara a grawnfwydydd brecwast. Er bod lefelau halen mewn bwydydd ym Mhrydain yn gostwng, rydym yn dal i fwyta gormod o halen. Felly cofiwch ddarllen labeli bwydydd i weld faint o halen sydd yn y bwyd rydych chi’n ei brynu a dewiswch fwydydd sydd â llai o halen. (Gweler Labeli halen ar y dudalen isod.) Y sodiwm mewn halen sy’n cyfrannu at godi pwysedd gwaed, ac felly mae labeli rhai bwydydd yn rhoi ffigurau ar gyfer sodiwm yn hytrach na halen. I droi ffigurau sodiwm yn ffigurau halen, mae angen lluosi â 2.5. Er enghraifft, 0.5g sodiwm = 1.25g halen. Uchafswm yr halen a argymhellir mewn diwrnod – ar gyfer oedolion a phlant Halen Sodiwm Oedolion Dynion a merched 6g 2.5g 11 oed + 6g 2.5g 7-10 oed 5g 2.0g 4-6 oed 3g 1.2g 1-3 oed 2g 0.8g Plant Labeli halen – ychydig neu lawer o halen I weld a oes ychydig, swm canolig neu lawer o halen mewn bwyd, chwiliwch am y ffigwr ‘per 100g’ ar gyfer halen neu sodiwm ar y panel Nutrition information ar becyn y bwyd a’i gymharu â’r ffigurau isod. Ychydig Dewis iachach Swm Canolig Iawn y rhan fwyaf o’r amser Llawer Iawn ambell waith Halen 0.3g neu lai i bob 100g 0.31g i 1.5g i bob 100g Mwy nag 1.5g i bob 100g Sodiwm 0.1g neu lai i bob 100g 0.11g i 0.6g i bob 100g Mwy na 0.6g i bob 100g Beth yw bwyta’n iach? 21 Dod mas â’r blas Yn lle estyn am yr halen bob amser, ceisiwch feddwl am ffyrdd eraill o roi blas ar eich bwyd. Mae perlysiau ffres yn rhoi lliw a blas i’r bwyd ac mae perlysiau a sbeisys sych yn bethau handi i’w cadw yn y cwpwrdd. Cofiwch am lemon, garlleg, sinsir neu bupur du wedi’i falu. Ceisiwch beidio â defnyddio pecynnau sesnin parod gan fod nifer ohonynt yn cynnwys llawer o halen. “Does dim blas ar fwyd heb halen. Ddylwn i ddefnyddio deunydd halltu sy’n cynnwys llai o halen?” Os defnyddiwch deunydd halltu sy’n cynnwys llai o halen na halen bwrdd arferol, byddwch yn cael llai o sodiwm (er bod y pethau hyn yn cynnwys peth sodiwm). Ond gan fod blas halen arno, ni fydd yn eich helpu i addasu i fwyta bwyd llai hallt. Dechreuwch gymryd llai o halen yn raddol i roi cyfle i chi addasu. A rhowch gynnig ar ddefnyddio perlysiau, sbeisys neu sudd lemon i roi blas ar eich bwyd yn lle halen. Nid yw deunydd halltu sy’n cynnwys llai o halen yn addas i bawb, er enghraifft pobl sydd â phroblemau â’u harennau neu eu calon – holwch eich meddyg cyn dechrau eu defnyddio. Beth yw bwyta’n iach? 23 Diodydd Mae’n bwysig ystyried beth rydych yn ei yfed hefyd. Mae’n bwysig yfed digon er mwyn cadw’n iach ac felly mae angen cael diod yn rheolaidd. Ni fydd angen yr un faint o hylif arnoch bob dydd. Os byddwch yn cael mwy o weithgarwch corfforol nag arfer, neu os bydd gwres arnoch, neu os yw’n ddiwrnod poeth, bydd angen i chi yfed rhagor. Rŷn ni’n cael peth hylif o’n bwyd ond mae angen i ni yfed peth hefyd. Yn fras, mae angen tua 6 neu 8 o ddiodydd arnom bob dydd. (Tua 150ml yw un ddiod.) Diodydd oer Mae dŵr yn ddewis da, ond gallwch gynnwys diodydd di-alcohol eraill. Mae sudd ffrwythau pur, heb ei felysu, yn rhoi maeth i chi ac yn cyfrif fel un o’ch pum dogn o ffrwythau a llysiau. Os cymerwch sudd, mae’n well ei gynnwys fel rhan o bryd bwyd yn hytrach na’i yfed fel diod i dorri syched o bryd i’w gilydd yn ystod y dydd. Er ei fod yn cynnwys maeth, mae sudd yn eithaf asidaidd ac felly mae’n well i’ch dannedd i chi ei gymryd fel rhan o bryd. Ceisiwch beidio ag yfed diodydd pefriog sy’n cynnwys llawer o siwgr ac felly egni (a chalorïau). Dewiswch ddiodydd di-siwgr yn lle hynny. Mae’r diodydd hyn yn asidaidd hefyd ac felly mae’n well eu hyfed gyda bwyd yn unig, i helpu i warchod eich dannedd. Te a choffi Gallwch gynnwys tipyn bach o de a choffi yn eich dogn ddiodydd ond mae’n bwysig eich bod yn yfed diodydd eraill hefyd. Mae cyfansoddion mewn te a choffi sy’n gallu cyfuno â’r haearn yn eich bwyd gan ei gwneud yn anos i’ch corff amsugno’r haearn. Felly ceisiwch beidio ag yfed te a choffi gyda phrydau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i lysieuwyr a phlant, yn enwedig plant ifanc. Os ydych yn feichiog, mae’n bwysig peidio â chael gormod o gaffîn. Ni ddylai merched beichiog gael mwy na 200mg o gaffîn y dydd. Mae mwg o goffi sydyn yn cynnwys 100mg o gaffîn a mwg o de yn cynnwys 75mg. Beth yw bwyta’n iach? 25 Alcohol Os ydych yn yfed alcohol, mae’n bwysig cadw o fewn terfynau synhwyrol – pa un bynnag a ydych yn yfed bob dydd, unwaith neu ddwy yr wythnos neu’n achlysurol. Ddylai dynion ddim yfed mwy na thair neu bedair uned o alcohol y dydd yn rheolaidd. Ddylai merched ddim yfed mwy na dwy neu dair uned o alcohol y dydd yn rheolaidd. 1 uned o alcohol = gwydraid bach (100ml) o win (10% ABV [alcohol yn ôl cyfaint]) neu hanner peint (tua 300ml) o lager, seidr neu gwrw cryfder arferol (er enghraifft, 3.5% ABV) neu mesur tafarn (25ml) o wirodydd Gall yfed yn gymedrol (un neu ddwy uned y dydd) wneud peth lles i iechyd y galon. Ond dydi hynny ddim yn rheswm dros ddechrau yfed alcohol os nad ydych yn gwneud hynny’n barod. Mae ffyrdd mwy iachus o ddiogelu’ch calon. Mae hefyd yn bwysig cofio bod llawer o egni (calorïau) mewn alcohol a gall hynny fod yn beth i’w ystyried os ydych yn ceisio rheoli’ch pwysau. Sut i gael gwybod sawl uned o alcohol sydd mewn diod Mae’n dweud ar rai poteli a chaniau erbyn hyn sawl uned o alcohol sydd yn y ddiod. Neu, er mwyn cael gwybod sawl uned o alcohol sydd mewn diod, gallwch luosi’r cyfaint mewn mililitrau â ffigwr yr ABV (alcohol yn ôl cyfaint) a’i rannu â 1,000. Enghraifft: Can o gwrw 300ml, 5% ABV: 300 x 5 ÷ 1,000 = 1.5 uned o alcohol Sawl uned sydd mewn gwydraid o win? Mae gwydraid bach arferol o win mewn tafarn yn 175ml a gwydraid mawr yn 250ml. Felly, mae gwydraid 175ml o win 12% ABV yn cynnwys dwy uned o alcohol ac mae gwydraid 250ml yn cynnwys tair uned. Mae’r ABV yn amrywio o win i win – darllenwch y label ar y botel. Beth yw bwyta’n iach? 27 Gan fod fy rhieni’n dod o Ffrainc, roedden ni bob amser yn cael salad gyda bwyd a dw i’n hoffi llysiau gwyrdd. Mae cael plant yn eich helpu i ganolbwyntio ar fwyta’n iach hefyd. Rydyn ni’n lwcus achos, er nad yw’r plant yn hoffi popeth, dydyn nhw ddim yn hoffi braster na hufen a dydyn nhw ddim yn rhoi halen ar eu bwyd. Dydyn ni ddim yn berffaith chwaith – o bell ffordd. Pan fyddwn ni’n brysur iawn, fyddwn ni’n cael prydau parod weithiau ond, ar ôl ychydig ddyddiau, fyddwn ni’n crefu am fwyd cartref, iachus. Rhowch gynnig ar dyfu’ch llysiau eich hunan os gallwch – maen nhw’n fwy blasus ac yn rhoi boddhad mawr i chi. Bwydo’r teulu Gall pawb o’r teulu fwyta’n iach. Ond yn ogystal â meddwl am yr hyn yr ydym yn ei fwyta, mae’n bwysig meddwl sut yr ydym yn ei fwyta. Mae teuluoedd yn newid a’n bywydau’n mynd yn brysurach ac mae hyn yn sicr yn effeithio ar ein harferion bwyta. Bwydo’r teulu 29 Bwyta prydau rheolaidd Ceisiwch ofalu bod gennych chi a’ch teulu – yn enwedig blant ar eu prifiant – batrwm prydau rheolaidd. Mae cael tri phryd y dydd, a byrbrydau maethlon rhyngddynt os bydd angen, yn bwysig er mwyn gofalu eu bod nhw, a chithau, yn cael deiet amrywiol, cytbwys a maethlon. Mae hefyd yn bwysig peidio â mynd yn hir heb fwyd, er mwyn gofalu na fyddwch yn rhy llwglyd. Gall hyn eich helpu i beidio â gorfwyta pan gewch eich pryd nesaf neu bigo ar fwydydd llai iachus rhwng prydau. “Does dim amser i fwyta brecwast yn y bore.” Does dim rhaid i chi fwyta brecwast gartref! Ewch â dysgl a bocs grawnfwyd gyda chi i’w cadw yn eich desg yn y gwaith i chi gael brecwast pan gyrhaeddwch. Os nad ydych yn hoffi bwyta yn y bore, cymerwch ddarn o ffrwythau neu iogwrt i ddechrau. Neu gallech roi cynnig ar wneud smwddi brecwast banana (tudalen 86). Pan ddewch i arfer â bwyta rhywbeth yn y bore, gallwch ychwanegu ato i’w wneud yn frecwast mwy cytbwys. Os oes plant gennych, efallai bod clwb brecwast yn eu hysgol ac y byddent yn mwynhau mynd i hwnnw, yn enwedig os nad ydynt yn hoffi bwyta ben bore. Bwyta’n iach i blant dan bump Mae anghenion plant dan bump ychydig yn wahanol i blant hŷn. Mae angen llawer o egni (calorïau) arnynt o’i gymharu â’u maint a, gan bod eu stumog yn fach, dydyn nhw ddim yn gallu bwyta llawer ar y tro. Felly, mae angen i blant bach fwyta mwy o fraster i gael digon o egni, a dylent gael byrbrydau maethlon yn ychwanegol at eu prif brydau. Mae patrwm o gynnig tri phryd a thri neu bedwar byrbryd y dydd yn addas ar y cyfan ond cofiwch y bydd eisiau mwy o fwyd arnynt ar rai dyddiau na’i gilydd. Gall fod yn well rhoi platiaid bach iddynt a gadael iddynt gael mwy os dymunant, yn hytrach na rhoi platiaid mawr sy’n torri eu calonnau cyn dechrau. Bwydo’r teulu 31 Er bod arnynt angen ychydig yn fwy o fraster na phobl eraill, ddylai plant bach ddim cael llawer o gacennau, creision a bisgedi. Yn eu blynyddoedd cynnar, mae plant yn dysgu am arferion bwyta ac yn datblygu patrymau bwyta ac felly mae’n bwysig cychwyn arferion da yn ifanc. Fel plant hŷn ac oedolion, gall plant bach ddod i hoffi bwydydd fel hyn ac, er ei bod yn iawn eu cael weithiau, dylai egni plant ddod o wahanol fwydydd sy’n rhoi fitaminau a mwynau iddynt yn ogystal ag egni a phrotein, gan fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle i fwyta. Er ein bod yn argymell llaeth a chynnyrch llaeth brasterisel ar gyfer plant hŷn ac oedolion, mae’n syniad da rhoi llaeth braster llawn yn brif ddiod i blant bach nes eu bod yn ddwy oed. Ar ôl hynny, os ydynt yn tyfu’n dda, gallant ddechrau yfed llaeth hanner sgim. Ond peidiwch â dechrau rhoi llaeth sgim na llaeth 1% iddynt nes eu bod yn bump oed. Wrth i blant nesu at oed ysgol, gallwch leihau swm y braster sydd yn eu deiet nes eu bod, pan fyddant tua phump oed, yn cael deiet cymysg ac amrywiol sy’n cynnwys cynnyrch llaeth braster-isel a chig di-fraster o ddydd i ddydd. Bwydo’r teulu 33 Sut mae gwybod pa newidiadau i’w gwneud? Mae pobl yn tueddu i ddweud eu bod yn bwyta llai nag y maent mewn gwirionedd ac yn gwneud mwy o ymarfer corff. Felly gall pobl feddwl eu bod yn bwyta’r cyfuniad iawn o fwydydd ar gyfer deiet iach er nad ydynt yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Rhowch gynnig ar lenwi dyddiadur bwyd am ychydig ddyddiau – efallai y cewch chi syndod! (Tudalen 37.) Sut mae gwybod pa newidiadau y dylwn i eu gwneud? 35 Mae cadw dyddiadur bwyd yn ddefnyddiol am dri rheswm... ● ● ● Gall helpu i ddangos pa newidiadau i’ch deiet sy’n debygol o fod fwyaf buddiol i chi. Gall ddangos patrymau bwyta nad ydych wedi sylwi arnynt. Gallwch ei ddefnyddio i weld a ydych wedi llwyddo i gyrraedd eich targedau ar gyfer bwyta’n iach. (Tudalennau 40-43.) Mae cadw dyddiadur bwyd yn hawdd. Am rai dyddiau neu wythnos gyfan, ysgrifennwch bopeth yr ydych yn ei fwyta a’i yfed trwy’r dydd. Cadwch ddyddiadur bwyd fel yr un isod mewn llyfr nodiadau y gallwch ei gario gyda chi. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth ar dudalennau 9-17 i weld i ba grwpiau bwyd y mae’r bwyd rydych chi’n ei fwyta yn perthyn. Gofalwch eich bod yn cael bwydydd o’r pedwar grŵp bwyd cyntaf bob dydd a’ch bod yn cael y nifer iawn o ddognau. Cadwch lygad ar y bwydydd a’r diodydd sy’n uchel mewn braster a siwgr. (Tudalennau 16 ac 17.) Defnyddiwch y wybodaeth a gewch o’ch dyddiadur bwyd i’ch helpu i weld pa newidiadau y dylech eu gwneud. Llenwch eich dyddiadur bwyd... Grwpiau bwyd Sut mae gwybod pa newidiadau y dylwn i eu gwneud? Bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgr Llaeth a chynnyrch llaeth Cig, pysgod, wyau a bwydydd cyfatebol llysieuol Bwydydd startshlyd Beth gefais i’w fwyta neu ei yfed Nodwch faint (e.e. 1 cwpanaid, 1 llond llwy de, dwy dafell) Ffrwythau a llysiau Diwrnod ac amser 37 Anelu tua’r nod! Weithiau, hyd yn oed os oes gennych reswm da dros fwyta’n iachach – fel colli pwysau, atal clefyd y galon neu reoli problem â’r galon – gall fod yn anodd cadw at y newidiadau rydych chi am eu gwneud. Pan fyddwch yn ceisio gwneud newidiadau i’ch arferion bwyta, gall fod o gymorth i benderfynu ar dargedau i anelu atynt. Anelu tua’r nod! 39 Pennu’r targedau Pan fyddwch yn barod i wneud newidiadau, gall fod o gymorth mawr i chi osod targedau i chi’ch hunan. Gall hyn eich helpu i ganolbwyntio ar wneud newidiadau realistig a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’ch ffordd o fyw. Os gosodwch eich targedau eich hunan, byddant yn rhai personol i chi – sy’n golygu y byddwch yn fwy tebygol o’u cyrraedd. Wrth osod eich targedau, gofalwch eu bod yn rhai C.A.M.P.U.S Cyraeddadwy Byddwch yn realistig am y newidiadau i’w dewis. Byddwch yn fwy tebygol o lwyddo trwy wneud newidiadau bach, graddol na thrwy geisio gwneud popeth ar unwaith. Ceisiwch ddychmygu’r nod yn y pen draw a’i rannu’n gamau bach realistig y gallwch anelu i’w cyrraedd nes i chi gyrraedd y nod terfynol. Amserol Rhowch amser penodol i chi’ch hunan gyrraedd eich targedau. Nodwch pryd neu pa mor aml y byddwch yn gwneud y newid – er enghraifft, bob dydd, bob bore heblaw penwythnosau, neu ddwywaith yr wythnos. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi weld a ydych wedi cyrraedd y nod. Mesuradwy Dylai fod modd i chi fesur eich llwyddiant. Sawl dogn o ffrwythau a llysiau gewch chi? Neu, sawl diwrnod yr wythnos rydych chi am fwyta brecwast? Trwy wneud eich nod yn fesuradwy, gallwch weld a ydych wedi llwyddo i wneud y newid ai peidio. Penodol Byddwch yn benodol am y newidiadau. Yn lle dweud “Mae’n teulu ni’n mynd i fwyta’n iachach,” meddyliwch yn union sut i wneud hynny. Er enghraifft, a oes angen i chi fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, neu ofalu bod pawb yn bwyta brecwast, neu fwyta byrbrydau iachach? Uchelgeisiol Peidiwch â gosod nod rhy anodd ond mae’n braf cael tipyn o her, on’d ydi? Synhwyrol Penderfynwch ar nodau synhwyrol a pherthnasol. Er enghraifft, os ydych chi’n bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, does dim angen pennu nod ar gyfer hyn. Anelu tua’r nod! 41 Gwnewch y prawf Pa rai o’r isod sy’n nodau C.A.M.P.U.S? Cwestiwn 1 A Dw i byth am fwyta siocled eto. B Dw i am gymryd baryn bach o siocled ddwywaith yr wythnos ar ôl swper. C Dw i am fwyta llai o siocled. Cwestiwn 2 A Dw i am fwyta 10 gwahanol ffrwyth a 10 gwahanol lysieuyn bob dydd (yn cynnwys penwythnosau) o hyn ymlaen. B Dw i am fwyta afal yn lle oren ar ôl swper. C Dw i am fwyta ffrwyth yn lle bisgedi yn y bore ar ddyddiau’r wythnos. Cwestiwn 3 A Dw i am wneud rhestr o fyrbrydau iachus gyda’r plant yr wythnos yma fel y gallwn gytuno beth i’w brynu yr wythnos nesa. B Dw i am wneud i’r plant fwyta’n iach yr wythnos yma. C Dw i am roi ffyn moron yn lle pob byrbryd arall i’r plant o hyn ymlaen. Atebion 1=B Mae’n annhebygol bod A yn gyraeddadwy. Dydi C ddim yn fesuradwy na’n amserol. 2=C Mae’n annhebygol bod A yn gyraeddadwy bob dydd. Dydi B ddim yn newid perthnasol. 3=A Dydi B ddim yn fesuradwy. Mae’n debygol nad yw C yn gyraeddadwy nac yn synhwyrol. Ysgrifennwch eich nodau C.A.M.P.U.S cyntaf yma. Rhowch un neu ddau o dargedau i chi’ch hunan i ddechrau. Ar ôl cyrraedd y rhain, gallwch bennu mwy o dargedau. Os oes arnoch angen help i bennu’r targedau, gofynnwch i’ch nyrs practis am gyngor. 1. 2. Anelu tua’r nod! 43 Mynd i siopa Dylai mynd i brynu bwyd fod yn syml, ond sawl gwaith ydych chi wedi mynd allan i brynu un peth ac wedi dod nôl â llond basged? Neu pa mor aml ydych chi wedi mynd i siopa heb restr ac wedi dod nôl a nifer o wahanol fwydydd nad ydyn nhw’n mynd gyda’i gilydd i wneud pryd? Mynd i siopa 45 Y tro nesaf yr ewch i siopa, ceisiwch ddilyn yr awgrymiadau hyn. 1. Ewch â rhestr gyda chi bob amser Penderfynwch beth y mae arnoch ei angen a phryd rydych chi’n mynd i’w ddefnyddio. Os gwnewch hyn cyn mynd i siopa, bydd yn help i chi ddewis y cynhwysion y mae arnoch eu hangen i wneud prydau iachus. Gallai arbed arian i chi hefyd. Trwy brynu dim ond yr hyn y mae arnoch ei angen, byddwch yn debygol o wastraffu llai. 2. Peidiwch â mynd i siopa pan fydd eisiau bwyd arnoch Mae’n hen awgrym ond yn un da. Mae’n anodd osgoi temtasiwn os ydych yn llwglyd. Ewch i siopa ar ôl bwyta neu cymerwch fyrbryd iachus, fel darn o ffrwythau, cyn mynd. Bydd yn haws prynu bwydydd y mae arnoch eu hangen – nid pethau sy’n mynd â’ch ffansi. 3. Pryd nad yw bargen yn fargen? Mae pawb yn hoffi arbed arian ond, os mai ar fwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster dirlawn, halen neu siwgr y mae’r cynigion arbennig, efallai y byddai’n well eu gadael ar y silff. Does dim raid i chi lenwi’ch troli â bwydydd dim ond am eu bod yn rhatach. Gyda chynigion fel ‘prynwch un, cewch un am ddim’ neu ‘prynwch dri am bris dau’, gallech ffeindio bod eich cypyrddau’n llawn bwydydd llai iachus. Ac os ydyn nhw yno, rydych yn fwy tebygol o’u bwyta. Byddwch yn dditectif bwyd! Mae llawer o wybodaeth ar becynnau bwyd y gallwn ei defnyddio i’n helpu i ddewis, ond a ydyn ni’n ei darllen? Ceisiwch fynd i’r arfer o ddarllen labeli ar becynnau bwyd i’ch helpu i gymharu bwydydd a gwneud dewisiadau iachach. Labeli bwyd Defnyddiwch labeli bwyd i roi gwybodaeth i chi am y bwyd rŷch chi’n ei brynu. Mae sawl gwahanol fath o labeli. Mae panel Manylion maeth fel yr un ar dudalen 48 ar y rhan fwyaf o fwydydd, naill ai ar gefn neu ochr y pecyn. Edrychwch ar y ffigurau ‘per 100g’, a’u cymharu â’r ffigurau isel, canolig ac uchel yn y blwch isod. Er enghraifft, mae’r bwyd hwn yn cynnwys 0.4g o fraster dirlawn (saturated fat) i bob 100g, felly mae’n isel mewn braster dirlawn ac yn ddewis iachus. Mesurau i Isel bob 100g yw’r Dewis iachach rhain i gyd Canolig Iawn y rhan fwyaf o’r amser Uchel Iawn weithiau Siwgr 5g neu lai 5.1g - 15g Mwy na 15g Braster 3g neu lai 3.1g - 20g Mwy nag 20g Braster dirlawn 1.5g neu lai 1.6g - 5g Mwy na 5g Halen 0.30g neu lai 0.31g - 1.5g Mwy nag 1.5g Mynd i siopa 47 Ond er mwyn ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iachus, mae llawer o wneuthurwyr a gwerthwyr bwyd yn rhoi gwybodaeth hawdd ei deall ar flaen pacedi. Mae labeli lliwiau goleuadau traffig yn dangos a oes llawer (coch), swm canolig (ambr), neu ychydig (gwyrdd) o fraster, braster dirlawn, siwgrau a halen mewn 100g o’r bwyd. Mae rhai labeli’n dangos i ba raddau y mae’r bwyd yn cyfrannu at gyfanswm y maetholion allweddol y dylech eu bwyta mewn diwrnod (GDAs). Mae’r canllawiau dyddiol ar gyfer y maetholion pwysicaf a nodir ar labeli bwydydd i’w gweld yn y blwch isod. Er enghraifft, mae un ddogn o’r bwyd hwn yn cynnwys 8% o’r canllaw dyddiol (GDA) ar gyfer calorïau, a 7% o’r canllaw dyddiol ar gyfer cyfanswm y braster. Canllawiau dyddiol (GDAs) Dynion Merched Plant 2,500kcal 2,000kcal 1,800kcal Cyfanswm y braster 95g 70g 70g Braster dirlawn 30g 20g 20g Halen 6g 6g 4g Siwgr 120g 90g 85g Calorïau (y GDA cyffredinol ar gyfer oedolion a welir ar becynnau) (5-10 oed) Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod cwsmeriaid o’r farn mai model o labeli sy’n cyfuno lliwiau goleuadau traffig, GDAs a’r geiriau ‘high’, ‘medium’ a ‘low’ yw’r ffordd gliriaf a symlaf o ddeall gwybodaeth am gynnwys maethol y bwyd y maen nhw’n ei brynu. Cewch fwy o wybodaeth yn ein taflen Guide to food labelling. Mynd i siopa 49 Plant yn swnian Os oes gennych blant a’ch bod yn mynd â nhw i’r archfarchnad i siopa, mae’n eithaf posib y byddant yn poeni ac yn swnian eisiau gwahanol bethau. Dyma rai syniadau i’ch helpu. ● ● ● ● ● Gadewch i’r plant helpu i ysgrifennu’r rhestr siopa. Gadewch iddyn nhw ddewis rhai o’r pethau i’w prynu. Er enghraifft, efallai y gallen nhw ddewis pa ffrwythau i’w rhoi yn eu bocs bwyd. Gwrandewch arnyn nhw pan fyddan nhw’n gofyn am bethau. Yn hytrach na dweud “Na” yn syth, esboniwch pam na chân nhw rai bwydydd. Dangoswch gydymdeimlad. Os byddwch yn dweud “Na,” cadwch ato! Os bydd y plant yn meddwl efallai y newidiwch chi’ch meddwl, byddan nhw’n dal i swnian. Os oes gennych blant hŷn, gallwch helpu i wneud siopa’n llai diflas iddynt trwy ofyn iddyn nhw nôl pethau sydd ar y rhestr. Bydd hyn yn golygu y byddwch wedi gorffen yn gynt hefyd. Ceisiwch fynd i siopau sydd heb felysion wrth y til. Pe baech chi’n blentyn, fyddech chi’n gallu gwrthsefyll y demtasiwn? Mynd i siopa 51 Fe wnes i ddychryn yn ofnadwy pan glywais i y byddai’n rhaid i mi gael llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon. Doeddwn i erioed wedi meddwl mod i mewn perygl er fy mod i’n pwyso 15 stôn, yn smocio a ddim yn gwneud ymarfer corff. Oherwydd yr ofn, fe wnes i newid fy ffordd o fyw dros nos. Doedd hi ddim yn hawdd ar y dechrau, yn enwedig newid fy neiet. Roedd rhaid i mi ddysgu hoffi gwahanol fath o fwyd. Dw i’n teimlo lawer yn well erbyn hyn ac yn cael ambell i drît ond dw i bob amser yn gofalu edrych ar y cynhwysion ar labeli bwyd. Mae’n bwysig, er ein mwyn ein hunain ac er mwyn ein plant, ein bod yn bwyta’n iach. Os ydw i’n gallu ei wneud, fe allwch chithau hefyd! Rheoli pwysau – dros bwysau a than bwysau Gall fod yn anodd, am wahanol resymau, i bobl gyrraedd pwysau iachus ac aros yno. Mae rhai pobl yn cael trafferth i ennill pwysau ac eraill yn cael anhawster i’w golli. Pa un bynnag a ydych yn ceisio rhoi pwysau ymlaen neu gael gwared ohono, mae’n bwysig cofio bwyta’n iach. Rheoli pwysau – dros bwysau a than bwysau 53 Ceisio colli pwysau? Os ydych yn ceisio colli pwysau, y nod yw bwyta tua 600kcal yn llai o ynni (calorïau) nag yr ydych yn eu defnyddio. ● ● ● ● Gofalwch gael patrwm rheolaidd o fwyta tri phryd y dydd, yn cynnwys brecwast. Bwytwch lai o fwydydd egni ddwys sy’n cynnwys llawer o fraster neu siwgr ac felly lawer o galorïau. A bwytwch fwy o ffrwythau, llysiau a salad. Hyd yn oes os yw’ch deiet eisoes yn gytbwys, efallai eich bod yn bwyta gormod. Gofalwch nad ydych wedi dechrau bwyta plateidiau mwy o faint. Ceisiwch symud mwy a threulio llai o amser yn eistedd yn gweithio wrth y cyfrifiadur neu’n gwylio’r teledu. Defnyddiwch y grisiau yn lle’r lifft, cerddwch bellter byr yn lle mynd yn y car neu’r bws, a meddyliwch am weithgareddau hamdden y gallech eu mwynhau. Gall fod yn demtasiwn dewis deiet sy’n dweud y byddwch yn colli llawer o bwysau’n sydyn, ond mae colli pwysau’n raddol yn well i chi. Anelwch at golli dim mwy na 0.5kg i 1kg (1 neu 2 bwys) yr wythnos. Os hoffech ragor o wybodaeth am golli pwysau, mynnwch ein llyfrynnau So you want to lose weight… for good sy’n cynnwys cynllun bwyta a fydd yn eich helpu i golli pwysau a gwneud newidiadau i’ch deiet, neu Take control of your weight sy’n dda os oes gennych lawer o bwysau i’w golli a’ch bod am wybod pa ddewisiadau sydd ar gael. Ceisio ennill pwysau? Mae rhai pobl yn cael trafferth i godi i bwysau iachus bob amser ond os ydych wedi colli pwysau’n sydyn neu’n anfwriadol dylech drefnu i weld eich meddyg teulu. Os ydych am ennill pwysau, mae angen i chi fwyta mwy o egni (calorïau) nag yr ydych yn ei ddefnyddio. Ceisiwch ennill 0.5kg i 1kg (1 neu 2 bwys) y mis, yn raddol. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi fwyta mwy a chael mwy o galorïau. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw bwyta mwy o garbohydradau startshlyd a braster. ● ● ● Gofalwch gael patrwm prydau rheolaidd a bwyta tri phryd y dydd, yn cynnwys brecwast. Ceisiwch fwyta ychydig bach mwy bob pryd. Cymerwch dafell ychwanegol o dôst i frecwast, a llwyaid arall o basta, tatws neu reis i swper. Ceisiwch gynnwys mwy o frasterau iachus yn eich deiet. Er enghraifft, defnyddiwch sbred braster annirlawn ar fara a thost ac mewn dresin salad, a bwytwch gnau a hadau di-halen rhwng prydau. Rheoli pwysau – dros bwysau a than bwysau 55 Sut olwg sydd ar ddeiet iachus? Mae deiet iachus yn amrywio o ddydd i ddydd ac yn cynnwys amrywiaeth eang o fwydydd. Er mwyn rhoi syniad i chi sut olwg sydd ar ddeiet iachus, rŷn ni wedi creu enghraifft o ‘gynllun bwyta’ am ddiwrnod. Sut olwg sydd ar ddeiet iachus? 57 Cynllun bwyta’n iach Brecwast Grawnfwyd grawn cyflawn gyda llaeth hanner sgim 1 dafell o dôst gyda sbred braster-isel a jam Gwydraid bach o sudd oren Ganol bore Tair bricyllen (apricot) sych Cinio Brechdan tiwna a chiwcymbr (yn defnyddio sbred braster-isel, ar ddwy dafell o fara) Banana Tafell o fara brag (malt bread) neu sgonen (dim sbred) Prynhawn Dwy fisgïen rich tea Swper Tshili gyda mins cig eidion di-fraster /soia / Quorn wedi’i goginio gydag ychydig o olew a thomatos tun 1 taten trwy’i chroen ganolig ei maint Brocoli Moron Salad ffrwythau ffres neu ffrwythau tun mewn sudd Iogwrt braster-isel Gyda’r nos Cwpanaid o ddiod llaeth braster isel neu wydraid bach o win Yn ystod y dydd Dŵr neu sgwosh di-siwgr gyda phrydau 1/3 peint llaeth hanner sgim Sut olwg sydd ar ddeiet iachus? 59 Plant a’u pwysau Rydyn ni’n clywed mwy a mwy o sôn am bwysau plant ac mae hynny’n achosi pryder i rieni. Wrth i blant dyfu a datblygu, mae siâp eu corff yn newid, felly gall fod yn anodd gwybod a yw pwysau plant yn iawn ar gyfer eu taldra. Os yw’ch plentyn yn rhy drwm, neu os ydych yn meddwl y gallai fod, mae’n syniad da cael cyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol. Soniwch wrth eich nyrs practis neu ymwelydd iechyd. Efallai y gallan nhw’ch cynghori neu eich cyfeirio at ddeietegydd os bydd angen. Nid yw deiets colli pwysau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion yn addas i blant ac felly mae’n well cael cyngor proffesiynol. Mae’n well atal problem rhag codi na gorfod ei datrys ac felly mae’n well rhoi eich plant ar y llwybr iawn o’r cychwyn. Syniadau syml i warchod pwysau’ch plant ● ● ● ● ● ● Peidiwch â rhoi diodydd pefriog iddynt. Cynigiwch ddŵr neu sgwosh di-siwgr yn lle hynny. Gofalwch fod gennych ffrwythau wrth law bob amser i’w bwyta rhwng prydau. Peidiwch â rhoi i mewn os bydd eich plant yn swnian yn yr archfarchnad neu bydd gennych fwydydd llai iach i’w temtio ar ôl cyrraedd adref. Ceisiwch sicrhau eu bod yn cael rhywfaint o ymarfer corff ar y daith i’r ysgol trwy gerdded neu fynd ar gludiant cyhoeddus yn hytrach nag yn y car. Ceisiwch annog y plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau bywiog y tu allan i’r ysgol. Does dim rhaid iddynt fod yn dimau chwaraeon. Rhowch gynnig ar unrhyw fath o glybiau gweithgareddau. Rhowch esiampl dda. Mae’ch plentyn yn fwy tebygol o fwyta’n iach os ydych chithau’n gwneud hefyd! Sut olwg sydd ar ddeiet iachus? 61 Cynllunio prydau Mae gwybod ymlaen llaw beth yr ydych chi a’ch teulu’n mynd i’w fwyta yn ffordd dda o sicrhau bod eich deiet yn gytbwys ac yn iachus a gall arbed arian i chi hefyd! I’ch helpu â’ch siopa, gwnewch restr wedi’i seilio ar y prydau rydych chi’n mynd i’w bwyta dros y dyddiau nesaf neu yn ystod yr wythnos. Cynllunio prydau 63 Tabl cynllunio prydau wythnosol Defnyddiwch y Tabl cynllunio prydau wythnosol isod i helpu i sicrhau eich bod yn cael amrywiaeth o wahanol fathau o fwydydd a phrydau trwy’r wythnos. Ffrwythau a llysiau Bwytwch o leiaf bum dogn y dydd. Bara, reis, tatws, pasta a bwydydd startshlyd eraill Sylfaen ar gyfer eich prydau i gyd. Llaeth a chynnyrch llaeth Cewch fwyta ac yfed y rhain yn gymhedrol Cig, pysgod, wyau, ffa a bwydydd protein eraill heblaw cynnyrch llaeth Dewiswch fathau sy’n cynnwys llai o fraster. Griliwch neu bobi yn hytrach na ffrïo. Bwydydd a diodydd sy’n cynnwys llawer o fraster a/neu siwgr Dim ond ychydig o’r rhain y dylech eu bwyta. Hylif Cymerwch ddiodydd di-siwgr yn rheolaidd. Syniadau ar gyfer prydau cytbwys. Syniadau am frecwast Syniadau am fyrbrydau Syniadau am brif brydau Grawnfwyd a llaeth a banana Tôst a sudd oren Iogwrt braster isel a muesli drosto Taten trwy’i chroen gyda tiwna neu ffa pob a salad Pasta a tiwna gyda brocoli Wyau wedi’u potsio ar dost gyda sudd oren Cawl llysiau Brechdan ham neu gyw iâr Spaghetti bolognese a salad Cyw iâr, tatws a llysiau Pasta gyda saws tomatos a madarch ac ychydig o gaws math cheddar isel mewn braster Eog pob, tatws a llysiau Diwrnod Brecwast Byrbryd Prif bryd Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Sadwrn Sul Cynllunio prydau 65 Weithiau, gall fod yn anodd cynllunio ymlaen llaw, felly mae’n syniad da cael prydau iachus wrth law yn y rhewgell. Wrth wneud cawl, sŵp neu dahl, gwnewch ddigon fel bod peth dros ben i’w rewi. Gwnewch ddefnydd da o’ch cypyrddau trwy gadw tuniau o ffa pob a chodlysiau (pulses) eraill sy’n cynnwys ychydig o siwgr a halen, tuniau tomatos, reis a phasta fel y gallwch wneud prydau syml a sydyn. Syniadau am brydau sydyn ● ● ● Cwscws gyda thun tiwna a saws tomatos sbeislyd (wedi’i wneud o domatos tun, winwns a tshili neu baprica sych) Ffa pob ar dôst neu gyda thaten trwy’i chroen wedi’i gwneud yn y popty meicrodon Cyri gwygbys gyda reis â phys wedi’u rhewi ynddo. Cynllunio prydau 67 Bocsys bwyd iachus Gall fod yn anodd gwneud pecyn bwyd diddorol a maethlon bob dydd. Ond peidiwch â dibynnu ar fwydydd parod ar gyfer bocsys bwyd, creision a melysion! Mae’n bwysig cael cinio iachus er mwyn cael digon o egni a maeth i’ch cario trwy’r prynhawn. Un o’r anawsterau wrth wneud pecyn bwyd bob dydd yw cael syniadau i’w wneud yn amrywiol ond yn iachus. Efallai y cewch syniadau newydd yn y darn ar Syniadau bocsys bwyd ar y dudalen nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys bwydydd maethlon a blasus a fydd yn ffefrynnau gan y teulu cyfan. Gallwch addasu ein syniadau ni neu greu’ch pecynnau bwyd eich hunan gan ddefnyddio’r canllaw isod. Sicrhau’r cydbwysedd iawn. Cofiwch: ● ● ● ● ● ● Mae angen cynnwys ffrwythau a llysiau. Ceisiwch gynnwys dogn o’r naill a’r llall. Gwell cael eitem o fwyd startshlyd – bara, reis, tatws neu basta. Dewiswch fwyd sy’n cynnwys protein heb lawer o fraster e.e. tun tiwna neu eog mewn dŵr, wyau wedi’u berwi, neu gig heb lawer o fraster fel cyw iâr neu dwrci. Dewiswch gynnyrch llaeth braster-isel – fel iogwrt braster-isel, fromage frais neu gaws ag ychydig o fraster. I yfed, cymerwch ddŵr, sudd ffrwythau pur heb ei felysu neu laeth braster-isel. Defnyddiwch labeli pecynnau bwyd i’ch helpu i wneud y dewis iach o ran braster dirlawn, cyfanswm y braster, halen a siwgr (tudalen 49). Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Bara pita wedi’i stwffio â sleisys tomato a chyw iâr Brechdan ŵy a berwr ar fara gwenith cyflawn Rôl bara garw gyda hwmws, letys, tomato a chiwcymbr Salad pasta gyda tiwna (o dun gyda dŵr ffynnon), corn melys a phupur coch Pitsas bach cartref Tun eirin gwlanog mewn sudd Tomato a chiwcymbr wedi’u torri’n ddarnau Gellygen Dau satswma Dyrnaid bach o fricyll (apricots) sych Cwstard braster-isel Fromage frais braster-is Iogwrt ffrwythau braster-isel Iogwrt ffrwythau braster-isel Dip tzatziki gyda ffyn pupur coch Sudd pîn-afal Sudd afal Popcorn Dyrnaid bach o gnau plaen mwnci heb eu halltu Bynsen Dŵr Dŵr Sudd oren Cynllunio prydau 69 Cinio plant Hyd yn oed os yw’ch bocs bwyd yn iachus pan fyddwch yn ei wneud, bydd yn ddiwerth os na chaiff ei fwyta. Dilynwch yr awgrymiadau hyn i osgoi brechdanau llaith a llipa. Sut i sicrhau bod bocs bwyd eich plentyn yn dod adre’n wag ● ● ● ● ● ● Cadwch e’n oer. Os nad oes oergell i gadw bocsys bwyd, defnyddiwch fag neu focs oer arbennig, neu gallwch rewi carton diod neu botel ddŵr llonydd i’w rhoi yn y bocs bwyd i’w gadw’n oer. I gadw’ch brechdanau rhag mynd yn llaith a llipa, rhowch lysiau gwlyb fel sleisys tomatos rhwng y prif lenwad a thipyn o letys i warchod y bara. Gwnewch y ffrwythau a’r llysiau’n hawdd eu bwyta. Torrwch nhw’n ddarnau, ffyn neu siapiau yn lle eu gadael yn gyfan. Gwnewch amser cinio’n hwyl. Defnyddiwch sticeri i addurno bagiau brechdanau neu botiau iogwrt, neu dynnu llun wynebau digri ar ffrwythau fel bananas, orenau a satswmas – rhai sy'n cael eu plicio cyn eu bwyta. Gadewch i’ch plentyn ddewis ei focs bwyd ei hunan, a napcyns a chyllell, fforc a llwy lliwgar. Gadewch i’r plant helpu i ddewis beth sy’n mynd i’w bocs bwyd. Cynllunio prydau 71 Roedd fy rhieni bob amser yn ceisio gofalu fy mod i’n bwyta’n iach. Pan oeddwn i’n fach, roeddwn i’n arfer dilyn Mam o gwmpas y gegin. Mae’n siwr fy mod i’n dipyn o niwsans ond fe ddysgais i’r pethau sylfaenol wrth edrych arni. Erbyn hyn dw i yn y coleg a dw i’n teimlo bod coginio’n help i ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith. Mae’n wych achos dw i a’r lleill yn y fflat yn dod at ein gilydd i baratoi pryd a dw i’n meddwl bod fy mrwdfrydedd i dros fwyta’n iach wedi cael dylanwad da ar y lleill. Mae’n anodd dros gyfnod yr arholiadau ond gan amlaf, byddaf i’n bwyta’n dda. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig ceisio gwneud amser i goginio bwydydd iachus. Mae’n gwneud i mi deimlo’n well – yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae newidiadau bach yn help! Does dim rhaid i chi wneud newidiadau mawr, anodd i’ch arferion bwyta. Yn wir, weithiau, mae ychydig o newidiadau bach – ychwanegu ychydig llai o fraster at eich bwyd, prynu math gwahanol o laeth neu iogwrt, bwyta ffrwythau yn lle bisgedi, neu dynnu’r braster a’r croen oddi ar eich cig – yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr gyda’i gilydd. Meddyliwch am rai newidiadau fyddai’n lles i’ch teulu – bwyta llai o fraster neu fraster dirlawn, neu fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, ac yna meddyliwch am ffyrdd o addasu’ch deiet i’ch helpu i wneud hynny. Mae newidiadau bach yn help! 73 Gwneud dewisiadau iachach Cynnyrch llaeth Efallai y gwyddoch eisoes bod dewis llaeth a iogwrt braster-is yn eich helpu i gael llai o fraster dirlawn. Ond a wyddech chi bod mwy o fraster mewn rhai mathau o gaws na’i gilydd hefyd? Mae’r rhan fwyaf o fathau o gaws yn cynnwys llawer o fraster, yn enwedig braster dirlawn (saturated fat), ond mae modd dewis rhai mathau iachach. Braster dirlawn, gram i bob 100g Cyfanswm y braster, gram i bob 100g Math o gaws Braster uchel (Mwy nag 20g i bob 100g) Mascarpone 44 29 Stilton 35 23 Cheddar/Red Leicester/Double Gloucester 35 22 Parmesan 30 19 Edam 26 16 Camembert 23 14 Feta 20 14 Mozzarella 20 14 Cheddar hanner braster 16 10 2 1 Braster canolig (3.1g - 20g i bob 100g) Braster-isel (3g neu lai i bob 100g) Caws colfran plaen braster-is Cig Gall y math o gig a ddefnyddiwch a’r ffordd o’i goginio wneud gwahaniaeth mawr o ran faint o fraster a braster dirlawn a gewch. Cig Mwy o fraster Llai o fraster Porc Darn o fola porc gyda braster, wedi’i goginio I bob 100g: 23.4g braster, 8.2g braster dirlawn. Coes borc heb lawer o fraster, wedi’i choginio I bob 100g: 5.5g braster, 1.9g braster dirlawn Cig eidion Stecen ffolen (rump steak) gyda braster, wedi’i ffrïo I bob 100g: 12.7g braster, 4.9g braster dirlawn. Stecen ffolen heb fraster, wedi’i grilio I bob 100g: 5.9g braster, 2.5g braster dirlawn Cyw iâr Brest cyw iâr wedi’i ffrïo mewn briwsion bara I bob 100g: 12.7g braster, 2.1g braster dirlawn. Brest cyw iâr wedi’i grilio heb y croen I bob 100g: 2.2g braster, 0.6g braster dirlawn Byrbrydau Yn lle… Rhowch gynnig ar… Creision Ffyn bara, grawnfwyd sych, cacennau reis neu ffyn llysiau crensiog Cacen hufen Bynsen wedi’i thostio, teacake, crymped neu fyffin gydag ychydig o sbred annirlawn Melysion berwi Ffrwythau sych e.e. resins, bricyll (apricots) sych neu ffigys sych. Darn o pitsa Bara pita gwenith cyflawn wedi’i ddipio mewn hwmws neu tzatziki braster-isel Baryn siocled Banana neu ddarnau pîn-afal ffres Mae newidiadau bach yn help! 75 Newid ffyrdd o goginio ● ● ● Rhowch gynnig ar bobi, berwi, stemio, potsio neu goginio yn y popty ping yn lle ffrïo, fel na fydd raid i chi ychwanegu braster. Mesurwch olew â llwy de neu ddefnyddio olew chwistrellu yn lle ei arllwys yn syth o’r botel. Gofalwch fod gennych badell ffrïo nad yw’n glynu ar gyfer ffrïo’n sych, neu dun rhostio nad yw’n glynu fel y gallwch rostio heb ychwanegu braster. Mae newidiadau bach yn help! 77 Pan oeddwn i’n ffotograffydd llawrydd, roedd yn eithaf anodd bwyta’n iach. Pan fyddwch chi ar y lôn, rydych chi’n bwyta mewn caffis ar ochr y ffordd. Ond ar ôl cael triniaeth ar y galon, ro’n i’n gwybod ei bod yn rhaid i mi newid. Mae fy mhartner i’n bwyta’n iach yn naturiol ac mae hi wedi bod yn ddylanwad da arna i. Erbyn hyn dw i’n athro llawn-amser ac mae paratoi bwyd gyda’n gilydd yn bleser pur. Dw i’n teimlo mod i’n cyflawni rhywbeth ac yn fwy egnïol a bywiog. Meddyliwch – Beth fyddai orau gennych chi, pryd iachus wedi’i goginio gartref neu rywbeth digymeriad o’r popty ping? Does dim cystadleuaeth! Mynd am bryd Nid yw mynd allan am bryd a bwyta bwydydd brasach nag arfer yn achlysurol yn debygol o wneud gwahaniaeth i iechyd y galon yn y tymor hir, ond mae bwyta bwydydd llawn braster, halen a siwgr yn rheolaidd yn gallu gwneud drwg. Rydyn ni’n mynd allan i fwyta yn amlach nag erioed o’r blaen y dyddiau hyn. Mae mynd allan am fwyd yn fwy cyffredin nag y bu ac, i rai bobl, mae’n rhan reolaidd o’u bywyd. Mynd am bryd 79 Nid dim ond ar achlysuron arbennig y byddwn yn mynd am fwyd; rydyn ni’n mwynhau coffi a chacen wrth siopa, pryd cario allan neu fwyd cyflym pan na fydd chwant coginio arnom, pryd neu fyrbryd yn y dafarn, brechdan o’r siop gornel neu’r garej, a melysion a chreision neu gi poeth wrth fynd i’r sinema neu i fowlio deg. Gyda’i gilydd gall hynny wneud gwahaniaeth. Hefyd, wrth fwyta allan, efallai y byddwch yn bwyta mwy nag y byddech yn ei fwyta adref. Ac, yn aml, dydi’r dewisiadau iachus ddim yn amlwg. Ond fe all bwyta allan fod yn iachus. Dyma awgrymiadau i’ch helpu i ddewis yn ddoeth ac i gadw at eich cynllun bwyta’n iach. ● ● ● ● ● ● ● ● ● ● ● ● Yn aml, cewch blatiaid mwy pan fyddwch yn mynd allan am bryd. Peidiwch â theimlo’i bod yn rhaid i chi fwyta’r cyfan dim ond am ei fod yno. Ystyriwch rannu cwrs cyntaf neu bwdin yn hytrach na chael un cyfan. Gofynnwch am gael dresin neu saws ar yr ochr i chi gael penderfynu faint i’w roi. Neu gofynnwch am salad neu lysiau gyda’ch pryd yn lle sglodion. Ceisiwch ddewis sawsiau wedi’u gwneud â llysiau neu domatos yn hytrach na hufen, cnau coco neu gaws. Mae rhai cwmnïau’n nodi ar eu bwydlenni faint o galorïau sydd yn eu prydau. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth am faeth sydd ar wefannau’r cwmnïau hefyd i’ch helpu i ddewis bwydydd isel mewn braster, halen a siwgr. Dewiswch reis a nŵdls plaen wedi’u berwi, yn hytrach na rhai sydd wedi’u ffrïo neu sydd â choconyt drostynt. A dewiswch datws wedi’u berwi neu eu coginio trwy’u crwyn yn hytrach na sglodion. Cofiwch fod braster a halen yn aml yn y pethau ychwanegol a’r sawsiau a roddwch ar eich bwyd – fel caws wedi’i gratio, pesto, hufen sur neu ddresin. Gofynnwch am laeth sgim mewn coffi llaeth fel cappuccino a latte i gael llai o fraster. Neu, yn well, dewiswch Americano neu de a phenderfynu drosoch eich hunan faint o laeth braster-isel i’w roi ynddo. Wrth brynu brechdanau, darllenwch y wybodaeth am faeth ar flaen y pecyn, i wybod pa rai yw’r iachaf. Os yw’r brechdanau’n cael eu gwneud yn arbennig i chi, fel mewn deli, peidiwch â chymryd halen, tafelli caws na mayonnaise ychwanegol, a gofynnwch am salad. Os yw’n frechdan ffres, does dim angen poeni y bydd y salad yn gwneud y frechdan yn llaith a llipa. Penderfynwch beth i'w ddewis cyn cyrraedd. Bydd hyn yn eich helpu i wrthsefyll y demtasiwn o gael bwyd llai iachus, yn enwedig os oes eisiau bwyd arnoch. Os byddwch yn mynd am bryd gyda chriw mawr, dywedwch chi gyntaf beth yw'ch dewis, rhag i chi newid eich meddwl pan fydd pobl eraill yn dewis bwydydd llai iachus. Mynd am bryd 81 Dal ati Ddylai hi ddim bod yn anodd bwyta’n iach ond, weithiau, efallai y cewch drafferth i wneud dewisiadau iachus neu gadw at eich targedau. Cofiwch, fel gyda phopeth newydd, mae angen dysgu bwyta’n iach. Os ydych wedi bwyta mewn ffordd neilltuol ers amser maith, efallai y cewch eich temtio i fynd nôl i’ch hen arferion weithiau. Cofiwch nad dim ond chi fydd yn elwa o’r newidiadau, ond y teulu cyfan. Bydd bwyta’n iach yn eich helpu i osgoi clefyd y galon trwy helpu i reoli lefelau colesterol a phwysau gwaed a thrwy eich cadw ar bwysau iach. Bydd cadw at y newidiadau yn lles i chi a bydd y dewisiadau iachus yn dod yn haws gydag amser. Angen rhagor o help? Os hoffech ragor o wybodaeth am fwyta’n iach, gallwch droi at nifer o wefannau: bhf.org.uk www.eatwell.gov.uk www.5aday.nhs.uk www.nhs.uk/change4life www.units.nhs.uk www.msc.org Holwch a oes grwpiau yn yr ardal yn canolbwyntio ar fwyta’n iach. Efallai y gall eich awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth gofal sylfaenol awgrymu rhai i chi, neu holwch eich nyrs practis. Dal ati 83 Coginio creadigol Trwy fod yn greadigol yn y gegin, gallwch sicrhau eich bod yn cael bwydydd amrywiol a chadw rheolaeth dros faint o fraster, halen a siwgr sydd yn eich bwyd. Mae’n dda ar gyfer plant hefyd – mae’n hwyl ac yn eu helpu i ddysgu sgiliau a fydd o gymorth iddynt am byth. Ryseitiau Mae’r ryseitiau ar y tudalennau nesaf yn rhai syml a sydyn. Maent yn rhoi syniadau i chi ar gyfer brecwast, cinio a swper a gallwch eu cynnwys mewn cynllun bwyta iach. Brecwast Smwddi brecwast banana Uwd gyda mwtrin (compote) aeron cymysg Prydau ysgafn Cawl tomatos a chorbys Salad cyw iâr a reis Dip hwmws a llysiau Prif brydau Risoto tiwna a chorbwmpenni Pastai’r bwthyn Tshili ffa a llysiau Eog pob gyda lemon a pherlysiau ffres Pwdinau Pwdin bara a bricyll sbeislyd Stwnsh (fool) iogwrt a mwyar duon Coginio creadigol 85 Smwddi brecwast banana Mae smwddis yn ffordd ardderchog o gael pobl sy’n gyndyn o fwyta brecwast yn ôl i’r drefn o gael cychwyn iachus i’r diwrnod. Digon i 2 Bydd arnoch angen: Dwy fanana ganolig eu maint, wedi tynnu’r croen a’u torri’n ddarnau 300ml (½ peint) llaeth hanner sgim 1 llwy fwrdd mêl clir 1-2 lwy fwrdd menyn cnau mwnci llyfn (math gydag ychydig o halen) Dull 1.Blendiwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd. Gallwch ddefnyddio blendiwr llaw neu flendiwr jwg. 2.Arllwyswch i wydrau a’i yfed ar unwaith. Uwd gyda mwtrin aeron cymysg Bydd y teulu cyfan wrth eu bodd â’r brecwast hwn. Gwnewch beth dros ben a’i rewi fel y bydd gennych beth yn barod unrhyw bryd. Digon i 4 Bydd arnoch angen: Ar gyfer y mwtrin (compote) ffrwythau: 3 llwy fwrdd sudd grawnwin coch heb ei felysu 3 llwy fwrdd sudd afal heb ei felysu 1 llwy fwrdd mêl clir 350g (12 owns) aeron ffres cymysg fel mafon, mwyar duon, llusi Americanaidd a mefus bach (haneri) Ar gyfer yr uwd: 115g (4 owns) ceirch uwd 400ml (14 owns hylif) llaeth hanner sgim 400ml (14 owns hylif) dŵr Dull I wneud y mwtrin ffrwythau 1. Rhowch y sudd ffrwythau a’r mêl mewn sosban a’i gynhesu nes ei fod bron yn berwi, gan ei droi. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres. Rhowch yr aeron cymysg mewn dysgl ac arllwys y cymysgedd sudd poeth drostynt. Trowch yn ofalus i’w cymysgu a rhoi’r ddysgl o’r neilltu. Cewch ei fwyta’n gynnes, yn oer neu’n oer iawn. I wneud yr uwd 2.Rhowch y ceirch mewn sosban nad yw’n glynu a throi’r dŵr a’r llaeth i mewn iddo. Codwch i’r berw’n araf, gan ei droi trwy’r amser. Gadwch iddo fudferwi am 3-5 munud neu nes y bydd wedi cyrraedd y trwch iawn gan ei droi weithiau. Coginio creadigol – Brecwast 87 Cawl tomatos a chorbys Mae’r cawl blasus, trwchus, iachus hwn yn bryd hyfryd i’ch cynhesu yn y gaeaf. Mae’n ddelfrydol gyda thafell drwchus o fara gwenith cyflawn neu fara garw. Digon i 2 Mae hyn yn gwneud llond dysgl dda – delfrydol ar gyfer prif gwrs neu amser cinio. Bydd arnoch angen: 2 lwy de olew olewydd 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân 1 cenhinen, wedi’i sleisio’n denau 1 ffon seleri, wedi’i thorri’n fân 55g (2 owns) corbys (lentils) coch sych, wedi’u rinsio a’u draenio Tun 227g (8 owns) tomatos wedi’u torri’n ddarnau 550ml (20 owns hylif) stoc llysiau 1 llwy de perlysiau sych cymysg Pupur du newydd ei falu, at eich dant Persli ffres wedi’i dorri’n ddarnau, i addurno Dull 1. Cynheswch yr olew mewn sosban ganolig ei maint nad yw’n glynu. Ychwanegwch y winwnsyn, y genhinen a’r seleri, a’u coginio’n ysgafn am 5 munud, gan eu troi. Ychwanegwch y corbys a’u coginio am funud, gan eu troi. 2. Ychwanegwch y tomatos, y stoc, y perlysiau sych a’r pupur du, a’u cymysgu. Codwch i’r berw, yna trowch y gwres i lawr, rhowch gaead drosto a’i fudferwi gan ei droi weithiau, am ryw 20 munud neu nes y bydd y llysiau a’r corbys yn dyner. 3. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a’i rhoi o’r neilltu i oeri dipyn. Blendiwch y gymysgedd llysiau mewn blendiwr neu brosesydd bwyd nes y bydd yn llyfn. 4. Golchwch y sosban a rhoi’r cawl yn ôl ynddi. Ychwanegwch y rhan fwyaf o’r persli ac ailgynhesu’r cawl yn ofalus nes ei fod yn boeth gan ei droi weithiau. 5. Codwch ef i ddysglau cawl cynnes a’i addurno â gweddill y persli. Coginio creadigol – Prydau ysgafn 89 Salad reis a chyw iâr Mae hyn yn newid braf yn lle cael brechdanau bob dydd ac yn rhoi amrywiaeth o fwydydd mewn un pryd. Gallwch ei fwyta gyda salad gwyrdd cymysg a bara crystiog ffres. Digon i 6 Bydd arnoch angen: 225g (8 owns) reis brown hir 350g (12 owns) darnau cyw iâr wedi’i goginio ac wedi tynnu’r croen a’r esgyrn ½ ciwcymber wedi’i dorri yn ei hanner ar ei hyd a’i dorri’n sleisys tenau 1 bwnsiaid o shibwns, wedi’u torri’n ddarnau 1 pupur coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n ddarnau 115g (4 owns) pys bach melys yn eu plisg, wedi’u torri’n ddarnau Tun 200g (7 owns) india corn (sweetcorn), wedi’i rinsio a’i ddraenio 8-10 llwy fwrdd dresin Ffrengig di-fraster neu fraster-isel 2 lwy fwrdd basil neu bersli dail fflat ffres wedi’u torri’n ddarnau Pupur du newydd ei falu, at eich dant Sbrigau ffres o basil neu bersli dail fflat, i addurno Dull 1. Coginiwch y reis mewn sosban o ddŵr berw nes ei fod yn dyner ond nid yn rhy feddal. Draeniwch, rinsiwch o dan ddŵr oer yn rhedeg, a’i ddraenio eto. Rhowch mewn dysgl salad. 2. Ychwanegwch y cig cyw iâr, y ciwcymber, y shibwns, y pupur coch, y pys melys, a’r india corn (sweetcorn) a’u troi i’w cymysgu. 3. Ychwanegwch y dresin Ffrengig, y perlysiau wedi’u torri, a’r pupur du a’u cymysgu’n ddau. 4. Addurnwch â sbrigau basil neu bersli. Amrywiadau Defnyddiwch dun tiwna (mewn dŵr ffynnon), tun o wygbys (chickpeas), neu dwrci wedi’i goginio a’i dorri’n ddarnau yn lle cyw iâr. Defnyddiwch ddresin salad parod di-fraster neu fraster-isel, fel ‘thousand island’, perlysiau a garlleg, neu fêl a mwstard, yn lle dresin Ffrengig. Dip hwmws a llysiau Gallwch ddewis faint o coriander a chwmin i’w roi yn y dip poblogaidd hwn o’r Dwyrain Canol. Mae’n dda i’w rannu gyda’r teulu a ffrindiau. Digon i 4 fel cwrs cyntaf neu fyrbryd Bydd arnoch angen: Tun 420g (15 owns) gwygbys (chickpeas), wedi’u rinsio a’u draenio Sudd 1 lemon 4 llwy fwrdd olew olewydd pur iawn 2 lwy fwrdd tahini ysgafn (pâst sesame) 1 neu 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu (os dymunwch) 1/2 -1 llwy de coriander mâl 1/2 -1 llwy de cwmin mâl Pupur du newydd ei falu, at eich dant Dewis o lysiau amrwd ffres – darnau o bupur, moron, ciwcymber, cobiau bach india corn, tomatos ceirios Dull 1. Blendiwch y gwygbys, y sudd lemon, olew olewydd, tahini, garlleg (os dymunwch), coriander, cwmin a phupur du mewn prosesydd neu flendiwr bwyd nes eu bod yn bâst bras. 2. Trefnwch y llysiau amrwd ar un plât mawr neu bedwar plât bach. Codwch yr hwmws i un ddysgl fawr neu bedair dysgl fach a’i weini gyda’r llysiau. Amrywiad Gweinwch gyda bysedd tôst, ffyn bara neu gracyrs a defnyddiwch hanner y symiau a roddir yn y rysait uchod. Coginio creadigol – Prydau ysgafn 91 Risoto tiwna a chorbwmpen Cyfrinach gwneud risoto da yw ychwanegu jest digon o stoc poeth fesul dipyn trwy’r broses goginio a throi’r reis yn aml tra bydd yn coginio. Digon i 2-3 Bydd arnoch angen: 1 llwy fwrdd olew blodau’r haul 1 winwnsyn bach coch, wedi’i dorri’n ddarnau 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân 1 pupryn bach coch neu felyn, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n sgwariau 1 corbwmpen (courgette) (tua 200g/7 owns), wedi’i dorri’n sgwariau 115g (4 owns) madarch castan, wedi’u torri’n sleisys trwchus 175g (6 owns) reis risoto arborio Tua 600ml (1 peint) stoc llysiau da 125ml (4 owns hylif) gwin gwyn sych Tun 200g (7 owns) darnau tiwna mewn dŵr ffynnon neu ddŵr halen, wedi’u draenio a’u gwahanu’n haenau 2 lwy fwrdd persli dail fflat, wedi’i dorri’n ddarnau Pupur du newydd ei falu, at eich dant Dull 1. Cynheswch yr olew mewn sosban â gwaelod trwm. Ychwanegwch y winwns, y garlleg a’r pupryn coch neu felyn a’u coginio am 5 munud neu nes eu bod yn feddal, gan eu troi weithiau. Ychwanegwch y gorbwmpen a’r madarch a’u coginio am funud, gan eu troi. Ychwanegwch y reis a choginio am funud arall, gan ddal i droi. Mewn sosban fach, codwch y stoc i’r berw, rhowch gaead arno a’i gadw i fudferwi. 2. Rhowch y gwin gyda chymysgedd y reis a’i goginio’n sydyn am funud neu ddwy neu nes bod y gwin bron wedi anweddu’n llwyr, gan ei droi trwy’r amser. Trowch y gwres i lawr i wres canolig/isel. Rhowch y stoc poeth gyda’r reis yn raddol, llond lletwad ar y tro, gan adael iddo gael ei sugno i mewn cyn ychwanegu rhagor, a’i droi’n aml iawn nes bod y reis yn dyner. Bydd hyn yn cymryd rhyw 20 munud. Efallai na fydd angen y stoc i gyd arnoch. 3. Trowch y darnau tiwna i mewn yn ofalus a’i gynhesu am ryw ddwy funud nes bod y tiwna’n boeth, gan ei droi unwaith neu ddwy. Trowch y persli i mewn iddo ac ychwanegu pupur du. Bwytwch yn boeth. Coginio creadigol – Prif brydau 93 Pastai’r Bwthyn Mae mins cig eidion di-fraster, llysiau ychwanegol a thopin tatws braster-isel yn helpu i greu fersiwn flasus ac iachus o bastai’r bwthyn traddodiadol. Gallwch ei weini gyda llysiau gwyrdd wedi’u coginio – fel brocoli, ffa gwyrdd neu bys – i gael pryd gwerth chweil. Digon i 2-3 Bydd arnoch angen: 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n ddarnau 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu 225g (8 owns) mins cig eidion di-fraster iawn 1 moronen (tua 85g-100g/3-3½ owns), wedi’i phlicio a’i thorri’n fân 85g (3 owns) madarch botwm, wedi’u sleisio 1-2 ffon seleri, wedi’u torri’n fân 1 llwy fwrdd blawd plaen 1 llwy fwrdd piwre tomatos Tun 225g (8 owns) tomatos wedi’u torri’n ddarnau 1 llwy de perlysiau cymysg sych 150ml ( 1/4 peint) stoc cig eidion da 5 llwy fwrdd gwin coch Pupur du newydd ei falu, at eich dant 750g (1 pwys 10 owns) tatws, wedi’u plicio a’u torri’n ddarnau bras 2-3 llwy fwrdd llaeth hanner sgim Dull 1. Rhowch y winwnsyn, y garlleg a’r mins cig eidion mewn sosban nad yw’n glynu. Coginiwch dros wres cymedrol gan ei droi’n aml am 4-6 munud neu nes bod y cig yn frown drosto. Ychwanegwch y moron, y madarch a’r seleri a’i goginio am 4-5 munud. Ychwanegwch y blawd a’r piwre tomatos a’i goginio am funud, gan ei droi. 2. Trowch y tomatos, y perlysiau, y stoc, y gwin a’r pupur du i mewn gan ei gymysgu’n dda. Codwch i’r berw, yna trowch y gwres i lawr, rhowch gaead drosto a’i fudferwi am 40 munud gan ei droi weithiau. Tynnwch y caead am y 10 munud diwethaf i dewychu’r saws cig os dymunwch. 3. Tra bydd y cig yn coginio, cynheswch y ffwrn i 200ºC/ffan 180ºC/ marc nwy 6. 4. Hefyd tra bydd y cig yn coginio, berwch y tatws mewn sosban arall am 15-20 munud neu nes y byddant yn dyner. Draeniwch a’u rhoi nôl yn y sosban. Stwnshwch y tatws neu eu gwasgu, ychwanegwch y llaeth gan ei gymysgu’n dda, ac ychwanegu pupur du. 5. Codwch y cymysgedd cig i ddysgl bobi. Codwch y tatws drosto i gyd, addurnwch wyneb y tatws â fforc. Rhowch y ddysgl ar silff bobi os dymunwch. Rhowch yn y ffwrn am 20-25 munud neu nes bydd y topin yn frown euraid. Bwytwch yn boeth. Awgrym Gallwch ddefnyddio’r cymysgedd cig sydd yn y rysáit hon ar gyfer prydau eraill fel spaghetti bolognese neu chili con carne, gan ychwanegu cynhwysion a pherlysiau eraill at eich dant. Coginio creadigol – Prif brydau 95 Tshili ffa a llysiau Mae tshili ffa a llysiau’n bryd di-gig blasus a maethlon. Gallwch ei fwyta gyda bara crystiog neu ar wely o reis brown a pherlysiau neu cwscws. Digon i 2 (Mae’r rhain yn blateidiau mawr) Bydd arnoch angen: 2 lwy de olew olewydd 1 winwnsyn bach coch, wedi’i sleisio 1 pupryn bach coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n sgwariau 1 tshili coch ffres, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân 1 ewin garlleg, wedi’i wasgu 1 llwy de coriander mâl 1 llwy de cwmin mâl ½ llwy de powdwr tshili poeth (os dymunwch) 1 moronen, wedi’i sleisio 175g (6 owns) blodigau blodfresych Tun 227g (8 owns) tomatos wedi’u torri’n ddarnau 200ml (7 owns hylif) stoc llysiau 1 llwy fwrdd piwre tomatos Pupur du newydd ei falu, at eich dant Tun 220g (8 owns) cidnabêns coch, wedi’u rinsio a’u draenio Tun 300g (10½ owns) ffa cannellini, wedi’u rinsio a’u draenio Sbrigau coriander ffres, i’w addurno Dull 1. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban ganolig ei maint nad yw’n glynu. Ychwanegwch y winwnsyn, y pupur coch, tshili ffres a garlleg, a’i goginio’n ysgafn am 4 munud, gan ei droi weithiau. Ychwanegwch y coriander, cwmin a phowdwr tshili (os dymunwch) a’i goginio am funud, gan ei droi. 2. Ychwanegwch y moron, blodfresych, tomatos, stoc, piwre tomatos a phupur du a throi i’w gymysgu. Codwch i’r berw, trowch y gwres i lawr, rhowch gaead arno a’i fudferwi am 20-25 munud, gan ei droi weithiau. 3. Rhowch y ffa tun i mewn a’i droi. Codwch y gymysgedd yn ôl i’r berw a’i goginio am 10-15 munud, neu nes bod y llysiau’n dyner. 4. Addurnwch â sbrigau coriander. Eog pob gyda lemon a pherlysiau ffres Mae pysgod olewog, fel eog, sardîns, brithyll a phenwaig Mair (pilchards) yn cynnwys brasterau omega-3 y credir eu bod yn rhan bwysig o ddeiet sy’n lles i’r galon. Mae lliw a blas mwyn eog yn golygu ei fod yn bysgodyn da i ddechrau cael pobl i arfer â physgod olewog. Gallwch ei fwyta gyda llysiau fel ffa gwyrdd, cobiau india corn bach a thatws newydd. Digon i 4 Bydd arnoch angen: 2 lwy de olew olewydd Sudd a chroen un lemon mawr wedi’i gratio’n fân 1 llwy de mêl clir 1 llwy fwrdd taragon ffres wedi’i dorri’n ddarnau 1 llwy fwrdd persli ffres wedi’i dorri’n ddarnau Pupur du newydd ei falu, at eich dant 4 stecen eog, tua 140-175g (5-6 owns) yr un Sbrigau taragon ffres a sleisys lemon, i’w addurno Dull 1. Cynheswch y ffwrn i 200ºC/ffan 180ºC/marc nwy 6. 2. Rhowch yr olew, y croen a’r sudd lemon, y mêl, y perlysiau a’r pupur du mewn dysgl fach a’i droi’n dda. 3. Rhowch y darnau pysgod mewn dysgl bobi ac arllwys y cymysgedd lemon drostynt. Rhowch ffoil yn llac dros y ddysgl gan ofalu nad yw’n cyffwrdd â’r pysgod. 4. Pobwch yn y ffwrn am 20-25 munud neu nes bod y pysgod wedi coginio ac yn dyner gan ddechrau llacio’n haenau. 5. Codwch y pysgod yn ddarnau cyfan ar blatiau gweini. Arllwyswch ychydig o’r sudd coginio dros y pysgod a’u haddurno â sbrigau taragon a sleisys lemon. Coginio creadigol – Prif brydau 97 Pwdin bara bricyll sbeislyd Mae’r fersiwn iachach hon o’r pwdin bara traddodiadol yn hyfryd iawn. Yn lle menyn, defnyddiwn ychydig o sbred braster-is a jam bricyll. Mae’r llaeth hanner sgim yn cadw’r braster yn isel hefyd. Mae’r bricyll (apricots) sych yn ychwanegu blas a maeth. Digon i 2-3 Bydd arnoch angen: 3 tafell ganolig o fara gwenith cyflawn neu fara gwyn 15g (½ owns) sbred braster-is, ac ychydig mwy i iro’r ddysgl 25g (1 owns) jam bricyll 100g (3½ owns) bricyll (apricots) sych parod-i’w-bwyta, wedi’u torri’n ddarnau ½ llwy de sbeis cymysg mâl 25g (1 owns) siwgr brown meddal golau 1 ŵy 300ml (½ peint) llaeth hanner sgim Dull 1. Irwch ddysgl bobi fas yn ysgafn a’i rhoi o’r neilltu. Rhowch haen denau o sbred braster-is ar un ochr i bob tafell o fara, a jam wedyn. Torrwch bob tafell yn drionglau. Rhowch hanner y trionglau ar waelod y ddysgl bobi a’r jam am i fyny. 2. Cymysgwch y bricyll, y sbeis cymysg a hanner y siwgr a’i daenu’n wastad dros y bara yn y ddysgl. Trefnwch weddill y trionglau bara drosto, a’r jam am i fyny, a haen wastad o weddill y siwgr drostynt. 3. Curwch yr ŵy a’r llaeth gyda’i gilydd mewn dysgl neu jwg a’i arllwys dros y bara. Gadewch ef am hanner awr i’r bara sugno peth o’r hylif. 4. Cynheswch y ffwrn i 180ºC/ffan 160ºC/marc nwy 4. Pobwch y pwdin bara yn y ffwrn am 35-40 munud neu nes y bydd wedi setio ac yn frown euraid. Gallwch ei fwyta’n boeth neu ar dymheredd yr ystafell. Mwtrin iogwrt a mwyar duon Mae hwn yn bwdin blasus, hawdd i’w wneud, sy’n defnyddio mwyar duon o’r cloddiau. Gallwch eu rhewi yn eu tymor i chi gael mwynhau’r pwdin drwy’r flwyddyn. Gallwch ei fwyta gyda bisgedi ceirch neu bysedd sbwng. Digon i 2 Bydd arnoch angen 225g (8 owns) mwyar duon aeddfed ffres 1-2 llwy fwrdd mêl clir, neu faint fynnwch 100ml (3½ owns hylif) iogwrt plaen trwchus braster-isel 2 lwy fwrdd crème fraîche braster-is Dull 1. Rhowch y mwyar duon mewn blendiwr neu brosesydd bwyd a’u blendio nes eu bod yn feddal. Hidlwch y piwre i bowlen, gan gadw’r sudd a’r cnawd a thaflu’r hadau. Neu gallwch stwnsho’r mwyar yn dda mewn dysgl a hidlo’r piwre fel uchod. 2. Rhowch y mêl yn y mwyar a chymysgu’n dda. Ychwanegwch yr iogwrt a’r crème fraîche a’i droi’n ofalus nes eu bod wedi cymysgu’n dda. 3. Codwch y cymysgedd i wydrau neu ddysglau gweini. Oerwch cyn ei weini. Amrywiadau Defnyddiwch aeron cymysg ffres fel mefus, mafon a llusi Americanaidd yn lle’r mwyar duon. Defnyddiwch yr un faint o gnawd mango aeddfed wedi tynnu’r croen a’r garreg yn lle’r mwyar. I wneud mwtrin cwstard a mwyar duon, gwnewch biwre o’r mwyar a’u hidlo fel uchod. Ychwanegwch lond llwy fwrdd o fêl os dymunwch. Ychwanegwch 100ml (3½ owns hylif) o gwstard parod oer, braster-isel yn lle’r iogwrt, a’i droi ac yna trowch y crème fraîche i mewn iddo. Rhowch i oeri cyn gweini. Coginio creadigol – Pwdinau 99 Sut y gall y British Heart Foundation eich helpu chi Ni yw prif elusen Prydain ym maes y galon. Rydym yn ymroi i achub bywydau trwy waith ymchwil arloesol, gofalu am gleifion, ymgyrchu dros newid a rhoi gwybodaeth i helpu pobl. Efallai y bydd rhai o’r adnoddau isod o gymorth i chi: Llyfrynnau Our heart health catalogue Ar eich cyfer chi, eich teulu a’ch ffrindiau, a gweithwyr iechyd proffesiynol Get active, stay active Mwynhewch fywyd egnïol a chadw’ch calon yn iach Be active for life Dros 50? Cadwch eich calon yn iach trwy weithgarwch corfforol Put your heart into walking Mae’n hawdd, mae am ddim, mae’n lles i’r galon Physical activity and your heart Ar gyfer pobl sydd â chlefyd y galon neu sydd mewn peryg o’i ddatblygu Take control of your weight Ffyrdd diogel o golli pwysau er lles y galon Cwtogwch eich defnydd o halen (Cut down on salt yn Saesneg) Mae’n hawdd ei wneud ac yn lles i’r galon Stop smoking Sut i roi’r gorau iddi er lles y galon Coping with stress Sut i reoli straen a helpu’ch calon Rhowch hwb i blant i gadw’n heini! (Get kids on the go! yn Saesneg) Digonedd o syniadau i hybu’ch plant i gadw’n heini DVD Risking it Mae’r DVD hwn yn dilyn pump o bobl gyffredin, pawb ohonynt ag un neu fwy o ffactorau risg clefyd coronaidd y galon. Maent wedi penderfynu dechrau cymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a chymryd camau cadarnhaol. Os hoffech wybodaeth am lyfrynnau a DVDs eraill y BHF, gofynnwch am gopi o Our heart health catalogue. Sut i archebu ein hadnoddau Os hoffech archebu unrhyw rai o’n llyfrynnau neu’n DVDs: ● ● ● ffoniwch Linell Archebu BHF ar 0870 600 6566 ebostiwch [email protected] ewch i bhf.org.uk/publications Gallwch lawrlwytho nifer o’n cyhoeddiadau o’n gwefan. Nid ydym yn codi tâl am ein llyfrynnau, ond byddem yn croesawu cyfraniad fel y gallwn barhau â’n gwaith hollbwysig. (Trowch y dudalen i weld sut i wneud cyfraniad). Heart Matters Gwasanaeth di-dâl, personol i chi, yw Heart Matters ac mae’n eich helpu i fyw gyda chalon iach. Ymunwch heddiw i gael manteision fel cylchgrawn heart matters (yn Saesneg), Llinell Gymorth, a lle arbennig i aelodau gyda ryseitiau, erthyglau ac awgrymiadau ar gyfer byw’n iach. Gallwch gofrestru ar-lein yn bhf.org.uk/heartmatters neu ffonio 0300 330 3300 (codir pris galwad leol). Sut y gall y British Heart Foundation eich helpu chi 101 Mae angen eich help arnon ni… i barhau â’n gwaith yn achub bywydau Gan mai elusen ydym, rydym yn dibynnu ar haelioni pobl fel chi i dalu am ein gwaith pwysig. Mae miloedd o bobl sydd â chlefyd y galon yn troi atom bob blwyddyn a bydd angen ein cymorth ar hyd yn oed fwy o bobl o hyn ymlaen. Rydym yn awyddus i’w helpu Rhowch rodd heddiw a gallwn drechu clefyd y galon am byth gyda’n gilydd. Os hoffech wneud cyfraniad, gallwch: ● ● ● ffonio ein llinell roddion ar 0300 330 3322, mynd i’n gwefan, bhf.org.uk/donate, neu ei bostio atom yn y cyfeiriad ar y clawr ôl. Ffyrdd eraill y gallwch helpu Gallwch chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i drechu clefyd y galon mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd: ● ● ● ● ● Gwirfoddolwch a helpu i redeg ein siopau, ein digwyddiadau neu’n gwasanaethau i gymunedau lleol. I gael gwybod mwy, ffoniwch 0845 130 8663 neu fynd i bhf.org.uk/volunteer Mwynhewch ras, reid feics neu daith gerdded noddedig. I gael gwybod rhagor, ffoniwch 0844 477 1181 neu ewch i bhf.org.uk/events Ymunwch â chynllun Heartstart a dysgu sut i achub bywydau gyda sgiliau cynnal bywyd mewn argyfwng. Mae dros 2.3 miliwn o bobl eisoes wedi gwneud hynny. I gael gwybod rhagor, e-bostiwch [email protected] Rhowch bethau i siop leol BHF. I gael gwybod lle mae siop agosaf BHF, ffoniwch 0844 412 5000. Rhowch wrth ddathlu. Os byddwch yn cael parti pen-blwydd neu benblwydd priodas, cynigiwch gyfle i’r gwesteion roi rhodd i ni yn lle prynu anrheg i chi. Cewch ragor o wybodaeth yn bhf.org.uk/celebrate Diolch. Your support will help us prevent early deaths Here is my gift to help more people recover from heart problems £10 £15 £20 Other £ Please make your cheque / postal order/ CAF voucher payable to the British Heart Foundation. Title (Mr/Mrs/Miss/Other) First name Surname Address Postcode Email We would like to keep in touch with you, to let you know your support has made a difference. By supplying your email address you agree that the BHF may use this to contact you about our work. OR please debit the above sum from my: MasterCard CAF Card Visa / Delta Maestro Card number Valid from (Maestro only) / Expiry date / Issue no (Maestro only) Signature Date / / Please tick here if you do not wish the British Heart Foundation to contact you. (MP0059) From time to time we allow other similar organisations to write to our supporters. If you do not wish to be contacted by them, please tick here. (MP0060) The British Heart Foundation is the nation’s heart charity, registered in England and Wales (225971) and in Scotland (SC039426). Make your gift worth almost a third more – at no extra cost to you! Are you a UK taxpayer? If you are a UK taxpayer please tick the first box so we can claim back up to 28p for every £1 you give at no extra cost to you. 10BS00 CC10CC GA1 Yes, I am a UK taxpayer and would like the BHF to reclaim the tax on any of the donations I have made in the last four years and any future donations I may make.* Date GA2 * To qualify for Gift Aid, you must pay an amount of UK Income Tax and/or Capital Gains Tax at least equal to the tax that the BHF will reclaim on your donations in the appropriate tax year. Your donation must be of your own money and cannot be a collection. No, I am not a UK taxpayer. 1411–50030–5D01 Anfonwch y ffurflen hon i: British Heart Foundation Greater London House 180 Hampstead Road Llundain/London NW1 7AW Diolch. Mynegai A alcohol ...................................... 26–27 B bocsys bwyd .. ............................ 68-69 braster ....................................... 18-19 braster dirlawn ................................ 18 braster aml-annirlawn ...................... 18 braster annirlawn .. ........................... 18 braster mono-annirlawn .. ................. 18 bwydydd llaeth .. .............................. 13 byrbrydau ....................................... 75 C caffîn .. ............................................. 25 caws .. .............................................. 74 cig .. ............................................ 14-15 ciniawau .. ................................... 63-71 coffi .. ............................................... 25 colesterol ......................................... 3 cynllunio prydau .. ....................... 63-71 D diodydd ..................................... 24-25 dros bwysau ............................... 53-54 dulliau coginio ............................ 76-77 G grwpiau: grwpiau bwyd ................ 5-17 H halen .. ........................................ 20-21 Ll llaeth .. ............................................. 13 llysieuwyr ........................................ 15 M mynd allan i fwyta ...................... 79-81 O omega-3 .. ........................................ 18 P plant ................. 31-33, 50-51, 60-61, 71 plant dan 5 oed .. ......................... 31-33 plât bwyta’n iach .............................. 4 pwysau ...................................... 53-55 pysgod ....................................... 14-15 pysgod olewog .. .............................. 14 R ryseitiau ..................................... 85-99 S siwgr .......................................... 16-17 stanolau .......................................... 19 sterolau ........................................... 19 T tan bwysau .. ............................... 53,55 targedau ................................... 40-43 te .................................................... 25 traws-frasterau ................................ 19 L labeli bwyd .. ............................... 47-49 Mynegai 105 Dweud eich dweud Byddem yn croesawu eich sylwadau i’n helpu i baratoi’r wybodaeth orau ar eich cyfer. Rhowch wybod i ni beth yw’ch barn chi. Gallwch gysylltu â ni trwy ein gwefan, bhf.org.uk/contact neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad ar y clawr cefn. Diolchiadau Hoffai y British Heart Foundation ddiolch i’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi rhoi eu hamser a’u cefnogaeth i ddatblygu’r adnodd hwn. Plant ac ysgolion Hoffech chi weld plant y teulu’n fwy egnïol ac yn bwyta’n iachach? Helpwch nhw i wneud newidiadau nawr trwy eu hannog i fynd i’r gwefannau Saesneg isod: cbhf.net gwefan i blant 7-11 oed yheart.net a yoobot.co.uk gwefannau i rai 12-19 oed A oes nam ar galon person ifanc yn eich teulu chi? Ewch i yheart.net/meet Cewch archebu adnoddau o’n Kids’ and schools’ catalogue trwy fynd i bhf.org.uk/publications, ffonio 0870 600 6566, neu e-bostio [email protected] Heading 1 © British Heart Foundation 2010, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (225971) ac yn yr Alban (SC039426). G186W/0510 British Heart Foundation Greater London House 180 Hampstead Road Llundain/London NW1 7AW Ffôn: 020 7554 0000 Gwefan: bhf.org.uk